2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru ar 28 Chwefror 2018.
1. Pa asesiad y mae Arweinydd y Tŷ wedi'i wneud o allu seilwaith digidol Cymru i ymdrin â'r defnydd o radio digidol yng Nghymru? OAQ51813
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn gyson wrth Lywodraeth y DU y dylai un o'r meini prawf sylfaenol sy'n gyrru'r broses o drosglwyddo i radio digidol nodi na ddylai'r argaeledd fod yn llai yng Nghymru nag yng ngweddill y DU. Ni fyddem o blaid trosglwyddo i radio digidol hyd nes y ceir sicrwydd fod argaeledd darlledu sain digidol yn 97 y cant o leiaf ledled Cymru.
Diolch am eich ateb. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud, wrth gwrs, pryd y byddant yn ystyried trosglwyddo i ddigidol, neu ddyddiad ar gyfer hynny beth bynnag, pan fydd 50 y cant o'r holl wrando a wneir ar radio yn digwydd drwy blatfformau digidol, pan fydd argaeledd darlledu sain digidol (DAB) cenedlaethol yn debyg i argaeledd FM, a phan fydd argaeledd DAB lleol yn cyrraedd 90 y cant. Felly, roedd gennyf ddiddordeb yn y ffigur o 97 y cant a grybwyllwyd gennych. Mae'r ffigurau hynny wedi'u cyrraedd fwy neu lai yn Lloegr, ac yn sicr fel cyfartaledd yn y DU, felly pa seilwaith ychwanegol sydd ei angen arnom yn eich tyb chi, er mwyn sicrhau bod Cymru yn dal i fyny'n gyflym?
Wel, y broblem fawr bob amser yng Nghymru yw'r anawsterau o ran lleoliad y boblogaeth, ac mae hon yn broblem ar gyfer yr holl fathau hyn o wasanaethau, a dyna pam rydym yn dadlau'n barhaus â Llywodraeth y DU ynglŷn â beth ddylai'r argaeledd cyfrannol fod. A'r rheswm am hynny, fel rwyf wedi'i fynegi yn y Siambr hon sawl tro rwy'n siŵr, yw bod pawb yng Nghymru ar wasgar ym mhob twll a chornel o Gymru. Felly, rydym yn methu rhannau eithaf mawr o'r boblogaeth, o ran canran, os ydym yn canolbwyntio ar yr ardaloedd â phoblogaeth fawr. Felly, rydym yn cael y sgwrs gyson honno gyda hwy, a'r drafferth yw—mae'r un peth yn wir mewn perthynas â signal ffonau symudol, i raddau helaeth—mae arnom angen llawer mwy o fastiau yng Nghymru i ddarparu'r gwasanaeth. Felly, yr hyn rydym wedi ceisio'i wneud yw sicrhau bod y DU yn deall bod gan Gymru broblem benodol a bod arnom angen ateb penodol ar ei chyfer. Nid drwy'r seilwaith band eang y mae gwneud hynny, ond drwy'r seilwaith darlledu. Fodd bynnag, gallwch wrando ar radio digidol ar y rhyngrwyd os dymunwch, wrth gwrs, ac felly bydd y broses o gyflwyno gwasanaethau digidol o ran band eang yn gymorth, ond serch hynny rydym yn mynnu y dylai'r argaeledd fod yn ddigon da i gynnwys Cymru gyfan yn ddaearyddol yn ogystal â'i phoblogaeth.
A gaf i sicrhau'r Ysgrifennydd Cabinet nad ydw i'n mynd i gymryd fy nghawod trwy droi'r internet arno? Rydw i eisiau gwrando ar y radio yn y bore yn Aberystwyth, ac nid cymunedau bach sydd yn colli radio digidol. Mae yna wasanaeth digidol yn Aberystwyth, ond nid oes Radio Cymru na Radio Wales, ac felly mae'n rhaid gwneud yn siŵr bod ein darlledwyr cenedlaethol ni ar gael ym mhob rhan o Gymru cyn ein bod ni'n caniatáu i unrhyw droi bant o'r signal FM. Rydw i'n siarad fel rhywun sydd wedi troi at ddigidol ers dros 15 mlynedd. Rydw i'n ffan mawr o radio digidol, ond mae'n loes calon i mi na fedraf i wrando ar Radio Cymru a rhywun fel Rhys Mwyn gyda'r nos yn Aberystwyth.
Ie, rwy'n cydymdeimlo'n llwyr â hynny. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi parhau i godi'r mater hwn mewn cyfarfodydd gyda Llywodraeth y DU, y BBC, Ofcom, UK Digital Radio, ac rydym yn parhau i wneud hynny. Yn ogystal, mae ein safbwynt mewn perthynas â DAB wedi'i gynnwys yn ymatebion Llywodraeth Cymru i wahanol ymgynghoriadau darlledu, gan gynnwys ein hymateb diweddar i'r ymgynghoriad ar gynllun blynyddol Ofcom ar gyfer 2018-19. Fis Hydref diwethaf, cynhaliwyd sesiwn friffio gan UK Digital Radio yng Nghaerdydd gyda nifer o randdeiliaid i drafod datblygiadau diweddar mewn perthynas â radio digidol. Yn ystod y digwyddiad hwnnw, pwysleisiodd nifer o sefydliadau unwaith eto, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, fod llawer i'w wneud o hyd, er gwaethaf gwelliannau o ran argaeledd DAB mewn rhai rhannau o Gymru, cyn y gellid ystyried unrhyw drosglwyddo o'r fath.