Part of the debate – Senedd Cymru ar 28 Chwefror 2018.
Cynnig NDM6669 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd darlledu i gynaliadwyedd democratiaeth hyfyw yng Nghymru;
2. Yn pryderu am y cwymp sylweddol yn nifer oriau darlledu ITV Cymru a'r toriadau sylweddol i S4C a'i sefyllfa ariannol ansicr bresennol;
3. Yn pryderu ymhellach am sefyllfa darlledu Cymraeg a Chymreig ar radio masnachol a theledu lleol ynghyd ag effaith cynigion Llywodraeth y DU i ddad-reoleiddio'r farchnad radio ymhellach;
4. Yn nodi bod angen i Gymru fod ar flaen y gad yn natblygiadau technolegau cyfryngol ac i ddarlledu Cymraeg a Chymreig fod ar nifer helaethach o blatfformau a dulliau o gynhyrchu, cyhoeddi a dosbarthu cynnwys;
5. Yn nodi y parheir i ddisgwyl i’r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gyhoeddi’r adolygiad annibynnol o S4C sy’n cael ei gynnal gan Euryn Ogwen Williams;
6. Yn galw ar Lywodraeth y DU a darlledwyr i sicrhau bod darlledu yn y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru’n cael ei gyllido’n ddigonol;
7. Yn cydnabod y dylai darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fod yn gwbl atebol i holl seneddau cenedlaethol y Deyrnas Unedig, fel ag sy’n briodol i’w cylch gwaith;
8. Yn nodi'r rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth y DU i ddarparu digon o arian i S4C er mwyn iddi gyflawni ei phwrpasau;
9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad i bwyso ar gyfer cadw'r rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth y DU i roi digon o arian i S4C i'w galluogi i gyflawni ei dibenion er mwyn ariannu unrhyw ddibenion estynedig y gallai ddod i feddiant S4C yn dilyn adolygiad Ogwen;
10. Yn nodi'r rhwymedigaethau cynyddol a osodir ar y BBC o ran portreadu a chomisiynu yn y cenhedloedd a'r rhanbarthau yn ei siarter newydd;
11. Yn nodi bod system ddarlledu genedlaethol ar gyfer y DU mewn gwell sefyllfa i gyrraedd yr holl genhedloedd a rhanbarthau i hyrwyddo dealltwriaeth o ddatganoli, er ei bod wedi methu â gwneud hynny hyd yma.