Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 28 Chwefror 2018.
Diolch yn fawr. Yr wythnos yma, mae'ch Llywodraeth chi wedi cyhoeddi Bil parhad—y continuity Bill—i sicrhau bod cyfraith yr Undeb Ewropeaidd o safbwynt materion datganoledig yn cael ei drosglwyddo i gyfraith Cymru. Ond wrth gwrs mae yna agwedd bwysig arall o adael yr Undeb Ewropeaidd, a hynny ydy'r risg sydd yna i hawliau dynol. Felly, beth mae'ch Llywodraeth chi yn bwriadu ei wneud i sicrhau bod hawliau dynol yn cael eu cynnal yng Nghymru yn y cyfnod ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd?