Y Gwasanaeth Tân ac Achub

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 28 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:20, 28 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Lywydd, rwy'n falch o glywed yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe yn dadlau dros newidiadau i strwythur a threfniadaeth cyrff llywodraeth leol yng Nghymru. Rwy'n falch iawn ei fod wedi ymuno â ni yn y consensws hwnnw. A gaf fi ddweud wrtho nad wyf, ar hyn o bryd, yn bwriadu gwneud unrhyw ddatganiad ar y mater hwn, ac eithrio dweud fy mod wedi ysgrifennu at gadeiryddion y tri awdurdod tân ac achub yng Nghymru yn amlinellu'r hyn rwy'n ei gredu sy'n achos dros newid? Rwy'n fwy na pharod, Lywydd, i roi'r llythyr hwnnw yn y llyfrgell i'r holl Aelodau ei weld, yr ohebiaeth honno, ac rwyf wedi gofyn i gadeiryddion yr awdurdodau tân ac achub ymateb i hynny pan fyddant yn gallu gwneud hynny. Fy mwriad, Lywydd, mewn perthynas â'r holl faterion hyn, yw bwrw ymlaen gyda chymaint o gonsensws â phosibl. Felly, ar hyn o bryd, nid wyf yn bwriadu gwneud argymhellion penodol ar gyfer diwygio'r awdurdodau tân ac achub—dim ond dweud fy mod yn credu bod angen eu diwygio, ac nad yw'r status quo yn gynaliadwy.