– Senedd Cymru am 3:16 pm ar 28 Chwefror 2018.
Felly, symudwn at eitem 5, sef y datganiadau 90 eiliad. Simon Thomas.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae plastig a’i effaith ar ein hamgylchedd ni yn fater o ddiddordeb cyhoeddus mawr erbyn hyn. Yn 1950, cynhyrchwyd 1.5 miliwn tunnell o blastig yn y byd i gyd. Erbyn hyn, mae’n fwy na 320 miliwn tunnell y flwyddyn, ac mae hanner yr holl blastig a gynhyrchwyd ers 1950 wedi’i gynhyrchu yn ystod y degawd diwethaf yn unig.
Mae gwastraff plastig bellach yn gyfrifol am tua 60 y cant i 90 y cant o wastraff yn y môr; gall potel blastig bara 450 o flynyddoedd ac mae gwastraff plastig yn andwyol i gymaint â 100,000 o anifeiliaid môr a miliwn o adar y môr bob blwyddyn. Felly, mae’n braf llongyfarch pentref Aber-porth ar lwyddo i fod y gymuned ddi-blastig gyntaf yng Nghymru. Mae diolchiadau i’r pentref cyfan am ddod at ei gilydd i chwilio am ffurf amgen i ddarparu ar gyfer trigolion ac ymwelwyr heb ddefnyddio plastig diangen. Mae’n amrywio o gwpanau ailgylchadwy yn y caffi, gwelltenni diod papur yn y dafarn leol, a llaeth mewn poteli gwydr yn siop y pentref.
Yn y Cynulliad hwn, rydym yn trafod treth ar blastig, ac mae’n dda gennyf fod wedi negodi arian ar gyfer ystyried cynllun dychwelyd blaendal. Ond mae’r newid mwyaf i’w weld yn ein cymunedau. Mae Cei Newydd yng Ngheredigion wedi dilyn Aber-porth, a bu tua 200 o bobl yn trafod y syniad yn Aberystwyth yn ddiweddar. Rwy’n edrych ymlaen, felly, Dirprwy Lywydd, yn eiddgar, i weld y dydd pan fydd Cymru’n rhydd o blastig.
Vikki Howells.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Chwefror 2018 yw mis hanes LGBT. Mae'r digwyddiad blynyddol pwysig hwn yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar hanes LGBT+, gan nodi pa mor bell rydym wedi dod o ran hyrwyddo hawliau cyfartal ac amrywiaeth, ond hefyd yr heriau a'r rhwystrau sy'n rhaid i ni eu goresgyn o hyd.
Mae'r flwyddyn 2018 yn nodi canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918, felly efallai nad yw'n syndod fod mis hanes LGBT eleni yn edrych ar y rôl a chwaraeodd lesbiaid a menywod deurywiol yn yr ymgyrch i sicrhau'r bleidlais i fenywod. Mae penblwyddi pwysig eraill yn cynnwys y ffaith bod 40 mlynedd ers llofruddio Harvey Milk. Hefyd mae 30 mlynedd ers i'r Llywodraeth Geidwadol ddeddfu o blaid homoffobia ar ffurf adran 28. Mae'r ddau goffâd olaf yn adlewyrchu thema eleni'n briodol, daearyddiaeth—mapio'r byd. Mae hyn yn cynnig cyfle i ddathlu'r cynnydd byd-eang tuag at briodas gyfartal, ond hefyd y cyfle i fyfyrio ar yr erledigaeth y mae pobl LGBT yn ei hwynebu ledled y byd a'r rôl y mae'n rhaid i ni ei chwarae i newid hyn.
Mae digwyddiadau cymunedol yn bwysig hefyd, gan dynnu sylw at y neges hon ar lefel llawr gwlad. Roeddwn yn falch iawn ddydd Sadwrn o siarad yn y digwyddiad hanes LGBT+ cyntaf erioed i gael ei gynnal yn Aberdâr yn Amgueddfa Cwm Cynon wedi'i drefnu gan grŵp lleol, Prosiect Undod. Nodaf fod baner yr enfys hefyd yn dathlu ei phen blwydd yn ddeugain eleni. Felly, gadewch i ni, bob un ohonom, chwifio'r faner dros gydraddoldeb a hawliau LGBT+ yn 2018 a thu hwnt.
Diolch. Darren Millar.
Mae'r cyntaf o Fawrth yn nodi diwrnod ein nawddsant, Dewi, un o ddilynwyr ymroddedig Iesu Grist ac ysbrydoliaeth ar gyfer y brecwast gweddi seneddol Gŵyl Ddewi cyntaf, a gynhelir yn adeilad y Pierhead bore yfory. Bydd y brecwast gweddi yn dwyn ynghyd Aelodau'r Cynulliad, gwesteion rhyngwladol ac eraill i ddathlu etifeddiaeth Gristnogol gyfoethog Cymru, a chyfraniad enfawr cynulleidfaoedd Cristnogol yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol i gymdeithas Cymru. Bydd gwesteion yn wynebu'r tywydd yn ddewr ac yn teithio o bob cwr o Gymru, a byddant yn mwynhau cwmni cynrychiolwyr o nifer o leoedd ledled y byd, gan gynnwys pobl o'r Almaen a'r Swistir, India, Israel, Singapore, yr Iseldiroedd, Palesteina, Pacistan, Zimbabwe a Nigeria, ac wrth gwrs, bydd Siberia yn cael ei chynrychioli hefyd gan y tywydd.
Bydd y digwyddiad yn cael ei ragflaenu gan dderbyniad yma yn y Senedd heno, a bydd yn cyd-daro ag arddangosfa o drysorau o archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan gynnwys Beibl enwog Mari Jones, stori a arweiniodd at sefydlu Cymdeithas y Beibl, a Beibl llosg a gafodd ei ddifrodi mewn ffrwydrad mewn pwll glo a oedd yn perthyn i'r diwygiwr Cymreig enwog Evan Roberts. Rydym yn ddiolchgar i'r rheini sydd wedi helpu i drefnu'r digwyddiad a hyderwn y bydd yn fendith i'r genedl wych hon rydym ni yn y Siambr yn falch o'i galw'n gartref i ni. Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi i gyd.
Diolch.