1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 28 Chwefror 2018.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae tasglu'r Cymoedd yn cefnogi datblygiadau economaidd eraill yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ51801
Mae'r tasglu yn gweithredu dull cydgysylltiedig o gyflawni datblygu economaidd ar draws y Cymoedd, yn enwedig drwy hybiau strategol a chefnogi entrepreneuriaeth. Bydd hefyd yn sicrhau bod pobl yn y Cymoedd yn elwa ar ddatblygu economaidd ledled de-ddwyrain Cymru drwy weithio gyda'r bargeinion dinesig a sicrhau bod cymaint o gyfleoedd â phosibl yn deillio o brosiectau seilwaith mawr.
Pa mor effeithiol, yn ei farn ef, yw'r gwaith rhwng y bargeinion dinesig a thasglu'r Cymoedd, yn enwedig bwrdd y fargen ddinesig a bwrdd tasglu'r Cymoedd, a pha welliannau y byddai'n eu cyflwyno er mwyn gwella'r cydweithio hwnnw?
Diolch i fy nghyfaill o Gaerffili am y cwestiwn anodd hwnnw. A gaf fi ddweud bod tasglu'r Cymoedd yn bodoli er mwyn siapio polisïau ac ymagwedd Llywodraeth Cymru? Nid yw'n bodoli fel endid annibynnol ar wahân i'r Llywodraeth, ac fel y cyfryw, mae'n ceisio gweithio'n agos gyda'r ddwy fargen ddinesig yn ne Cymru, yn y brifddinas-ranbarth ac yn Abertawe, ac mae'n ceisio sicrhau ein bod yn lleihau cymhlethdod. Un o'r heriau y credaf fod yn rhaid inni ei hwynebu yw sicrhau gwell cydlyniant wrth ddatblygu polisi a chyflwyno polisi, gan sicrhau ein bod yn lleihau cymhlethdod ac yn cynyddu symlrwydd o ran sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd. Ar hyn o bryd, rwy'n hyderus fod y strwythurau sydd ar waith gennym i sicrhau ein bod yn gallu gweithio'n effeithiol gyda'n gilydd ac i sicrhau bod effaith y naill a'r llall gymaint ag y gall fod heb inni syrthio i'r trap o ddyblygu ein huchelgeisiau, ein gweledigaeth a'n polisïau. Ond credaf fod angen inni sicrhau bod gennym fwy o symlrwydd yn y dyfodol.
Ysgrifennydd y Cabinet, ers 2012, mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £94 miliwn ar ardal fenter Glyn Ebwy er mwyn creu 175 yn unig o swyddi amser llawn. Sut y bydd tasglu'r Cymoedd yn cefnogi a gwella perfformiad ardal fenter Glyn Ebwy, os gwelwch yn dda?
Lywydd, rydych yn ymwybodol mai fi yw'r Aelod dros Flaenau Gwent a bod gennyf ddiddordeb uniongyrchol yn y mater hwn. Hoffwn ddweud wrth yr Aelod fod llawer iawn o waith yn mynd rhagddo ym Mlaenau Gwent rhwng Llywodraeth Cymru a'r awdurdod lleol yno, a gwaith gyda'r ardal fenter a bwrdd yr ardal fenter ac eraill sydd â diddordeb mewn buddsoddi yn economi Blaenau'r Cymoedd. Rydym ein dau wedi cynrychioli'r ardal am yr un cyfnod o amser—fi a'r Aelod Ceidwadol—ac nid wyf wedi'i weld yn unrhyw un o'r cyfarfodydd hynny neu'n cymryd rhan yn unrhyw un o'r gweithgareddau hynny. Pe bai ganddo fwy o ddiddordeb yn ei ranbarth cyfan, efallai y byddai'n gallu ateb y cwestiwn ei hun.
Ysgrifennydd y Cabinet, credaf fod y rhan fwyaf ohonom ni, Aelodau Cynulliad y Cymoedd, yn gefnogol iawn i'r hyb strategol—roeddwn yn ceisio cofio'r geiriau—yn y cynllun. Credaf fod nodi cyfleoedd i fuddsoddi yn yr amodau cymdeithasol ac economaidd mewn cymunedau fel Cwm Rhymni uchaf ac yn eich etholaeth eich hun ym Mlaenau Gwent yn ystyriaeth bwysig ar gyfer partneriaid o'r sector cyhoeddus ar fwrdd y dinas-ranbarth. Rwyf wedi dweud o'r blaen na ddylai unrhyw un wrthwynebu ein buddsoddiad rhanbarthol mewn prosiectau yng Nghasnewydd ac yng Nghaerdydd a rhai o'r cytrefi mawr, ond rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi y bydd y llwyddiant gwirioneddol yn dod pan fyddwn yn gweld twf gwirioneddol a chynaliadwy a llwyddiant mewn lleoedd fel Cwm Rhymni uchaf.
A gaf fi ddweud, Lywydd, fy mod yn cytuno'n llwyr gyda'r Aelod dros Ferthyr Tudful? Gwn pa mor weithgar y mae hi wedi bod—Merthyr Tudful a Rhymni, dylwn ddweud, wrth gwrs, neu fe fyddaf mewn trafferth ofnadwy. Gwn pa mor weithgar y mae hi wedi bod yn hyrwyddo'r ardal honno, ac rwy'n ymwybodol o'r gwaith y mae wedi'i wneud i sicrhau bod hyn ar agenda tasglu'r Cymoedd a Llywodraeth Cymru yn ehangach.
Gŵyr yr Aelod y byddwn yn cynnal seminar fis nesaf ar sut yr awn ati i sicrhau cymaint o fanteision â phosibl o brosiect deuoli'r A465 i wneud yn siŵr ein bod yn gallu creu'r effaith fwyaf sy'n bosibl ar draws Blaenau'r Cymoedd o Fryn-mawr draw i Hirwaun, er mwyn sicrhau nad gwario'r arian ar ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd yn unig a wnawn, ond ein bod yn ei fuddsoddi mewn datblygu economaidd mewn gwirionedd. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y gwaith a wneir yn yr hybiau strategol ym Merthyr Tudful a Glyn Ebwy er mwyn sicrhau ein bod yn gallu creu rhanbarth economaidd newydd, os mynnwch, ar draws Blaenau'r Cymoedd i gyd, a bod hynny'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth hon yn gweithio arno gyda llywodraeth leol, busnesau ac eraill i'w gefnogi a'i gynnal.