6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 28 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:25, 28 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Llywodraethir y cysylltiadau rhynglywodraethol cyfredol drwy’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Clywsom sut y mae’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion angen gwella'r ffordd y mae'n gweithredu, gyda rhai tystion yn galw am ailwampio llwyr. Roeddem yn cytuno gyda'r rhai a ddywedodd wrthym fod angen cryfhau'r cysylltiadau rhynglywodraethol, nid yn unig rhwng Cymru a Lloegr, ond fel rhan o ddull pedair gwlad o weithredu, lle mae pob gwlad yn cael eu trin yn gyfartal. Nid yw Llywodraethau olynol y DU wedi adnewyddu peirianwaith Llywodraeth yn ddigonol i ymateb i'r cysylltiadau newidiol rhwng Llywodraethau ar ôl datganoli. Mae hyn wedi gadael marciau cwestiwn difrifol o ran sut y bydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn ymdrin yn deg â heriau sy'n dod i'r amlwg wrth i’r DU adael yr UE. Felly, mae’r angen am ddiwygio sylfaenol yn glir ac yn ddybryd. Yn ein barn ni, yr opsiwn gorau fyddai mabwysiadu agwedd gwbl newydd tuag at gysylltiadau rhynglywodraethol er mwyn darparu’r cryfder a’r gwytnwch sefydliadol sydd eu hangen i wynebu heriau'r dyfodol.

Mae rhinweddau sylweddol i argymhelliad y Prif Weinidog ynghylch Cyngor Gweinidogion y DU i ddisodli’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion a byddai'n ateb llawer o'r pryderon a glywsom yn y dystiolaeth. Mewn gwirionedd, byddai’n fforwm o Lywodraethau cenedlaethol yn gweithio ar y cyd er budd y Deyrnas Unedig. Byddai'n darparu’r newid sydd ei angen i sicrhau bod gennym gydlywodraethu priodol, gan gynnwys mewn meysydd a gydgysylltwyd ar lefel Ewropeaidd. O ganlyniad, roeddem yn ystyried mai cynigion y Prif Weinidog oedd yr ateb hirdymor mwyaf cydlynol i ddatrys pryderon ynglŷn â chysylltiadau rhynglywodraethol. Fodd bynnag, cam cyntaf hanfodol ac ymarferol fyddai cryfhau strwythur cyfredol y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, a dyna oedd ein hargymhelliad cyntaf. Rydym yn credu y gellid cyflawni hyn drwy sicrhau bod cyfarfod llawn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn cyflawni swyddogaethau uwchgynhadledd flynyddol penaethiaid Llywodraethau a thrwy ychwanegu pwyllgorau newydd at fformat cyfredol y Cyd-bwyllgor Gweinidogion i gynnwys y farchnad sengl a masnach, ac yn benodol, i gytuno ar fframweithiau cyffredin.

Roedd ein hail argymhelliad unwaith eto yn adlewyrchu safbwyntiau pwyllgorau seneddol drwy osod cysylltiadau rhynglywodraethol ar sail statudol. Gellid gwneud hyn, er enghraifft, drwy ddiwygio Bil ymadael â’r UE Llywodraeth y DU, sydd ar hyn o bryd yn Nhŷ'r Arglwyddi. Yn y tymor hwy, ar ôl Brexit, roeddem yn argymell y dylai’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion fod yn destun diwygio sylfaenol fel y bydd yn dod yn gyngor y DU sy’n gorff gwneud penderfyniadau gyda mecanwaith annibynnol ar gyfer datrys, barnu a dyfarnu mewn achosion o anghydfod. Ochr yn ochr â’r newidiadau hyn, rydym yn credu y dylai’r memorandwm dealltwriaeth rhwng y DU a llywodraethau datganoledig—gan gynnwys y nodiadau cyfarwyddyd ar ddatganoli—fod yn destun ailwampio trwyadl i gynnwys cydweithio rhwng pob un o Lywodraethau’r DU. Dylai hyn anelu at sefydlu cydlywodraethu mewn perthynas â’r systemau sy'n helpu i ddarparu cysylltiadau rhynglywodraethol effeithiol a theg.

Daw hyn â mi at fater arall sy’n gwbl sylfaenol i gysylltiadau rhynglywodraethol effeithiol, sef sicrhau bod gweision sifil yn Whitehall yn deall datganoli. Mae nifer o dystion wedi tynnu sylw at y diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n bodoli mewn rhannau o Whitehall mewn perthynas â datganoli, er gwaethaf rhai ymdrechion clodwiw gan weinyddiaethau olynol i unioni'r sefyllfa. Credwn ei bod yn annerbyniol fod y lefel o ddealltwriaeth o ddatganoli ar draws Whitehall yn aml yn wael, fod dealltwriaeth o ddatganoli yng Nghymru yn arbennig o wael mewn rhai adrannau allweddol, a bod ymdrechion i unioni'r sefyllfa hon wedi bod yn annigonol. Efallai fod ymagwedd gweision sifil Whitehall wedi'i chrynhoi orau gan un tyst a ddywedodd wrthym:

Dylwn ddweud nad wyf erioed wedi credu bod rhyw fath o reswm maleisus dros anwybyddu’r Alban a Chymru. Credaf ei fod yn fwy o esgeulustod diniwed.

