2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 28 Chwefror 2018.
Diolch. Galwaf ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i arweinydd y tŷ, a daw'r cwestiwn cyntaf gan lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Arweinydd y tŷ, mae heddiw'n nodi diwedd yr estyniad o ddeufis i brosiect Cyflymu Cymru. Rwyf wedi gofyn dro ar ôl tro i chi ac i Openreach am fanylion ynglŷn â sawl eiddo y dywedwyd wrthynt eu bod yn rhan o brosiect Cyflymu Cymru cyn 31 Rhagfyr, ond bod y prosiect wedi dod i ben cyn iddynt gael eu cysylltu, ac am restr o 2,500 eiddo, sy'n rhan o'r estyniad o ddeufis. A allwch roi ateb i'r cwestiynau hyn i mi heddiw?
Yn anffodus, ni allaf wneud hynny. Fel y dywedais, mae'n cymryd rhwng 12 ac 16 wythnos inni fynd drwy'r profion trwyadl iawn a'r broses wirio mewn perthynas â'r hawliadau a wnaed gan BT o dan y contract Cyflymu Cymru, ond gallaf roi sicrwydd i'r Aelod, cyn gynted ag y bydd y data hwnnw gennyf, y byddaf yn ei roi i'r tŷ.
Rwy'n ddiolchgar am hynny. Rwyf hefyd yn ddiolchgar eich bod eisoes wedi cydnabod y problemau cyfathrebu sydd wedi llesteirio prosiect Cyflymu Cymru, ac rydych wedi addo mynd i'r afael â hwy gydag Openreach. Fodd bynnag, mae'r problemau cyfathrebu yn parhau. Pryd y bydd y wybodaeth ar wiriwr band eang Openreach yn adlewyrchu sefyllfa fanwl gywir pob safle, gan gynnwys y rhai a alluogwyd drwy'r estyniad o ddeufis? Ac i'r rheini a oedd yn gymwys am waith uwchraddio o dan brosiect Cyflymu Cymru ond a fethodd ei gael, pryd y cânt wybod a fyddant yn cael eu cynnwys yn y cynllun nesaf ai peidio?
Ie, credaf fod yna rai problemau cyfathrebu o hyd. Mae rhai ohonynt yn gymhleth iawn yn awr gan eu bod yn ymwneud ag argaeledd cysylltiadau drwy ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd penodol, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda nifer o Aelodau'r Cynulliad—gan eich cynnwys chi—i sicrhau bod pobl yn cael y wybodaeth gywir ynglŷn â'r cwestiwn i'w ofyn. Oherwydd rydym wedi cael rhai enghreifftiau o bobl yn ceisio prynu'r gwasanaethau drwy ddarparwr gwasanaethau rhyngrwyd nad yw'n darparu gwasanaethau ffeibr i'r eiddo, er enghraifft, a'r unigolyn yn cael gwybod nad yw'r gwasanaeth ar gael, yn hytrach na bod y darparwr penodol hwnnw yn methu ei ddarparu. Felly, mae gennym rai problemau cyfathrebu cymhleth ar hyn o bryd. Mae gennym lawer o wybodaeth ar y wefan i gynorthwyo gyda hynny. O ran y rhaglenni olynol, rydym yn falch iawn ein bod mor agos ag y gallwn fod i edrych ar beth y gellir ei wneud ynglŷn â'r rhaglen asedau amddifad, a gwn fod yr Aelod yn gyfarwydd iawn â'r rhaglen honno hefyd. Rwy'n gobeithio cael rhestr derfynol o'r eiddo ychwanegol a gysylltwyd o ganlyniad i'n hestyniad, fel y gallwn sicrhau bod y rhai sydd bron â chael eu cwblhau yn cael eu cwblhau yn fuan iawn. A chredwn fod y nifer yn fwy nag a gynlluniwyd gennym yn wreiddiol, sy'n newyddion da, ond dyna sy'n dal y wybodaeth yn ôl. Ac o ran y rhaglen bwrpasol, byddwn yn ei chyflwyno wrth inni siarad â chymunedau unigol, a byddant yn cael ateb pwrpasol y bydd ganddynt reolaeth drosto.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at dderbyn y wybodaeth ychwanegol. Yn olaf, a gaf fi droi at y cynllun gweithredu ar ffonau symudol, a nodweddwyd hyd yn hyn, mae'n ymddangos, gan ei ddiffyg gweithredu? A ydych yn pryderu am sylwadau eich cyd-Aelod, yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am gynllunio, ac sydd, mewn llythyr diweddar at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, i'w weld wedi gwthio i'r naill ochr y diwygiadau cynllunio sydd eu hangen i sicrhau bod Cymru yn cydymffurfio â diwygiadau cynllunio a gyflwynwyd yn Lloegr ac yn yr Alban, er mwyn gallu cyflwyno seilwaith telathrebu symudol? Beth a ddywedwch wrth y diwydiant ffonau symudol, ac wrth y bobl mewn ardaloedd gwledig nad oes ganddynt signal o hyd, sy'n pryderu nad oes gan Lywodraeth Cymru awydd i fynd i'r afael â'r rhwystrau sydd ynghlwm wrth gyflwyno seilwaith telathrebu symudol hollbwysig, a hebddo, ni ellir cyflawni gwelliannau i'r signal mewn modd amserol? Gyda chamau cadarnhaol yn cael eu cymryd mewn mannau eraill yn y DU, a ydych yn cytuno y gallai hyn arwain at sefyllfa lle mae Cymru ar ei hôl hi'n sylweddol? Ac yn eich ateb, os gwelwch yn dda, peidiwch â dweud wrthyf mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw gwasanaethau symudol, pan fo'r dulliau hyn yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru.
