Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 28 Chwefror 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Arweinydd y tŷ, mae Cymru'n wynebu newid demograffig enfawr yn y dyfodol agos, gyda'r disgwyl y bydd nifer y bobl dros 65 oed yn cynyddu'n sylweddol, ac y bydd nifer y rhai sydd o oedran gweithio yn gostwng. Mae hyn yn creu heriau enfawr i wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig iechyd a gofal cymdeithasol. Gall defnydd cynyddol o dechnolegau digidol helpu i ddatrys y problemau hyn, ond nid heb seilwaith digidol priodol. Felly, sut y mae eich Llywodraeth yn bwriadu sicrhau bod ein seilwaith digidol yn addas ar gyfer anghenion y dyfodol?