Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 28 Chwefror 2018.
Felly, mae hynny i mi yn awgrymu bod ffenest o gyfle ar gael rhwng yr amser y daw y Schedule 7A yma i rym a phan fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, fod yna ffenest o gyfle i ddeddfu i warchod cyn gymaint ag sy'n bosib o'r hawliau dynol a'r hawliau gweithwyr sydd gennym ni ar hyn o bryd. A ydych chi'n credu ei bod hi'n werth pasio deddfwriaeth benodol ynglŷn ag amddiffyn hawliau pobl Cymru?