Wel, wrth gwrs, nid yw gwasanaethau symudol wedi cael eu datganoli, felly mae'n—. Nid oes gennym rai o'r dulliau y buaswn yn hoffi eu cael er mwyn bwrw ymlaen â rhai o'r pethau hyn.
Mae cynllunio wedi ei ddatganoli.
Ond wrth gwrs, mae rhai o'r dulliau o fewn ein rheolaeth. Gwnaethom waith ymchwil i edrych ar agweddau ledled Cymru tuag at gynyddu maint mastiau. Ac fel y dywedais yn fy ateb cynharach am radio digidol, y broblem gyda Chymru yw bod y boblogaeth wedi ei gwasgaru i bob twll a chornel. Nid yw gwneud y mastiau'n uwch yn datrys y broblem—nid yw'n ateb hollgynhwysol mewn unrhyw ffordd. Ac nid yw niferoedd mawr iawn o'r cymunedau sy'n byw yn y rhannau harddaf o Gymru eisiau i'w tirwedd gael ei gorchuddio â llawer o fastiau uchel iawn. Felly, mae'n rhaid i ni lunio rhai atebion eraill i hynny.
Felly, mae'n sgwrs rhyngom ni a Llywodraeth y DU, oherwydd rydym yn credu, ar gyfer ardaloedd gwledig iawn, a lefelau isel o boblogaeth ddaearyddol, y bydd yn rhaid i ni gael rhai atebion sy'n annymunol i'r diwydiant, megis y gallu i drawsrwydweithio, er enghraifft, rhwng rhwydweithiau. Felly, os oes gennych signal o 97 y cant ar gyfer un rhwydwaith, nid yw hynny o unrhyw ddefnydd o gwbl i chi os nad ydych ar y rhwydwaith hwnnw, ac nid yw'n datrys y broblem dwristiaeth chwaith. Felly, efallai y gallai pawb sy'n byw yn yr ardal newid i'r rhwydwaith hwnnw, ond mae hynny'n ddiwerth os ydych yn ceisio rhedeg busnes twristiaeth, ac mae gennych bobl yn dod i mewn ar y rhwydweithiau eraill. Felly, mae arnaf ofn fy mod yn credu y bydd angen i Lywodraeth y DU roi atebion mwy arloesol ar waith er mwyn caniatáu i ni gael y signal gorau yng Nghymru, ac rwy'n parhau i bwyso am hynny.
Yn y cyfamser, wrth gwrs, rydym wedi cynnal ymgynghoriad ynghylch y 'Polisi Cynllunio Cymru' diwygiedig, er mwyn mesur faint o awydd sydd yn y cymunedau hynny mewn perthynas â chynyddu nifer y mastiau, a chynyddu uchder mastiau, fel cydbwysedd rhwng cysylltedd a dinistrio ein tirwedd brydferth iawn.
Diolch. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr. Yr wythnos yma, mae'ch Llywodraeth chi wedi cyhoeddi Bil parhad—y continuity Bill—i sicrhau bod cyfraith yr Undeb Ewropeaidd o safbwynt materion datganoledig yn cael ei drosglwyddo i gyfraith Cymru. Ond wrth gwrs mae yna agwedd bwysig arall o adael yr Undeb Ewropeaidd, a hynny ydy'r risg sydd yna i hawliau dynol. Felly, beth mae'ch Llywodraeth chi yn bwriadu ei wneud i sicrhau bod hawliau dynol yn cael eu cynnal yng Nghymru yn y cyfnod ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd?