Mae’n bosibl fod yr agwedd hon tuag at ddatganoli yn deillio o’r gwrthdaro sy'n bodoli ar hyn o bryd yng nghyfansoddiad cyfredol y DU, lle mae gwasanaeth sifil y DU yn cefnogi Llywodraeth y DU yn ei rôl fel y weithrediaeth ar gyfer y DU a Lloegr i bob pwrpas. Yn sicr, roeddem yn teimlo bod peirianwaith gwasanaeth sifil mewnol Whitehall sy'n cynnal datganoli fel y'i disgrifiwyd i ni yn gymhleth ac yn ddryslyd. Mae'n fater rydym yn bwriadu mynd ar ei drywydd ymhellach gyda Llywodraeth y DU maes o law.

Mae’r un rhesymeg yn gymwys ar gyfer gwella cysylltiadau rhynglywodraethol ac mae'n berthnasol i'r ymgysylltiad rhwng y Seneddau sy'n ffurfio rhan annatod o’n systemau cyfansoddiadol. Mae'n amlwg fod angen ymestyn yr ymgysylltiad rhwng pwyllgorau a rhwng Seneddau. Os yw’r rhannau hyn o’n sefydliadau democrataidd yn gweithio'n well gyda'i gilydd, yna mae’n fwy tebygol y bydd llais Cymru yn cael ei glywed ar draws y DU, y bydd ein safbwyntiau cyfunol yn cael eu gweithredu ac y bydd gwead cyfansoddiad y DU yn cael ei atgyfnerthu.

Wrth edrych i weld sut y gellid symud ymlaen ar yr angen hwn am fwy o gydweithredu ffurfiol, rydym yn argymell bod y Llywydd yn ceisio sefydlu cynhadledd y Llefaryddion gyda Llefaryddion a Llywyddion deddfwrfeydd eraill y DU. Ei nod fyddai penderfynu ar y ffordd orau o ddatblygu gwaith rhyngseneddol yn y DU, gan roi sylw penodol i graffu ar effaith ymadael â’r UE ar fframwaith cyfansoddiadol y DU. Rydym felly yn ystyried y dylai prif rôl cynhadledd o'r fath i Lefaryddion fod yn gysylltiedig â datblygu fframwaith ar gyfer cysylltiadau rhyngseneddol. Bydd manteision amlwg i gael fforwm cydlynol a strwythuredig ar gyfer trafod ar y cyd rhwng Seneddau gan ymgymryd â gwaith craffu, lle y gellir rhannu gwybodaeth a lle y gellir dwyn Llywodraethau i gyfrif yn eu tro. Fodd bynnag, rydym hefyd yn gweld rhinweddau mewn sicrhau bod gan gynhadledd y Llefaryddion rôl i'w chwarae mewn perthynas â chysylltiadau rhynglywodraethol, er mwyn asesu sut y maent yn datblygu yn y cyfnod tyngedfennol hwn yn esblygiad cyfansoddiad y DU. A dylai hyn gynnwys asesu, yn arbennig, ymateb Llywodraeth y DU i bedwar argymhelliad cyntaf yr adroddiad hwn a nodwyd gennyf.

Mae hon yn fenter radical i gefnogi diwygio cyfansoddiadol cynaliadwy ac nid yw heb gynsail. Mae'n ffordd o ddwyn gwledydd y DU ynghyd a rhoi cychwyn egnïol i’r broses o ddiwygio cyfansoddiadol yn dilyn Brexit yr ystyriwn ei fod yn hanfodol i hegemoni'r Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Mae camau cadarnhaol wedi cael eu cymryd eisoes i wella cydweithrediad seneddol. Yn y Cynulliad hwn, rydym wedi creu cysylltiadau pwysig â phwyllgorau yn Nhŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi a Senedd yr Alban. Yn ogystal, mae creu'r Fforwm Rhyngseneddol ar Brexit, a fynychaf gyda David Rees, wedi bod yn ddatblygiad cadarnhaol ac adeiladol iawn. Credwn fod ganddo botensial i fod yn rhagflaenydd gwerthfawr i’r cysylltiadau a’r strwythur seneddol cryfach a fydd yn hanfodol o fewn y DU pan fydd wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ni waeth pa newidiadau neu addasiadau rhynglywodraethol a fydd yn dod i'r amlwg yn y dyfodol, bydd yn bwysig i'r Cynulliad Cenedlaethol barhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, ac rydym o'r farn fod y dull a fabwysiadwyd yn yr Alban rhwng ei Senedd a’i Llywodraeth yn darparu model synhwyrol y gellid ei fabwysiadu yng Nghymru. Ar y sail honno, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gytundeb cysylltiadau rhynglywodraethol gyda’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol er mwyn cefnogi’r gwaith craffu ar weithgarwch Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.

Fel y mae ein hadroddiad yn ei ddangos, mae trefniadau cyfansoddiadol y DU yn debygol o gael eu rhoi o dan bwysau sylweddol dros y degawd nesaf. Bydd yn rhaid i’r DU addasu ei threfniadau mewnol i sicrhau na fydd ymadael â’r UE yn golygu mwy o ganoli pŵer yn Llundain. Bydd yn rhaid rhoi strwythurau rhynglywodraethol newydd ar waith. Ac nid yw gwneud synnwyr o gwbl i awgrymu y dylai’r strwythurau sydd gennym yn y DU yn awr, tra bôm yn rhan o'r UE, fod yr un fath ar ôl i ni adael yr UE.

Mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, gan gydweithio’n adeiladol â phwyllgorau seneddol eraill ledled y DU, yn chwarae rhan weithredol yn helpu i lunio fframwaith cyfansoddiadol sy’n addas ar gyfer yr heriau newydd a wynebwn, a bydd gwneud hynny’n helpu i atgyfnerthu llais Cymru yn y teulu o wledydd sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig.