1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 28 Chwefror 2018.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gynorthwyo awdurdodau lleol i warchod eu gwasanaethau anstatudol? OAQ51814
Mae gwasanaethau awdurdodau lleol yn chwarae rhan hollbwysig ym mywydau pob dinesydd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i warchod cyllid ar gyfer ein hawdurdodau lleol fel y gall y gwasanaethau hanfodol hynny, y rhai statudol a'r rhai anstatudol, barhau i gael eu darparu. Fodd bynnag, mater i'w benderfynu'n lleol yw'r modd y darperir gwasanaethau'n lleol.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwyddom fod polisïau cyni Llywodraeth y DU yn rhoi cryn bwysau ar ein hawdurdodau lleol, ac yn amlwg, rhaid iddynt gyflawni'r hyn y byddai llawer yn ei ddweud yw eu prif gyfrifoldebau statudol o ran addysg a gwasanaethau cymdeithasol, er enghraifft. Ond mae gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, gwasanaethau ieuenctid a llawer o wasanaethau eraill hefyd yn bwysig ac yn arwyddocaol iawn, ac yn wir, mae angen ystyried pob un ohonynt gyda'i gilydd mewn perthynas ag ansawdd bywyd pobl leol.
Gwyddom fod gwahanol ddulliau o ddarparu wedi cael eu rhoi ar waith gan awdurdodau lleol yng Nghymru a bod llawer ohonynt yn eithaf llwyddiannus. Ysgrifennydd y Cabinet, i ba raddau y mae gan Lywodraeth Cymru drosolwg o'r ffyrdd newydd hyn o ddarparu, sydd weithiau'n well, a pha gyngor, cefnogaeth a rhannu arferion gorau sy'n digwydd drwy Lywodraeth Cymru o ran ategu gweithgarwch Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Hefyd, pa bwerau newydd, a'r pŵer cymhwysedd cyffredinol yn benodol efallai, a allai gynorthwyo'r awdurdodau lleol i sicrhau gwell darpariaeth yn y dyfodol?
Cytunaf yn llwyr gyda'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd. Credaf ei fod yn deall yn iawn, wrth ddarparu model gwahanol ar gyfer llywodraeth leol, fod angen inni wneud hynny mewn ffordd gyfannol, gan ddarparu pwerau i lywodraeth leol weithredu mewn ffordd sy'n eu galluogi i fabwysiadu ymagwedd gyfannol yn eu cymunedau, i siapio eu cymunedau, a chreu lleoedd gwych i fyw a gweithio sy'n wych ar gyfer teuluoedd, ymdeimlad o le ac ymdeimlad o gymuned.
Rydym yn awyddus i awdurdodau lleol allu siapio cymunedau yn y dyfodol, gan greu mannau lle y gall pobl fyw a ffynnu yn ogystal â chreu gwasanaethau i bobl. Dyna'r math o weledigaeth sydd gennyf, ac mae'n ymwneud â chwestiynau cynharach gan lefarydd Plaid Cymru nid yn unig am siâp a strwythurau llywodraeth leol yn y dyfodol, ond hefyd y pwerau a'r cyfrifoldebau ar gyfer llywodraeth leol. Rwyf wedi ceisio bod yn glir iawn yn y pwyntiau a wneuthum yn y rôl hon: fy mod yn gweld dyfodol gwych i lywodraeth leol fel galluogwr gwasanaethau cymunedol yn ogystal â darparwr gwasanaethau cymunedol, ac rwyf am weld llywodraeth leol yn cryfhau yn y dyfodol, gyda mwy o allu i ddarparu nid yn unig gwasanaethau statudol ond ffordd wych o fyw i bobl, ble bynnag y maent yng Nghymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cymeradwyo cyllideb a fydd yn arwain at doriadau i wasanaethau a fydd yn effeithio'n sylweddol ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn yr ardal. Maent yn cynnwys pobl â phroblemau iechyd meddwl sy'n agored i niwed, pobl ag anableddau dysgu a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol. Beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i fynd i'r afael â dicter a siomedigaeth pobl Casnewydd, sy'n wynebu'r toriadau hyn i wasanaethau hanfodol? Mae'n Ddydd Gŵyl Dewi yfory; buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi ateb yn ysbryd Dydd Gŵyl Dewi, yn hytrach na beio Llundain, a rhoi ateb Cymreig i hyn.
Rwy'n falch fod y Blaid Geidwadol bellach yn teimlo'r angen i roi cyngor i mi ar fy atebion yn ogystal â chraffu ar fy mherfformiad yn y swydd. A gaf fi ddweud hyn: prin y mae'n gweddu i unrhyw Aelod Ceidwadol ddod yma i drafod y problemau sy'n wynebu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau o ganlyniad uniongyrchol i bolisïau y maent hwy eu hunain yn eu cefnogi.