10. Cyfnod pleidleisio

– Senedd Cymru am 5:44 pm ar 28 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:44, 28 Chwefror 2018

Mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar adrefnu gweinidogol—adroddiad yr Ysgrifennydd Parhaol. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, yn ymatal 26, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig a gyflwynwyd yn enwau Paul Davies a Rhun ap Iorwerth, i gywiro'n hunan. 

NDM6668 - Dadl ar cynnig y Ceidwadwyr Cymreig: O blaid: 25, Yn erbyn: 0, Ymatal: 26

Derbyniwyd y cynnig

Rhif adran 639 NDM6668 - Dadl ar cynnig y Ceidwadwyr Cymreig

Ie: 25 ASau

Wedi ymatal: 26 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:45, 28 Chwefror 2018

Y bleidlais nesaf felly ar ddadl Plaid Cymru ar ddarlledu, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, un yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.  

NDM6669 - Dadl Plaid Cymru ar y cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 38, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y cynnig

Rhif adran 648 NDM6669 - Dadl Plaid Cymru ar y cynnig heb ei ddiwygio

Ie: 12 ASau

Na: 38 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: 1 AS

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:45, 28 Chwefror 2018

Pleidlais ar welliant 1, ac os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, yna bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd gwelliant 1. 

NDM6669 - Gwelliant 1: O blaid: 29, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 647 NDM6669 - Gwelliant 1

Ie: 29 ASau

Na: 22 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:46, 28 Chwefror 2018

Galwaf am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, wyth yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 3. 

NDM6669 - Gwelliant 3: O blaid: 41, Yn erbyn: 8, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 646 NDM6669 - Gwelliant 3

Ie: 41 ASau

Na: 8 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:46, 28 Chwefror 2018

Galwaf am bleidlais ar welliant 4 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, un yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 4. 

NDM6669 - Gwelliant 4: O blaid: 50, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 645 NDM6669 - Gwelliant 4

Ie: 50 ASau

Na: 1 AS

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:47, 28 Chwefror 2018

Galwaf am bleidlais ar welliant 5 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 51, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 5. 

NDM6669 - Gwelliant 5: O blaid: 51, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 644 NDM6669 - Gwelliant 5

Ie: 51 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:47, 28 Chwefror 2018

Galwaf am bleidlais ar welliant 6 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, neb yn ymatal, wyth yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 6. 

NDM6669 - Gwelliant 6: O blaid: 43, Yn erbyn: 8, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 643 NDM6669 - Gwelliant 6

Ie: 43 ASau

Na: 8 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:47, 28 Chwefror 2018

Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd. 

Cynnig NDM6669 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd darlledu i gynaliadwyedd democratiaeth hyfyw yng Nghymru;

2. Yn pryderu am y cwymp sylweddol yn nifer oriau darlledu ITV Cymru a'r toriadau sylweddol i S4C a'i sefyllfa ariannol ansicr bresennol;

3. Yn pryderu ymhellach am sefyllfa darlledu Cymraeg a Chymreig ar radio masnachol a theledu lleol ynghyd ag effaith cynigion Llywodraeth y DU i ddad-reoleiddio'r farchnad radio ymhellach;

4. Yn nodi bod angen i Gymru fod ar flaen y gad yn natblygiadau technolegau cyfryngol ac i ddarlledu Cymraeg a Chymreig fod ar nifer helaethach o blatfformau a dulliau o gynhyrchu, cyhoeddi a dosbarthu cynnwys;

5. Yn nodi y parheir i ddisgwyl i’r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gyhoeddi’r adolygiad annibynnol o S4C sy’n cael ei gynnal gan Euryn Ogwen Williams;

6. Yn galw ar Lywodraeth y DU a darlledwyr i sicrhau bod darlledu yn y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru’n cael ei gyllido’n ddigonol;

7. Yn cydnabod y dylai darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fod yn gwbl atebol i holl seneddau cenedlaethol y Deyrnas Unedig, fel ag sy’n briodol i’w cylch gwaith;

8. Yn nodi'r rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth y DU i ddarparu digon o arian i S4C er mwyn iddi gyflawni ei phwrpasau;

9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad i bwyso ar gyfer cadw'r rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth y DU i roi digon o arian i S4C i'w galluogi i gyflawni ei dibenion er mwyn ariannu unrhyw ddibenion estynedig y gallai ddod i feddiant S4C yn dilyn adolygiad Ogwen; 

10. Yn nodi'r rhwymedigaethau cynyddol a osodir ar y BBC o ran portreadu a chomisiynu yn y cenhedloedd a'r rhanbarthau yn ei siarter newydd;

11. Yn nodi bod system ddarlledu genedlaethol ar gyfer y DU mewn gwell sefyllfa i gyrraedd yr holl genhedloedd a rhanbarthau i hyrwyddo dealltwriaeth o ddatganoli, er ei bod wedi methu â gwneud hynny hyd yma. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:47, 28 Chwefror 2018

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, wyth yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig wedi ei ddiwygio. 

NDM6669 - Dadl Plaid Cymru ar y cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 41, Yn erbyn: 8, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Rhif adran 642 NDM6669 - Dadl Plaid Cymru ar y cynnig fel y'i diwygiwyd

Ie: 41 ASau

Na: 8 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:48, 28 Chwefror 2018

Y bleidlais nesaf yw dadl Plaid Cymru ar barhau ag aelodaeth o'r undeb dollau. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal, 43 yn erbyn. Gwrthodwyd y cynnig. 

NDM6670 - Dadl Plaid Cymru ar y cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 8, Yn erbyn: 43, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Rhif adran 641 NDM6670 - Dadl Plaid Cymru ar y cynnig heb ei ddiwygio

Ie: 8 ASau

Na: 43 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:48, 28 Chwefror 2018

Felly, pleidlais ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 1. 

NDM6670 - Gwelliant 1: O blaid: 17, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 640 NDM6670 - Gwelliant 1

Ie: 17 ASau

Na: 34 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:49, 28 Chwefror 2018

Gwelliant 2. Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Derbyniwyd y gwelliant. 

NDM6670 - Gwelliant 2: O blaid: 26, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 649 NDM6670 - Gwelliant 2

Ie: 26 ASau

Na: 25 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:49, 28 Chwefror 2018

Galwaf felly am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.  

Cynnig NDM6670 fel y'i diwygiwyd: 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn ailddatgan ei gefnogaeth i weld Cymru a’r Deyrnas Unedig yn parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl ac mewn Undeb Tollau gyda’r UE, er mwyn integreiddio gydag economïau ein cymdogion agosaf gymaint ag sy’n bosib wrth beidio â bod yn aelod-wladwriaeth o’r UE.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:49, 28 Chwefror 2018

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig wedi ei ddiwygio. 

NDM6670 - Dadl Plaid Cymru ar y cynnig fel y'i diwygiwyd : O blaid: 27, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Rhif adran 650 NDM6670 - Dadl Plaid Cymru ar y cynnig fel y'i diwygiwyd

Ie: 27 ASau

Na: 23 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Codaf y pwynt o drefn hwn o dan fusnes y Cyfarfod Llawn. Yng ngoleuni'r ffaith bod y lle hwn newydd bleidleisio o blaid y ddadl ar y cyd heddiw rhwng y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru, yn galw ar yr Ysgrifennydd Parhaol i gyhoeddi ei hadroddiad diweddar ar ddatgelu gwybodaeth Llywodraeth Cymru heb ganiatâd, hoffwn ofyn am eglurhad gennych chi, Lywydd, ar statws y bleidlais heddiw. O gofio bod y Senedd hon bellach wedi pleidleisio o blaid y cynnig hwn yn galw am fwy o dryloywder, gofynnaf am eich arweiniad ynglŷn ag a ddylid parchu'r bleidlais hon yn awr, ar ran pobl Cymru.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y pwynt hwnnw. Mae unrhyw bleidlais yn y Cynulliad Cenedlaethol yn bwysig ac mae iddi rym a mater i'r Llywodraeth yn awr, wrth gwrs, yw penderfynu sut y bydd yn dymuno ymateb, ond buaswn yn disgwyl iddi fod o ddifrif ynghylch unrhyw benderfyniad a basiwyd gan y Senedd hon.