– Senedd Cymru am 4:02 pm ar 28 Chwefror 2018.
Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Cyn i ni gychwyn y ddadl, hoffwn atgoffa Aelodau o'r rheol sub judice a nodir yn Rheol Sefydlog 13.15. Agorodd crwner gogledd Cymru gwest ar 13 Tachwedd 2017 mewn cysylltiad â'n diweddar gydweithiwr Carl Sargeant. Mae'r cwest wedi'i ohirio, ond yn parhau i fod yn weithredol. Ni ddylai Aelodau, felly, yn y ddadl yma, wneud unrhyw sylwadau a allai greu risg o ragfarn i'r cwest.
I gychwyn y ddadl, rydw i'n galw ar Andrew R.T. Davies i wneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies a Rhun ap Iorwerth. Andrew R.T. Davies.
Cynnig NDM6668 Paul Davies, Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru i gyhoeddi, gyda'r golygiadau priodol er mwyn sicrhau bod y tystion yn parhau i fod yn anhysbys, yr adroddiad i'w hymchwiliad ynghylch a oes unrhyw dystiolaeth y cafodd gwybodaeth ei rhannu o flaen llaw heb ganiatâd—hynny yw, y datgelwyd gwybodaeth heb ganiatâd—gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr ad-drefnu gweinidogol diweddar.
Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n codi i wneud y cynnig ar y papur trefn heddiw yn enw fy nghyd-Aelod Paul Davies fod:
'Galw ar Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru i gyhoeddi, gyda'r golygiadau priodol er mwyn sicrhau bod y tystion yn parhau i fod yn anhysbys, yr adroddiad i'w hymchwiliad ynghylch a oes unrhyw dystiolaeth y cafodd gwybodaeth ei rhannu o flaen llaw heb ganiatâd—hynny yw, y datgelwyd gwybodaeth heb ganiatâd—gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr ad-drefnu gweinidogol diweddar.'
Buaswn yn gobeithio y bydd y cynnig hwn heddiw yn ennyn cefnogaeth y Cynulliad, oherwydd nid yw ond yn ceisio gwneud yr hyn rydym ni fel Aelodau Cynulliad yn disgwyl ei wneud dro ar ôl tro yn ein rôl, sef craffu ar sefydliadau y gwnaed honiadau yn eu herbyn, honiadau y gwnaed ymholiadau yn eu cylch ac y lluniwyd adroddiad arnynt. Ein dyletswydd fel Aelodau'r Cynulliad wedyn yw arfer y swyddogaeth graffu honno dros y sefydliad i ddeall y digwyddiadau a arweiniodd at y cyhuddiad, y fethodoleg a luniodd yr adroddiad, y casgliadau, ac yn y pen draw, a oes angen rhoi unrhyw gamau ar waith. Byddai hynny, i mi, yn gais rhesymol i'w wneud i unrhyw un a luniodd adroddiad, nad oes neb, yn anffodus, wedi cael cyfle i'w weld.
Yn amlwg, mae'r digwyddiadau a arweiniodd at gyhoeddi'r adroddiad hwn wedi bod yn destun cryn dipyn o drafod a diddordeb cyhoeddus. Rhaid imi ddweud, yn yr 11 mlynedd y bûm yn Aelod Cynulliad, nid wyf yn meddwl—ymron pob cylch y bûm ynddo, mae pobl wedi sôn am y digwyddiadau'n ymwneud ag ad-drefnu'r Cabinet, nad yw fel arfer, yn y byd gwleidyddol yng Nghymru, yn ennyn cymaint â hynny o ddiddordeb. Ond oherwydd yr amgylchiadau trasig sy'n deillio o ganlyniad i'r ddogfen, yn amlwg mae pobl wedi dangos diddordeb mawr yn yr agwedd arbennig hon.
Nid wyf yn bwriadu siarad am unrhyw un o'r ymchwiliadau eraill sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd. Nid wyf yn credu y byddai'n briodol o gwbl i mi wneud hynny. Ond rydym yn gwybod bod adroddiad yr Ysgrifennydd Parhaol ym Mharc Cathays, rydym yn gwybod bod yr ymchwiliad wedi ei gwblhau, ond yr hyn nad ydym yn ei wybod yw sut y daethpwyd i'r casgliadau ac yn benodol, unrhyw argymhellion a allai ddeillio o'r adroddiad i wella unrhyw sefyllfaoedd a allai arwain at ganlyniadau o'r fath yn y dyfodol.
Credaf fod angen inni fyfyrio ar y dystiolaeth sydd ger ein bron, yn enwedig wrth inni edrych ar y sylwadau'n ymwneud â'r ad-drefnu sydd, fel y nodais o'r blaen, drwy'r cyfryngau cymdeithasol, drwy negeseuon testun, drwy sylwadau gan sylwebwyr, yno i bawb ei weld. Gallwn gynnig unrhyw un o 101 o enghreifftiau gwahanol o sylwadau o'r fath. Roedd y sylwadau hyn i gyd yn cyfeirio at ffynonellau a oedd yn rhyddhau gwybodaeth i'r cyhoedd ei hystyried, ei thrafod, gwybodaeth sy'n cyfeirio at bobl yn gadael y Llywodraeth honno, pobl yn dod yn rhan o'r Llywodraeth. Yn wir, mae'r rhan fwyaf o bobl yn disgwyl, wrth ad-drefnu'r Cabinet ac mewn gwleidyddiaeth yn gyffredinol, fod yna sgwrsio a bod yna ddadl, gawn ni ddweud, ac mae pobl yn aml iawn am geisio dangos eu gwerth drwy esgus bod, neu drwy fod â gwybodaeth wrth law i ddangos eu bod yn gysylltiedig â'r broses. Gallwn ddyfynnu nifer o negeseuon trydar yma. Mae un yn dweud ei fod wedi clywed gan ffynonellau fod Carl Sargeant @wgcs_community yn colli ei swydd.
Dyna drydariad gan newyddiadurwr. Gallwn fynd ymlaen at lobïwr a oedd yn darogan sut olwg a fyddai ar y Cabinet newydd, sef
2 Aelod Cabinet i adael, dyrchafiad neu ddau a 3 o'r rhai a etholwyd yn 2015 i mewn. A sypreis bach ychwanegol o bosibl.
Roedd hyn oll yn wybodaeth a gafwyd mewn gwirionedd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, a phan edrychwch ar y digwyddiadau yn sgil ad-drefnu'r Cabinet, cafodd ei wireddu.
Hefyd cawsom dystiolaeth heddiw ddiwethaf, er enghraifft, gan ffigwr blaenllaw o Lywodraeth flaenorol a siaradodd am gwmni lobïo, Deryn, a oedd â'r wybodaeth honno ac a oedd yn dweud bod 'y materion allweddol a roddais mewn tystiolaeth i'r ymchwiliad i ddatgelu gwybodaeth heb ganiatâd'—dywedodd ei fod wedi rhoi'r dystiolaeth hon i'r ymchwiliad i ddatgelu gwybodaeth heb ganiatâd—'oedd bod newyddiadurwyr wedi dweud wrthyf eu bod wedi derbyn neges destun gan y sawl a gyflogwyd gan Deryn ymhell cyn y cyhoeddiad ynghylch yr ad-drefnu yn datgan bod Carl Sargeant yn mynd i golli ei swydd.' Dywedodd Aelod Cynulliad Llafur, y cadarnhawyd bellach mai'r Aelod dros Lanelli ydoedd, wrth grŵp Llafur y Cynulliad ar 9 Tachwedd ei fod wedi cael neges destun ar 3 Tachwedd, cyn yr ad-drefnu, yn dweud yr un peth, ond heb nodi pwy a'i hanfonodd. Cafodd rhai Aelodau Seneddol wybod cyn i'r ad-drefnu gael ei gyhoeddi y byddai Carl Sargeant yn colli ei swydd.
Mae'r pethau hyn oll yn gyhoeddus. Nid yw'n rhywbeth rwyf wedi gwneud sylwadau arno a'i gyhoeddi fy hun; nid yw'n sylw y gellir ei briodoli i mi. Roedd yr enghreifftiau hynny yno i gyd, ac unwaith eto, dyna pam yr hoffwn i, ac eraill rwy'n siŵr, ddeall y fethodoleg a'r rhesymeg o ran sut y daeth yr Ysgrifennydd Parhaol i'r casgliadau y daeth iddynt yn ei hadroddiad.
Ychydig cyn y toriad, y toriad hanner tymor hwn, roedd yn gwbl briodol, fel y gwelai llefarydd y Prif Weinidog ar y pryd, i gyfeirio at yr adroddiad, i ddweud mewn adroddiad BBC, am y neges, pan oedd yn siarad am negeseuon testun o gwmpas adeg yr ad-drefnu:
Archwiliwyd y neges hon fel rhan o'r ymchwiliad i'r datgelu heb ganiatâd a ganfu na ddigwyddodd unrhyw ddatgelu heb ganiatâd gan Lywodraeth Cymru. Ni allwn wneud sylwadau pellach.
Mae'n ymddangos, pan fyddant yn dewis cyfeirio at yr adroddiad, er mwyn siarad gyda newyddiadurwyr wrth gwrs, y cânt wneud hynny—hynny yw, llefarwyr ar ran Llywodraeth Cymru—ac eto pan fyddwn ni, fel Aelodau Cynulliad Cymru, eisiau gweld yr adroddiad hwnnw, cawn ein hamddifadu o'r cyfle. Yn wir, mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog, pan oeddwn yma ddiwedd mis Ionawr yn holi'r Prif Weinidog am yr adroddiad, dywedwyd wrthyf fy mod yn ceisio datgelu pwy oedd y bobl a oedd wedi rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad hwnnw. Dim o gwbl—yn y pen draw, dyna'r peth olaf y byddai neb yn dymuno ei wneud. Pan fo pobl wedi gofyn am y cyfrinachedd hwnnw, fel y mae'r cynnig y prynhawn yma yn ei nodi, dylid parchu'r cyfrinachedd, dylid ei warantu mewn gwirionedd.
Ond hoffwn ofyn, ac arweinydd y tŷ sydd yn ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, os wyf yn iawn i feddwl hynny—. Oherwydd un o'r pethau a ddaeth yn amlwg yn y sgwrs rhyngof fi a'r Prif Weinidog ar y pryd oedd bod y Prif Weinidog wedi dweud yn ei ymateb i mi fod gofyn i bobl—ac rwy'n ei ddyfynnu'n uniongyrchol yma:
Gofynnir i bobl roi tystiolaeth yn gyfrinachol.
Felly, buaswn yn ddiolchgar—. A oedd hynny'n rhagofyniad i bob tyst cyn iddynt roi tystiolaeth, y byddai'r dystiolaeth yn cael ei thrin yn gyfrinachol? Oherwydd mae hynny'n ymddangos yn dipyn o amod i'w gosod ar y dystiolaeth honno, gan wybod yn bendant wedyn y byddai gennych reswm dros beidio â sicrhau bod yr adroddiad hwnnw ar gael. Hoffwn gael eglurhad ar y datganiad hwnnw, os gwelwch yn dda, os mai arweinydd y tŷ sydd yn ymateb i'r ddadl hon y prynhawn yma.
