Radio Digidol

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 28 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:23, 28 Chwefror 2018

A gaf i sicrhau'r Ysgrifennydd Cabinet nad ydw i'n mynd i gymryd fy nghawod trwy droi'r internet arno? Rydw i eisiau gwrando ar y radio yn y bore yn Aberystwyth, ac nid cymunedau bach sydd yn colli radio digidol. Mae yna wasanaeth digidol yn Aberystwyth, ond nid oes Radio Cymru na Radio Wales, ac felly mae'n rhaid gwneud yn siŵr bod ein darlledwyr cenedlaethol ni ar gael ym mhob rhan o Gymru cyn ein bod ni'n caniatáu i unrhyw droi bant o'r signal FM. Rydw i'n siarad fel rhywun sydd wedi troi at ddigidol ers dros 15 mlynedd. Rydw i'n ffan mawr o radio digidol, ond mae'n loes calon i mi na fedraf i wrando ar Radio Cymru a rhywun fel Rhys Mwyn gyda'r nos yn Aberystwyth.