Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 28 Chwefror 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cymeradwyo cyllideb a fydd yn arwain at doriadau i wasanaethau a fydd yn effeithio'n sylweddol ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn yr ardal. Maent yn cynnwys pobl â phroblemau iechyd meddwl sy'n agored i niwed, pobl ag anableddau dysgu a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol. Beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i fynd i'r afael â dicter a siomedigaeth pobl Casnewydd, sy'n wynebu'r toriadau hyn i wasanaethau hanfodol? Mae'n Ddydd Gŵyl Dewi yfory; buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi ateb yn ysbryd Dydd Gŵyl Dewi, yn hytrach na beio Llundain, a rhoi ateb Cymreig i hyn.