Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 28 Chwefror 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Arweinydd y tŷ, mae heddiw'n nodi diwedd yr estyniad o ddeufis i brosiect Cyflymu Cymru. Rwyf wedi gofyn dro ar ôl tro i chi ac i Openreach am fanylion ynglŷn â sawl eiddo y dywedwyd wrthynt eu bod yn rhan o brosiect Cyflymu Cymru cyn 31 Rhagfyr, ond bod y prosiect wedi dod i ben cyn iddynt gael eu cysylltu, ac am restr o 2,500 eiddo, sy'n rhan o'r estyniad o ddeufis. A allwch roi ateb i'r cwestiynau hyn i mi heddiw?