Ers y cwestiynau i'r Prif Weinidog ar 30 Ionawr, rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol yn mynegi fy mhryderon ynghylch yr atebion i gwestiynau'r Prif Weinidog y diwrnod hwnnw, yn enwedig ynghylch y dystiolaeth a gasglwyd gan yr ymchwiliad a chwestiynau ysgrifenedig Cynulliad Cymru dilynol a ddaeth yn ôl yn nodi ffynonellau pellach o wybodaeth y gofynnais am eglurhad yn eu cylch, i weld a gawsant hwy hefyd eu cynnwys yn yr ymchwiliad. Ni chefais ateb hyd yma i fy llythyrau dyddiedig 30 Ionawr a 31 Ionawr. Unwaith eto, nid wyf yn credu bod honno'n sefyllfa foddhaol i fod ynddi bron fis wedi i'r llythyrau hynny gael eu hanfon—. Nid wyf wedi cael llythyr cydnabod hyd yn oed, rhaid imi ddweud, ac felly buaswn yn gwerthfawrogi rhyw fath o gydnabyddiaeth neu ymateb.
Felly dyna pam rydym yn sefyll yma heddiw yn trafod y pwnc hwn, oherwydd ni allaf ennyn unrhyw ymateb gan yr Ysgrifennydd Parhaol i lythyrau a anfonais dros fis yn ôl. Yn wir, yn y mis ers hynny, rwyf wedi cael cwestiynau ysgrifenedig yn ôl gan y Prif Weinidog pan ofynnais am y canllawiau ar gyfer yr ymchwiliad hwn ac yn wir, y canllawiau a oedd yn gwahardd cyhoeddi'r adroddiad. Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y gweithdrefnau sefydledig parthed ymchwiliadau i ddatgelu gwybodaeth heb ganiatâd, gweithdrefnau y mae'r gwasanaeth sifil yn eu deall yn dda, a chawsant eu nodi gan yr Ysgrifennydd Parhaol fel rhesymau dros beidio â symud ymlaen i gyhoeddi'r adroddiad. Ac mae fy nghais i gael gweld y rheoliadau hynny, a sut y cafodd y rheoliadau eu dehongli, yn dal i fod heb ei dderbyn, ac roedd hynny ar ddechrau mis Chwefror.
Mae hwn yn bwnc sensitif ac emosiynol iawn. Mae'n un o bedwar adroddiad. Credaf fod angen inni osod cynsail fel Cynulliad y dylai'r adroddiad hwn gael ei gyhoeddi, ac mae gennym ni fel Aelodau Cynulliad hawl i edrych ar yr adroddiad hwnnw, i ddeall yr adroddiad hwnnw a'i gasgliadau. Dyna hawl sylfaenol, buaswn yn dweud. Fel deddfwrfa ac fel Cynulliad, dylem bleidleisio o blaid y cynnig hwn y prynhawn yma er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gosod y cynsail hwnnw a bod yr adroddiad ar gael i ni fel Aelodau'r Cynulliad. Ni fydd dim byd llai yn gwneud y tro, ac rwy'n annog yr Aelodau yn y Siambr heddiw i gefnogi'r cynnig sydd ger eich bron, ac yn y pen draw i ganiatáu i heulwen tryloywder ddisgleirio ar yr adroddiad hwn fel rhagamod sylfaenol, fel y gallwn osod y cynsail ar gyfer adroddiadau pellach y gwyddom y byddant yn dod ger ein bron pan fydd adroddiadau Cwnsler y Frenhines a James Hamilton wedi'u cyflwyno. Dyna pam rwy'n annog y Siambr i gefnogi'r cynnig sydd ger eich bron.
Rwy'n codi i gefnogi y cynnig yma. Rwy'n meddwl fod yna egwyddor bwysig yn y fantol fan hyn. Mae canfyddiadau yr ymchwiliad penodol yma yn fater o bwysigrwydd ac o ddiddordeb cyhoeddus, fel yr ŷm ni wedi ei glywed. Ac o ganlyniad, wrth gwrs, yn fy marn i, mi ddylai felly gael ei wneud yn gyhoeddus, gyda'r caveats sydd wedi cael eu crybwyll ynglŷn â'r angen i ddileu enwau ac yn y blaen.
Nawr, mae wedi bod yn anghyfforddus iawn gorfod mynd nôl i edrych ar egwyddorion Nolan, a dweud y gwir—y saith egwyddor rŷm ni i gyd i fod i ymlynu atyn nhw, a rhai rŷm ni, rydw i'n siŵr, yn eu darllen bob nos cyn mynd i'r gwely, ond maen nhw yn berthnasol iawn yn y cyd-destun yma, oherwydd bod yn agored yw un ohonyn nhw. Bod yn agored: mae'n syml. Mae'n gwbl syml: dylem ni weithredu a gwneud penderfyniadau mewn modd agored a thryloyw, ac na ddylid dal gwybodaeth yn ôl o'r cyhoedd oni bai bod yna resymau cyfreithiol i wneud hynny. Wel, dyna chi un egwyddor sydd â risg o gael ei thramgwyddo yn y cyd-destun yma.
Aweinyddiaeth—mae dangos arweinyddiaeth yn un egwyddor arall. Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus hyrwyddo a chefnogi'r egwyddorion yma trwy arweiniad a thrwy esiampl. Felly, mae'n rhaid i ni ddangos yr arweiniad a'r esiampl yna o safbwynt bod yn agored. Gyda llaw, mae hefyd yn dweud bod 'arweiniad' yn golygu bod yn barod i herio arfer drwg sef, ysywaeth, beth rydw i'n deimlo mae'r gwrthbleidiau yn gorfod ei wneud fan hyn yn y Siambr y prynhawn yma.
Heb fod yn agored a heb fod yn dryloyw drwy gyhoeddi'r adroddiad yma, yna canfyddiad y cyhoedd, yn naturiol, fydd fod yna rywbeth i'w guddio. Ac, yn absenoldeb cyhoeddi'r adroddiad yma, rydw i yn teimlo man lleiaf y dylai fod yna gyfle i gael cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog er mwyn craffu ymhellach ar y broses yma a gweithredoedd y Prif Weinidog achos, fel arall, ble mae yna atebolrwydd? Ble mae yna atebolrwydd? Atebolrwydd—a ydych chi'n cofio hynny? Mae hwnnw hefyd yn un o'r egwyddorion sylfaenol yr ydym ni i gyd mewn bywyd cyhoeddus yn gorfod eu harddel, a heb hynny rydw i'n ofni y byddwn ni yn gwneud anghyfiawnder mawr â'r bobl sydd wedi ymddiried ynom ni i'w cynrychioli nhw.