Diolch i chi am y cwestiwn pwysig hwnnw. Rydym wedi dweud yn glir iawn ein bod yn gwbl wrthwynebus i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998, a'r cyfan y mae hynny'n ei olygu, ac rydym yn gwbl wrthwynebus i gamu'n ôl mewn unrhyw fodd o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Rydym hefyd yn gwrthwynebu unrhyw leihad mewn amddiffyniadau hawliau dynol yng nghyd-destun y DU yn ymadael â'r UE. Mae'n amhosibl nodi effeithiau posibl bil hawliau heb weld yn union sut yr argymhellid y dylid fframio'r newidiadau hyn. Mae'n bosibl y gallai hyd yn oed gwelliannau bach i'r Ddeddf Hawliau Dynol greu problemau cyfreithiol cymhleth. Felly, bydd angen craffu'n ofalus ar unrhyw ddiwygiadau o'r fath. Mae Llywodraeth Cymru'n disgwyl yr ymgynghorir â hi ynghylch y materion hyn pan fydd cynigion mwy cadarn ar gael. Ond rwyf eisiau dweud yn gwbl glir nad ydym yn gweld yr angen amdani. Mae gennym Ddeddf Hawliau Dynol sydd wedi bod yn effeithiol iawn, ac wedi ei gweld yn bod yn effeithiol. Cafodd ei drafftio gan gyfreithwyr Prydeinig yn bennaf mewn gwirionedd. Mae'n gweithio fel rhan o gonfensiwn sydd wedi cael ei gymeradwyo ledled y byd, ac i ddefnyddio un o'r hen ystrydebau, 'Pam ei drwsio os nad yw wedi torri?'
Yn union, ond mae'n glir mai un o'r risgiau mawr o adael yr Undeb Ewropeaidd ydy bod gan rai o'r rhai oedd ar ochr yr ymgyrch i adael, gan gynnwys rhai o'r bobl fu'n cyllido'r ymgyrch honno, weledigaeth ideolegol wahanol iawn i'r un sydd gennych chi a fi: ideoleg o'r Deyrnas Unedig fel cenedl trethi isel, lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu preifateiddio, a lle mae cyflogwyr yn medru trin eu gweithwyr fel ag y mynnan nhw, heb warchodaeth i hawliau gweithwyr, er enghraifft, na merched ar gyfnodau mamolaeth ac yn blaen. Ac yn sicr, rwy'n gwybod nad dyna yr ydych chi na minnau eisiau ar gyfer Cymru. Felly, sut mae'ch Llywodraeth chi yn paratoi i warchod yr hawliau yma—hawliau pobl, hawliau menywod, hawliau pobl anabl—yn erbyn ymdrechion i wanhau'r hawliau sydd ar hyn o bryd yn rhan o wead ein gwlad ni, a hynny yn rhannol yn sgil deddfwriaeth o du'r Undeb Ewropeaidd?
Yn hollol. Ac mae hynny'n rhan bwysig iawn o syniad y Bil parhad, i amddiffyn ein gallu fel Llywodraeth ddatganoledig i ddiogelu'r broses o drosglwyddo rheoliadau cyfredol yr UE i gyfraith Cymru, a'u cadw wedi eu hymgorffori ynddi. Ac i barhau â'n traddodiad diwylliannol o fod yn hynod o falch o fod yn ddiwylliant yng Nghymru sy'n diogelu hawliau dynol mewn gwirionedd, ac sy'n croesawu pobl o bob cwr o'r byd sy'n ceisio lloches a noddfa, oherwydd rydym yn falch o'n hanes o ran hawliau dynol. Ac nid oes gennyf fi, yn bersonol, unrhyw awydd ein gweld yn newid ein safbwynt, naill ai yng Nghymru neu yn y DU yn ei chyfanrwydd, i unrhyw beth heblaw hynny, ac mae'n un o'r rhesymau pam nad wyf yn credu mai'r hyn a wnawn yw'r ffordd iawn o weithredu, ac rydym yn parhau i wthio'r safbwynt hwnnw'n rymus iawn.
Ond tybed a oes angen mynd ymhellach na'r Bil parhad. Tybed a oes angen deddfwriaeth benodol ynglŷn â hawliau. Mae'r Athro Simon Hoffman wedi cyflwyno tystiolaeth sy'n dweud bod deddfwriaeth ar hawliau o fewn cymhwysedd y Cynulliad yma. Mae o yn dweud:
Pan fydd Atodlen ddiwygiedig 7A— o Ddeddf Cymru 2017— mewn grym bydd gan Weinidogion Cymru bŵer i gyflwyno deddfwriaeth, a bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gymwys i ddeddfu ym maes hawliau dynol yn gyffredinol.
Felly, mae hynny i mi yn awgrymu bod ffenest o gyfle ar gael rhwng yr amser y daw y Schedule 7A yma i rym a phan fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, fod yna ffenest o gyfle i ddeddfu i warchod cyn gymaint ag sy'n bosib o'r hawliau dynol a'r hawliau gweithwyr sydd gennym ni ar hyn o bryd. A ydych chi'n credu ei bod hi'n werth pasio deddfwriaeth benodol ynglŷn ag amddiffyn hawliau pobl Cymru?
Wel, credaf fod hynny'n bosibl, ond fel y dywedais, ar hyn o bryd, mae cynlluniau Llywodraeth y DU i ddiwygio hawliau dynol wedi'u gohirio—ac rwy'n falch iawn o glywed hynny—hyd nes y bydd y DU wedi ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn derfynol. Cadarnhawyd hyn ym maniffesto Ceidwadol etholiad cyffredinol 2017, un o'r unig ddarnau ohono roeddwn yn frwdfrydig o gwbl yn ei gylch. Mae'n dweud:
Ni fyddwn yn diddymu neu'n disodli'r Ddeddf Hawliau Dynol tra bo proses Brexit yn mynd rhagddi ond byddwn yn ystyried ein fframwaith cyfreithiol ar gyfer hawliau dynol pan fo'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd yn dod i ben. Byddwn yn parhau wedi ymrwymo i'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol drwy gydol y Senedd nesaf.
Felly, dyna eu safbwynt ar hyn o bryd. Mae ein safbwynt ni yn glir iawn, fel rwy'n ei ddweud, sef ein bod yn hoffi'r Ddeddf Hawliau Dynol fel ag y mae. Rydym yn hoffi bod yn aelod o'r confensiwn ar hawliau dynol. Credwn fod hwnnw'n hanfodol i'n diwylliant a'n cymdeithas a byddwn yn parhau i bwyso amdano. Ond yn hollol briodol, byddwn yn cadw llygad ar yr hyn y gallai fod angen ei wneud, a thra'n bod yn trafod y Bil parhad, rwy'n siŵr y byddwn yn cadw rhai o'r materion hynny mewn cof.
Diolch. Llefarydd UKIP, Caroline Jones.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Arweinydd y tŷ, mae Cymru'n wynebu newid demograffig enfawr yn y dyfodol agos, gyda'r disgwyl y bydd nifer y bobl dros 65 oed yn cynyddu'n sylweddol, ac y bydd nifer y rhai sydd o oedran gweithio yn gostwng. Mae hyn yn creu heriau enfawr i wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig iechyd a gofal cymdeithasol. Gall defnydd cynyddol o dechnolegau digidol helpu i ddatrys y problemau hyn, ond nid heb seilwaith digidol priodol. Felly, sut y mae eich Llywodraeth yn bwriadu sicrhau bod ein seilwaith digidol yn addas ar gyfer anghenion y dyfodol?
Ie. Rydym wedi gwario llawer o arian, fel y bydd yr Aelodau ar draws y Siambr wedi fy nghlywed yn dweud ar sawl achlysur, ar ymestyn band eang cyflym iawn ledled Cymru, ac mae hynny wedi arwain at nifer o bethau, yn enwedig galluogi telefeddygaeth ac ati i ddod yn weithredol, fel ein bod yn gofalu'n well am y boblogaeth gyfan, ac yn benodol y bobl sydd ag unrhyw fath o broblemau'n ymwneud â symudedd neu bellter. Mae hynny'n rhan bwysig iawn o'r rheswm pam rydym wedi gwario nifer fawr iawn o filiynau ar gyflwyno'r seilwaith digidol hwnnw.
Fodd bynnag, rwyf am ddweud wrth yr Aelod fod gennyf broblem sylfaenol mewn gwirionedd â dechrau'r hyn a ddywedodd, oherwydd un o'r problemau rydym yn ei hwynebu yn awr yw'r anhawster i ddenu ymfudwyr o oedran gweithio i economi Cymru o ganlyniad i ymdrechion ei phlaid i wthio polisi mewnfudo penodol rwy'n anghytuno'n sylfaenol ag ef. Felly, mewn gwirionedd, mae cyfyngu mewnfudo ymhlith poblogaethau o oedran magu, sef yr hyn yw poblogaethau mudol i raddau helaeth mewn gwirionedd, yn gam sylfaenol tuag yn ôl wrth inni addasu ein heconomi.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ, oherwydd roeddwn ar fin sôn am delefeddygaeth, sy'n datblygu i fod yn ateb i ofal iechyd mewn ardaloedd gwledig ac yn cael ei weld yn eang fel ateb i'r diffygion sydd gennym ym maes gofal sylfaenol. Yn anffodus, darpariaeth wael sydd yna yn yr ardaloedd gwledig hynny o ran band eang a signal ffonau symudol. Felly, os ydym am fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd mewn rhannau gwledig o Gymru, mae'n rhaid i ni sicrhau bod cyfathrebu digidol yn gwbl ddibynadwy. Felly, pa drafodaethau rydych wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU a'r darparwyr gwasanaethau ynglŷn â darparu cyfathrebu digidol dibynadwy i 100 y cant o'r boblogaeth?
Wel, rydym wedi cael trafodaethau helaeth gyda Llywodraeth y DU am hyn, yn enwedig yng ngoleuni Deddf yr Economi Ddigidol 2017. Maent wedi dewis rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol o 10 Mbps; fodd bynnag, nid yw'n gwbl glir eto beth y mae 'cyffredinol' yn ei olygu yn y cyd-destun hwn. Mae'n annhebygol y bydd yn golygu 100 y cant gan nad yw hynny'n debygol o fod o fewn y gyllideb sy'n gysylltiedig â'r Ddeddf. Nid ydym yn credu bod 10 Mbps yn ddigonol, ac un o'r rhesymau pam nad ydym yn credu ei fod yn ddigonol yw oherwydd nad yw'n ddigonol ar gyfer telefeddygaeth. Yn wir, y bore yma, yn fy ngrŵp gweinidogol ar ddata a gwasanaethau digidol, cawsom gyflwyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys am eu system wybodaeth gofal cymunedol newydd ac roeddem yn trafod yr angen i ymestyn band eang ymhellach i gefn gwlad Cymru fel rhan o'r rhaglen Cyflymu Cymru 2 newydd, gyda golwg ar gael isafswm cyflymder o 30 Mbps ar draws rhannau helaeth o Gymru. Mae'n werth crybwyll na fyddai hynny byth wedi ei wneud heb Cyflymu Cymru: ni fyddai unrhyw ran o Bowys, Ceredigion na Sir Gaerfyrddin byth wedi cael eu cysylltu drwy broses gyflwyno fasnachol. Felly, rhaglen Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y ffaith bod gan yr ardaloedd hyn unrhyw fand eang o gwbl.
Diolch i chi, unwaith eto, am yr atebion hynny, arweinydd y tŷ. Mae ein seilwaith digidol yn dibynnu ar geblau a throsglwyddyddion radio yn ogystal â phersonél wedi'u hyfforddi'n dda, yn arbennig ym maes rheoli data a diogelwch seiber. Mae ymosodiadau seiber a thoriadau yn y canolfannau data wedi creu anhrefn yn y GIG yn ddiweddar, gan amlygu'r ffaith bod gwyddonwyr cyfrifiadurol yr un mor hanfodol i'n GIG a'r gwyddonwyr bywyd. Pa drafodaethau a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg ynglŷn â sicrhau bod gan Gymru ddigon o unigolion medrus i ddiogelu ein seilwaith digidol?
Ydi, mae diogelwch seiber yn fater byw go iawn i ni yn amlwg a chyfarfûm yn ddiweddar â Ciaran Martin, prif weithredwr y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, ac mae fy swyddogion yn cynnal perthynas waith dda gyda'i sefydliad. Rydym yn falch iawn fod y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol newydd gyhoeddi penodiad rheolwr cysylltiadau gweinyddiaethau datganoledig i weithio gyda ni yng Nghymru. Cynhaliodd ein swyddogion weithdy gydag ef ddiwedd mis Ionawr i drafod gweithdrefnau rheoli seiber uniongyrchol cadarn a hynny ar draws Llywodraeth Cymru. Felly, rydym yn weithgar iawn yn sicrhau bod gennym ddiogelwch seiber da ar draws ystâd gyhoeddus Cymru.
Dychwelwn yn awr at y cwestiynau ar y papur trefn. Cwestiwn 3, Mike Hedges.