Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 28 Chwefror 2018.
Diolch i fy nghyfaill o Gaerffili am y cwestiwn anodd hwnnw. A gaf fi ddweud bod tasglu'r Cymoedd yn bodoli er mwyn siapio polisïau ac ymagwedd Llywodraeth Cymru? Nid yw'n bodoli fel endid annibynnol ar wahân i'r Llywodraeth, ac fel y cyfryw, mae'n ceisio gweithio'n agos gyda'r ddwy fargen ddinesig yn ne Cymru, yn y brifddinas-ranbarth ac yn Abertawe, ac mae'n ceisio sicrhau ein bod yn lleihau cymhlethdod. Un o'r heriau y credaf fod yn rhaid inni ei hwynebu yw sicrhau gwell cydlyniant wrth ddatblygu polisi a chyflwyno polisi, gan sicrhau ein bod yn lleihau cymhlethdod ac yn cynyddu symlrwydd o ran sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd. Ar hyn o bryd, rwy'n hyderus fod y strwythurau sydd ar waith gennym i sicrhau ein bod yn gallu gweithio'n effeithiol gyda'n gilydd ac i sicrhau bod effaith y naill a'r llall gymaint ag y gall fod heb inni syrthio i'r trap o ddyblygu ein huchelgeisiau, ein gweledigaeth a'n polisïau. Ond credaf fod angen inni sicrhau bod gennym fwy o symlrwydd yn y dyfodol.