Nawr, mi ges i fy mrawychu wythnosau yn ôl ynglŷn â'r modd braidd yn nawddoglyd y cyfeiriwyd at y ffaith mai pleidleisiau cynghorol—advisory—oedd y rhain ac nad ydyn nhw'n ymrwymo y Llywodraeth i weithredu. Wrth gwrs, mae hynny yn wir, ond roeddwn i'n gweld y llinell yna eto'n ymddangos gan ffynhonnell yn y wasg y bore yma. Mae e yn codi cwestiwn yn fy marn i ynglŷn â ble y mae hyn i gyd yn gadael democratiaeth. Ble mae e'n gadael atebolrwydd democratiaeth a'n rôl ni, nid dim ond fel gwrthbleidiau, ond pob un ohonom ni fel Aelodau o'r sefydliad yma? Mae clywed rhyw sylwadau fel yna yn fy ngwneud i hyd yn oed yn fwy penderfynol i sicrhau bod y Prif Weinidog yn atebol drwy bwyllgor craffu neu drwy unrhyw gyfrwng. Os nad yw'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi mae yna fethu ar y test yn fanna. Os nad oes dim atebolrwydd digonol fan hyn yn y Siambr, mae yna fethiant ar y prawf yna hefyd. Felly, rydw i yn teimlo bod yn rhaid i ni edrych ar bwyllgor craffu yn cael y cyfle i ystyried hyn.
Mi wnaf i gloi drwy ategu pwynt rwyf wedi'i wneud o'r blaen.
Rwyf am gloi gyda phwynt ehangach am god y gweinidogion a'i berthynas, neu ei ddiffyg perthynas mewn gwirionedd, â'r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad a rôl y comisiynydd safonau. Mae wedi cael ei ddweud o'r blaen: mae llawer ohonom yn teimlo nad yw'n iawn fod y Prif Weinidog yn farnwr, rheithgor a dienyddiwr mewn perthynas â chod y gweinidogion. Fy ofn ynglŷn â hyn yw y bydd gennych elfen o wleidyddiaeth a'r personol bob tro y bydd gennych rywun sy'n gwneud penderfyniadau ar ddyfodol swyddi pobl yn ei reoli a gallai hynny fod yn rhwystr i rai o'r prosesau hyn. Nid wyf yn dweud bod hynny'n digwydd drwy'r amser, nid wyf yn dweud ei fod yn flaenllaw yn yr ystyriaethau hynny, ond mae yno. Efallai ymhell yn y cefndir, efallai yn yr isymwybod, mae risg—ac mae'n risg go iawn—ei fod yno. Felly, mae gennym ddwy gyfundrefn cyfochrog, un y llywyddir drosti, fel rwy'n dweud, gan y sawl sy'n gwneud penderfyniadau am swyddi pobl, sy'n rhwym o gynnwys peth o'r cyd-destun personol hwnnw a'r cyd-destun gwleidyddol, ac un arall sy'n gwbl annibynnol, sef ein cod ymddygiad ein hunain fel Aelodau'r Cynulliad a'r comisiynydd safonau. Byddai'n llawer gwell gennyf pe bai gennym un gyfundrefn safonau i bawb ohonom.
Mae'r pwyllgor safonau yn ailystyried y cod ymddygiad yn dilyn digwyddiadau diweddar ac rydym eisoes, ar ôl un sesiwn dystiolaeth yn unig, yn cael neges glir gan nifer o sefydliadau allanol a rhanddeiliaid sydd â diddordeb fod y dirwedd bresennol yn ddryslyd, yn gymhleth. At bwy y trowch? A ydych yn troi at y comisiynydd safonau? A yw'n ymwneud â'r cod ymddygiad? A ydych yn troi at swyddfa'r Prif Weinidog? A yw'n ymwneud â chod y gweinidogion? A yw'n fater gwleidyddol? Mae'r disgwyl i achwynwyr lywio eu ffordd drwy hynny i gyd, wrth gwrs, yn ei gwneud yn llawer llai tebygol fod y bobl sydd â phryderon a chwynion go iawn yn mynd ar eu trywydd mewn gwirionedd. Dyna'r peth olaf y byddem ei eisiau, rwy'n siŵr. Felly, pa neges y mae atal yr adroddiad hwn yn ei rhoi i'r bobl hynny a phobl eraill? A yw'n iawn fod gennym gyfundrefn lle mae'r Prif Weinidog yn gofyn y cwestiynau ac yn ateb ei gwestiynau ei hun i bob pwrpas? Nid wyf yn credu hynny. Os nad oes gan Carwyn Jones ddim i'w guddio ni ddylai fod ganddo ddim i'w ofni o gyhoeddi'r adroddiad hwnnw.
Rwy'n codi i gefnogi'r cynnig hwn y prynhawn yma ac mae'n anodd gweld sut y gallai unrhyw un ei wrthwynebu mewn difrif. Pa ddadl bosibl a allai fod dros beidio â bod eisiau cyhoeddi'r adroddiad hwn gyda'i holl gyfyngiadau a golygiadau? Mewn bywyd blaenorol, roedd gennyf gyfrifoldeb ar ran Llywodraeth y DU dros gyhoeddi tystysgrifau imiwnedd lles y cyhoedd, a oedd yn golygu eich bod yn cadw rhywbeth yn gyfrinachol am resymau'n ymwneud â diogelwch gwladol neu ystyriaethau pwysig eraill er budd cenedlaethol. Nid oes unrhyw ystyriaeth o'r fath y gellid ei rhoi i gyfiawnhau parhau'r cyfrinachedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn. Gallaf weld bod yna resymau'n ymwneud â diogelwch y Llywodraeth pam na fyddent yn dymuno ei weld yn cael ei gyhoeddi, ond yn sicr ni all fod unrhyw reswm yn ymwneud â diogelwch gwladol a fyddai'n cyfiawnhau parhau'r cyfrinachedd.
Nawr, nid yw hynny'n dweud y credaf y byddwn yn dysgu llawer iawn pan gyhoeddir yr adroddiad hwn. Rwyf wedi cael profiad o ymchwiliadau i ddatgelu gwybodaeth heb ganiatâd, neu honiadau o ddatgelu heb ganiatâd o'r Llywodraeth ar sawl achlysur yn y gorffennol ac nid yw ymchwiliadau mewnol byth yn cyrraedd y gwirionedd yn eu cylch. Y gwir amdani yma yw nad yw uwch weision sifil, drwy eu natur, yn cael eu hyfforddi i gyrraedd y gwir mewn ymchwiliadau o'r math hwn. Nid ydym yn gwybod pa mor eang y mae ymchwiliadau'r Ysgrifennydd Parhaol wedi mynd. Nid ydym yn gwybod i ba raddau y defnyddiodd ryw fath o frwdfrydedd fforensig wrth edrych ar y dystiolaeth y gallai ei harchwilio. Pan wneir y pethau hyn y tu ôl i ddrysau caeedig, nid yw'r darnau hyn o wybodaeth, sy'n ein galluogi i werthuso pa mor ddwfn a manwl y mae ymchwiliad wedi bod, yn dod ar gael. Felly, nid wyf yn disgwyl fawr o ddim i godi o hyn ac yn wir, mae'r gyfres o ymchwiliadau a roddwyd ar y gweill wedi'u cynllunio'n fwriadol, rwy'n credu, i beidio â'n galluogi i gyrraedd y gwir.
Fel arall, pe baem wedi cael ymchwiliad trosfwaol wedi'i wneud gan berson a oedd yn amlwg yn annibynnol, megis Cwnsler y Frenhines, yna efallai y byddem wedi cyrraedd rhywle, ond o ystyried y lliaws o ymchwiliadau a'r gwahanol gylchoedd gorchwyl, pob un wedi'i osod gan Lywodraeth sydd ei hun yn cael ei hymchwilio, mae'n debyg, nid ydym yn debygol o gyrraedd y gwir. Nid yw Ysgrifenyddion Parhaol yn cael eu hyfforddi i chwarae ditectif, ac nid ydynt yn arbennig o wrthwynebus o ran y sgiliau sydd ganddynt ar gyfer y dasg. Nid beirniadaeth o'r Ysgrifennydd Parhaol yw hynny yn yr achos hwn nac mewn unrhyw achos arall yn wir; mater o ffaith yn unig ydyw. Ac o ganlyniad, nid hi, gyda'i holl alluoedd a'i chryfderau amlwg, yw'r person gorau i gyflawni'r dasg a roddwyd iddi. Yr un peth a wyddom yw bod cyfrinachedd yn celu anghyfiawnder ac yn hwyluso camddefnydd o rym ac ni allaf weld unrhyw reswm pam na ddylid cyhoeddi canlyniadau'r ymchwiliad hwn yn yr achos penodol hwn.
Yn anffodus, yn y Blaid Lafur ar y funud, gwyddom fod helyntion mewnol o bob math yn digwydd—nid wyf am fanylu arnynt yn y ddadl hon gan y byddai hynny y tu hwnt i gylch gorchwyl yr hyn rydym yn ei drafod yma. Ond mae yna natur annymunol yn perthyn i wleidyddiaeth o bryd i'w gilydd yn y pleidiau eraill yn ogystal, a chredaf fod yr hyn rydym yn ymdrin ag ef yma yn enghraifft o hynny a dylai pob un ohonom, mewn gwirionedd, fod eisiau mynd i wraidd y mater. Rwyf wedi derbyn triniaeth debyg fwy nag unwaith yn ystod fy ngyrfa wleidyddol ac nid yw Llywodraethau'r dydd erioed wedi bod eisiau i chi gyrraedd y gwir. Ac nid yw'n ymwneud o reidrwydd â Gweinidogion eu hunain; yn aml, pobl sy'n mynd y tu hwnt i'w hawdurdod gan feddwl eu bod yn gwneud rhywbeth y byddai eu Gweinidogion yn ei gymeradwyo sy'n gyfrifol. Mae holl system y cynghorwyr arbennig ei hun yn tueddu i wneud hyn. Fel rheol, aelod o staff sy'n gyfrifol am arllwys y fath gasineb ar y byd gwleidyddol. Fe'i gwelais yn y Blaid Geidwadol, a chredaf ein bod bellach yn ei weld yn y Blaid Lafur yn ogystal.
Ac felly, rwy'n gobeithio, yn ystod y ddadl hon, y bydd y rhai sy'n ceisio'r gwirionedd, y rhai sy'n arddel tryloywder, y rhai sy'n datgelu anghyfiawnder yn y Blaid Lafur—yn y grŵp Llafur yn y Cynulliad hwn—yn dod i'n cynorthwyo ac yn dweud, er eu mwyn hwy, ac er mwyn eu plaid hefyd, eu bod am gyrraedd y gwirionedd ynghylch y mater hwn, eu bod am gynnal am enw da'r Llywodraeth, a'i wella yn wir, ac yn fwy perthnasol, eu bod am weld y Cynulliad hwn yn arwain pobl Cymru i gyrraedd y gwir ynghylch y mater hwn a sefydlu ei enw da ei hun fel cynrychiolydd y bobl a chynrychiolydd gwirionedd a chyfiawnder.
Nid oeddwn byth eisiau unrhyw ran yn y stori hon. Roedd Carl Sargeant yn gydweithiwr gwerthfawr i mi ac rwy'n parhau wedi fy ngofidio'n fawr gan ei farwolaeth. Ond gan fod fy enw wedi'i grybwyll, credaf y dylwn roi fy nghyfrif fy hun. Rwy'n sicr yn fy meddwl fy hun mai hel clecs oedd y neges destun a gefais ar ddiwrnod yr ad-drefnu. Fel y mae Andrew R.T. Davies wedi derbyn yn ei araith agoriadol, yn aml ceir cleber mewn perthynas ag ad-drefnu a dyna sut roeddwn yn trin y neges destun. Nid oedd yn dod o ffynhonnell swyddogol ac yn wir, nid oeddwn yn ei hystyried o ddifrif hyd nes y gwelais y datganiad a gyhoeddodd Carl ei hun yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Ni roddais wybod i unrhyw newyddiadurwr am yr hyn a glywais, ond dywedais wrth fy nghyd-Aelodau ar y cyfle cyntaf am y neges destun a gefais, a rhoddais dystiolaeth i'r ymchwiliad i'r datgelu heb ganiatâd yn ôl y gofyn. Fel y dywedais, nid oeddwn eisiau unrhyw ran yn hyn, a chredaf fy mod wedi gweithredu'n briodol.
Galwyd arnaf i ddweud pwy a anfonodd y neges destun ataf. Nid wyf wedi gwneud hynny ac ni wnaf hynny, oherwydd nid wyf am gyfrannu at lwybr o friwsion a allai arwain at nodi pwy yw'r bobl a ddaeth ymlaen. Rwy'n deall y rhwystredigaeth nad oes rhagor o wybodaeth o'r adroddiad wedi ei chyhoeddi, ond rwy'n credu ei bod hi'n iawn bellach y bydd yr ymchwiliad annibynnol yn ystyried adroddiad llawn yr ymchwiliad i'r datgelu heb ganiatâd. Mater i Paul Bowen, Cwnsler y Frenhines, fydd pwyso a mesur arwyddocâd hyn oll a barnu a yw'r modd y cafodd y wybodaeth hon ei thrin yn berthnasol i'r digwyddiadau a ddilynodd hynny.
Mae'r gwrthbleidiau yn gwthio am gyhoeddi fersiwn wedi ei golygu o'r adroddiad, ond mae hyd yn oed fersiwn wedi ei golygu yn creu risg na fydd rhai o'r achwynwyr yn aros yn ddienw. Ac mae'r menywod wedi mynd yn angof yn hyn oll, Lywydd. Ni fyddwn byth yn gallu profi eu honiadau'n deg. Nid yw hynny'n deg arnynt hwy, nac yn deg ar Carl. Ond o leiaf gadewch i ni beidio â gwneud y sefyllfa'n waeth drwy fygwth eu hawl i aros yn ddienw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Daeth y drasiedi hon yn destun gêm wleidyddol ac nid wyf eisiau unrhyw ran ynddi. Mae yna ddau ymchwiliad arall, a chwest, eto i gyflwyno adroddiadau. Mae angen gadael i'r prosesau hyn gael eu cwblhau. Diolch.
Nid wyf yn falch o gael cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma o gwbl, a chyda chalon drom rwy'n codi i gymryd rhan ynddi. Mae'n ddrwg gennyf fod y siaradwr blaenorol yn teimlo bod hyn yn ymwneud â sgorio pwyntiau gwleidyddol; nid yw hynny'n wir o gwbl. Yn fy marn i, mae'n ymwneud ag angen i ganfod y gwir am yr hyn a ddigwyddodd, angen i ddeall y prosesau y mae'r Ysgrifennydd Parhaol wedi bod drwyddynt, cwmpas ei hymchwiliad i'r honiadau y datgelwyd gwybodaeth heb ganiatâd gan Lywodraeth Cymru cyn yr ad-drefnu—ac nid wyf yn credu ein bod wedi cael unrhyw atebion ar hyn o bryd. Yn wir, credaf fod y datganiad a wnaeth yr Ysgrifennydd Parhaol ar ddiwedd ei gwaith wedi arwain at fwy byth o amwysedd, mewn gwirionedd, ynghylch yr hyn a ddigwyddodd. Nid wyf yn meddwl y gall fod gennyf hyder yng nghanlyniad y gwaith hwnnw oherwydd y datganiad a gyhoeddwyd. Rwy'n credu bod dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Parhaol i rannu cymaint ag y gall am y ffordd y cyflawnodd ei gwaith â Llywodraeth Cymru a phob Aelod o'r Cynulliad hwn, a phobl Cymru, fel y gallwn gael hyder yn y prosesau hynny.
Dyma'r unig dro ers i mi ddod yn Aelod Cynulliad—a chafwyd sawl achos o ad-drefnu gweinidogol—lle y gwelais wybodaeth am benodiadau i'r Cabinet yn cael sylw yn y modd hwn; nid wyf wedi gweld hynny o'r blaen. Wrth gwrs mae yna ddyfalu o bryd i'w gilydd, wrth gwrs hynny, ond rwy'n credu bod yr argraff a geir allan yno ym myd Twitter, ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yn wir, rhai o'r sylwadau a glywsom gan newyddiadurwyr ers i'r ad-drefnu penodol hwn ddigwydd, yn ei gwneud yn gwbl glir nad dyfalu'n unig oedd yn digwydd, roedd gwybodaeth yn cael ei rhannu cyn yr ad-drefnu, cyn i'r wybodaeth honno gael ei rhannu gyda'r bobl a oedd yn cael eu penodi hyd yn oed, a'r bobl a oedd yn cael eu diswyddo o Gabinet y Prif Weinidog. Credaf fod hynny'n drueni mawr ac mae angen inni ddeall yn union beth sydd wedi digwydd.
Gwyddom fod yr Ysgrifennydd Parhaol wedi dweud yn glir na chafodd dim ei ddatgelu heb ganiatâd, yn ei geiriau hi, ond nid ydym yn gwybod a oedd hi wedi ystyried y dystiolaeth oddi ar Twitter, a gafodd ei ddiystyru gan y Prif Weinidog braidd yn ysmala, rhaid imi ddweud, oherwydd, gadewch inni wynebu'r gwir, mae llawer o bobl wedi gorfod mynd gerbron y llys oherwydd y pethau y maent wedi'u dweud ar Twitter, a'u cael yn euog o bethau yn wir. Felly, mae'n wirioneddol bwysig inni ddeall a oedd yr Ysgrifennydd Parhaol yn cytuno gyda'r Prif Weinidog nad oedd honno'n dystiolaeth, neu a oedd hi mewn gwirionedd wedi ei gynnwys yn rhan o'i gwaith. Fel chithau, Lee Waters, nid wyf eisiau gweld pobl yn cael henwi a'u cywilyddio, fel petai, o ran unrhyw un a wnaeth honiadau; nid dyna yw diben y ddadl heddiw o gwbl. Rydym eisiau deall sut y gallwn gael hyder yn rhywbeth sydd wedi digwydd, ac sydd ar hyn o bryd, yn aneglur iawn.
Nawr, rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir y bydd yr ymchwiliad dan arweiniad Cwnsler y Frenhines yn cael copi o'r adroddiad hwn. Credaf fod hynny'n gwbl briodol, o ystyried cwmpas y gwaith y bydd Paul Bowen a'i dîm yn gorfod ei wneud.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Wrth gwrs.
Diolch i chi. Rwy'n deall y pwynt y mae'n ei wneud, ac rwy'n deall y pwynt roedd Lee Waters hefyd yn ei wneud, ond y broblem inni fel Cynulliad yn dod at ein gilydd, rwy'n credu, yw nad oes gan ymchwiliad Bowen, yn ôl yr hyn a ddeallaf, unrhyw gylch gorchwyl wedi'i gytuno o hyd. Yn sicr nid oes ganddo amserlen rydym yn ei deall, ac mae'n gosod persbectif arall ar ben persbectif yr adroddiad hwn, ac felly bydd yn fwyfwy anodd deall y pwynt y mae wedi bod yn ei wneud, sef a rannwyd gwybodaeth a awdurdodwyd ymlaen llaw. Bydd hynny'n cael ei golli os ydym yn ei roi gerbron ymchwiliad arall nad ydym yn deall ei ddiben o hyd.
Mae hynny'n wir. Ac wrth gwrs, gwaith y Cynulliad Cenedlaethol hwn yw dwyn ein Llywodraeth i gyfrif, ac mae hynny'n golygu pob rhan o'r Llywodraeth, nid y rhannau gwleidyddol yn unig, ond y rhannau gweithredol yn wir—y swyddogion sydd y tu ôl i'r gwleidyddion y dadleuwn â hwy yma yn Siambr y Cynulliad Cenedlaethol. Rhaid imi ddweud, rwy'n credu ei bod yn anghwrtais iawn fod yr Ysgrifennydd Parhaol wedi gwneud datganiadau ar ganlyniad ei hymchwiliad, ei gwaith, ei hymchwiliad i'r datgelu hwn heb ganiatâd, heb gyflwyno datganiad ffurfiol i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn gwirionedd, i Aelodau'r Cynulliad. Bu'n rhaid i ni ddarllen am ganlyniad hyn mewn adroddiadau yn y wasg.
Nawr, mae'n ddrwg gennyf, ond nid wyf yn meddwl bod hynny'n dderbyniol, ac rwy'n credu bod angen inni ddeall yn well, ac rwy'n credu bod angen iddi fod ar gael i siarad ag Aelodau'r Cynulliad, boed yn breifat neu mewn pwyllgor Cynulliad o ryw fath, er mwyn rhoi cyfrif am y ffordd y cynhaliodd yr ymchwiliad. Credaf y byddai hynny'n ddefnyddiol. Gadewch inni wynebu'r gwir, mae dogfennau preifat yn cael eu rhannu â ni, fel Aelodau'r Cynulliad, yn rheolaidd yn sgil ein gwaith pwyllgor a pethau eraill a wnawn. Dylai fod yn berffaith resymol inni gael yr Ysgrifennydd Parhaol i ymddangos gerbron panel o Aelodau'r Cynulliad yn fy marn i, boed yn bwyllgor safonau, neu bwy bynnag, nid wyf yn gwybod, ond mae angen inni fynd at wraidd yr hyn a ddigwyddodd, mae angen i ni ddeall sut y cyrhaeddodd y wybodaeth hon y cyhoedd cyn i'r bobl a oedd yn cael eu diswyddo o'r Cabinet wybod am y peth mewn gwirionedd.
Felly, mae'n anghwrteisi o'r mwyaf tuag at y Cynulliad hwn nad ydym yn cael gweld copi o'r adroddiad wedi ei olygu. Mae adroddiadau wedi eu golygu yn cael eu cyhoeddi gan y sector cyhoeddus drwy'r amser ar faterion dadleuol iawn, gan gynnwys pethau megis Tawel Fan yn ngogledd Cymru, lle y rhannwyd manylion cleifion—wedi eu golygu heb enwau. A chredaf fod angen i gopi o'r adroddiad hwn fod ar gael i'r cyhoedd hefyd.
Galwaf ar arweinydd y tŷ, Julie James.
