6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 28 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:21, 28 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Mae'r Deyrnas Unedig wedi bod drwy gyfnod o newid cyfansoddiadol aruthrol ers dyfodiad datganoli. Mae'r newidiadau i'r ffordd rydym yn cael ein llywodraethu wedi trawsnewid ac yn parhau i drawsnewid ein tirlun gwleidyddol a chyfansoddiadol. O ganlyniad i'r bleidlais yn 2016 i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'r Deyrnas Unedig hefyd bellach yng nghanol un o'r diwygiadau cyfansoddiadol pwysicaf ac anoddaf iddi ei wynebu erioed, gyda goblygiadau hirdymor i weithrediad a llywodraethiant y DU a chenhedloedd a rhanbarthau unigol y DU. Dyma yw cefndir cyfansoddiadol ein gwaith ar y cysylltiadau rhyngsefydliadol rhwng llywodraethau a Seneddau datganoledig y DU.

Roedd ein gwaith hefyd yn pwyso ar waith craffu'r pwyllgor ar Fil Cymru ac yn benodol, y pryderon rheolaidd a fynegwyd ynglŷn ag effeithiolrwydd y cysylltiadau rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a sut yr oedd hyn yn effeithio ar ddatblygiad y Bil. Roedd ein hadroddiad ar lywodraethiant y DU yn dilyn Brexit, a gyhoeddwyd gennym ar ddechrau mis Chwefror, yn benllanw ar dros flwyddyn o waith. Yn ystod 2017, esblygodd y gwaith hwn, a ddechreuodd fel 'Llais cryfach i Gymru', ac effeithiwyd arno gan nifer o ddigwyddiadau megis etholiad cyffredinol y DU a pharatoadau'r DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn enwedig o ganlyniad i'r Bil yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysu am Ymadael) dadleuol.

Cyn i mi fynd ar drywydd ein canfyddiadau, mae gennyf lawer o bobl i ddiolch iddynt. Yn gyntaf oll, y rhai a roddodd dystiolaeth ysgrifenedig neu ar lafar; yn ail, y panel dinasyddion, a roddodd eu hamser yn barod i'n helpu gyda'n gwaith ac a roddodd gipolwg i ni ar yr hyn y mae'r cyhoedd yn ei ddisgwyl gan Lywodraethau a Seneddau sy'n gweithio gyda'i gilydd dros y bobl y maent yn eu gwasanaethu; yn drydydd, panel o arbenigwyr a helpodd i lunio a chanolbwyntio ein syniadau ar yr adroddiad diwethaf; ac yn olaf ond nid yn lleiaf, cyn-Gadeirydd y pwyllgor hwn, Huw Irranca-Davies, a arweiniodd ein gwaith am y naw mis cyntaf.

Felly, gan droi at yr adroddiad, mae'n gwneud naw argymhelliad. Rydym yn credu eu bod yn angenrheidiol i wella ein cysylltiadau rhyngsefydliadol, a'r un mor bwysig, i sicrhau nad yw gadael yr Undeb Ewropeaidd yn arwain at ganlyniadau cyfansoddiadol anfwriadol. Wrth ddod i gasgliadau, ceisiasom ddysgu gwersi, a chymeradwyo, lle y teimlem fod hynny'n briodol, argymhellion a geir mewn adroddiadau eraill ar y pwnc hwn, gan gynnwys y rhai a luniwyd gan bwyllgorau seneddol ar draws y DU. Yn wir, mae llawer o'r sylwadau a'r themâu a ddaeth i'r amlwg yn ein gwaith yn adlewyrchu ac yn adeiladu ar ganfyddiadau'r pwyllgorau hynny. Cawsom ein calonogi gan y lefel gymharol uchel o gonsensws trawsbleidiol sydd wedi datblygu ymysg y gwahanol bwyllgorau cyfansoddiadol ar yr angen am ddiwygio cyfansoddiadol radical a sut y gellid cyflawni hynny.

Mae ein dau argymhelliad cyntaf yn canolbwyntio ar gryfhau'r cysylltiadau rhynglywodraethol sy'n bodoli ar hyn o bryd drwy'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Mae ein pumed a'n chweched argymhelliad yn canolbwyntio ar ddefnyddio cynhadledd y Llefaryddion i helpu i hwyluso newid. Rydym yn credu y gellid defnyddio cynhadledd y Llefaryddion fel ffordd o ddod i gytundeb ar newidiadau i gysylltiadau rhyngsefydliadol y DU. Yn anochel, bydd angen i'r rhain addasu, nid yn unig i broses y DU o adael yr UE, ond hefyd i'r berthynas newidiol rhwng gwledydd cyfansoddol y DU o ganlyniad.

Clywsom nifer o enghreifftiau o sut y gall cysylltiadau rhyngbersonol effeithiol rhwng Gweinidogion gynorthwyo gwaith y Llywodraeth o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, ni allwch ddibynnu ar y cysylltiadau hynny bob amser. Felly, er mwyn cael llywodraethiant da, mae'n hanfodol sicrhau bod strwythurau rhynglywodraethol ffurfiol ar waith sy'n gallu datrys yn effeithiol unrhyw dorri cysylltiad rhwng Gweinidogion. Mae sicrhau bod y trefniadau'n iawn yn hanfodol er mwyn sicrhau effeithlonrwydd yn y modd y darparir gwasanaethau lle y ceir buddiannau cyffredin rhwng Llywodraethau, lle y bo angen datrys anghydfodau, neu yn achos Cymru a Lloegr, lle y ceir manteision i gydweithio, er enghraifft ar faterion trawsffiniol. Felly, aethom ati i archwilio'r cysylltiadau rhynglywodraethol sy'n bodoli ar hyn o bryd i weld a ydynt yn addas at y diben ac i asesu a oes angen iddynt newid, yn enwedig er mwyn sicrhau nad yw buddiannau Cymru yn cael eu gwthio i'r cyrion yn y trefniadau cyfansoddiadol newydd sy'n dod i'r amlwg yn y DU.