Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 28 Chwefror 2018.
Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Cyn i ni gychwyn y ddadl, hoffwn atgoffa Aelodau o'r rheol sub judice a nodir yn Rheol Sefydlog 13.15. Agorodd crwner gogledd Cymru gwest ar 13 Tachwedd 2017 mewn cysylltiad â'n diweddar gydweithiwr Carl Sargeant. Mae'r cwest wedi'i ohirio, ond yn parhau i fod yn weithredol. Ni ddylai Aelodau, felly, yn y ddadl yma, wneud unrhyw sylwadau a allai greu risg o ragfarn i'r cwest.
I gychwyn y ddadl, rydw i'n galw ar Andrew R.T. Davies i wneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies a Rhun ap Iorwerth. Andrew R.T. Davies.