Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 28 Chwefror 2018.
Rwy'n ddiolchgar am hynny. Rwyf hefyd yn ddiolchgar eich bod eisoes wedi cydnabod y problemau cyfathrebu sydd wedi llesteirio prosiect Cyflymu Cymru, ac rydych wedi addo mynd i'r afael â hwy gydag Openreach. Fodd bynnag, mae'r problemau cyfathrebu yn parhau. Pryd y bydd y wybodaeth ar wiriwr band eang Openreach yn adlewyrchu sefyllfa fanwl gywir pob safle, gan gynnwys y rhai a alluogwyd drwy'r estyniad o ddeufis? Ac i'r rheini a oedd yn gymwys am waith uwchraddio o dan brosiect Cyflymu Cymru ond a fethodd ei gael, pryd y cânt wybod a fyddant yn cael eu cynnwys yn y cynllun nesaf ai peidio?