Diolch, Lywydd. Mae'r Llywodraeth hon yn cytuno'n llwyr fod diben mewn bod yn agored a thryloyw yn y materion hyn. Ond mae fframwaith cyffredinol y gyfraith ar gyfer mynd ati ar y cwestiwn hwn yn glir iawn. Pan fo cyhoeddi gwybodaeth yn debygol o beryglu'r modd y caiff materion cyhoeddus eu cyflawni yn gyffredinol, neu beryglu unrhyw broses ymchwilio, yna ceir asesiad o'r budd cyhoeddus ynglŷn ag a ddylid datgelu gwybodaeth neu atal gwybodaeth rhag cael ei datgelu.
Yn amlwg, pe bai adroddiad a ddatgelwyd heb ganiatâd yn cael ei gyhoeddi, gallai amharu ar ymchwiliadau yn y dyfodol i ddatgelu gwybodaeth heb ganiatâd drwy danseilio hyder ym mhroses yr ymchwiliad, a bod unigolion yn llai parod i roi tystiolaeth. Pe bai hynny'n digwydd, ni fyddai er budd y cyhoedd. Ond yma, ceir yr elfen ychwanegol o ymchwiliadau parhaus, ceir risgiau pellach posibl i uniondeb cyffredinol y broses—[Torri ar draws.]
Rwy'n ddiolchgar iawn i arweinydd y tŷ am dderbyn yr ymyriad. Un cwestiwn syml, a hoffwn iddo gael ei ofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol, ac efallai eich bod wedi gofyn hyn ar ran y Llywodraeth i'r Ysgrifennydd Parhaol, sef: a yw hi wedi gofyn i unrhyw un o'r tystion a ydynt yn fodlon i'w gwybodaeth gael ei rhannu ar ffurf wedi'i golygu er mwyn sicrhau nad oes modd i neb wybod pwy ydynt?
Mae hyn yn ymwneud â mwy na'r adroddiad hwn a ddatgelwyd heb ganiatâd; mae'n ymwneud ag uniondeb ymchwiliadau yn y dyfodol ac adroddiadau cyfrinachol yn y dyfodol.
Ond yma, ceir elfen ychwanegol o ran yr ymchwiliadau parhaus, ceir risgiau pellach posibl i uniondeb cyffredinol y broses os darperir gwybodaeth yn gyhoeddus ar sail dameidiog. O safbwynt gweithredol, fodd bynnag, mater i'r Ysgrifennydd Parhaol yw hyn. Mae hi wedi cadarnhau y bydd copi o'r adroddiad a ddatgelwyd heb ganiatâd ar gael i Gwnsler y Frenhines sy'n cynnal yr ymchwiliad annibynnol. Dyna'r broses gywir i'w dilyn yn y mater hwn yn ein barn ni. Diolch.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Nodir byrder ymateb y Llywodraeth a bydd pobl yn ffurfio barn, rwy'n siŵr, ynglŷn ag a oedd yn dangos cwrteisi priodol tuag at y Cynulliad hwn.
Rwy'n cloi'r ddadl drwy siarad o blaid y cynnig heddiw, cynnig a gyflwynwyd er mwyn ceisio sicrhau'r tryloywder mwyaf posibl ynghylch cwestiynau ynglŷn ag a rannwyd gwybodaeth benodol cyn yr ad-drefnu gweinidogol diweddar, a sut y gwnaed hynny. Casglodd yr ymchwiliad i'r datgelu heb ganiatâd gan yr Ysgrifennydd Parhaol na rannwyd gwybodaeth heb ganiatâd ynghylch yr ad-drefnu, ond er mwyn ceisio cymaint o dryloywder â phosibl, rydym yn credu bod arnom angen i'r adroddiad yn ei gyfanrwydd gael ei gyhoeddi. Credaf fod y ddadl honno wedi'i gwneud yn glir iawn ar draws y gwrthbleidiau gwleidyddol y prynhawn yma.
Pa gwestiynau a ofynnwyd? Mae angen inni wybod. Sut y daethpwyd i'r casgliadau? Os na rannwyd gwybodaeth heb ganiatâd, a rannwyd peth gwybodaeth gyda chaniatâd, a thrwy ddiffiniad, ni fyddai hynny'n golygu datgelu answyddogol? Fel arall, os canfuwyd na rannwyd unrhyw wybodaeth o gwbl, beth a ysgogodd y dyfalu ynghylch yr ad-drefnu? Nid wyf yn credu ein bod wedi gweld ad-drefnu gweinidogol ym mis Tachwedd o'r blaen, nid yn y blynyddoedd diwethaf yn sicr. A gafodd hyn ei ymchwilio?
Byddai cyhoeddi adroddiad yr ymchwiliad yn ffordd glir o chwilio am atebion i gwestiynau o'r fath ac i ddarparu tryloywder, ac mae angen hwnnw arnom. Mae arnom angen hyder llwyr—arnom ni fel y cyhoedd yng Nghymru lawn cymaint â ni fel seneddwyr—yng nghanlyniad yr ymchwiliad. Gan edrych ar y darlun ehangach, yr hyn a welwn yma, bob un ohonom, yw dulliau, beth bynnag sydd angen iddynt fod, o gryfhau hyder yn systemau a gweithdrefnau Llywodraeth, a'r Cynulliad hwn yn wir.
Bydd yr Aelodau'n nodi bod y cynnig yn cyfeirio at olygiadau. Barn fy mhlaid, ac mae'n farn a glywsom gan eraill, yw bod y golygiadau hynny yn gwbl hanfodol er mwyn sicrhau bod tystion yn aros yn ddienw, ac rydym yn fodlon y gallai hyd yn oed adroddiad wedi ei olygu ein helpu i ddod allan o'r cylch hwn o gwestiynau diddiwedd nad ydynt byth i'w gweld yn rhoi atebion boddhaol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr.
Un peth y gellid ei baratoi'n hawdd fyddai datganiad o'r fethodoleg a ddefnyddiwyd, a manylion ynghylch cwmpas y dystiolaeth a ystyriwyd, heb enwi neb nac unrhyw ddarnau o dystiolaeth. Rydym yn y tywyllwch am bopeth.
Rwy'n cytuno, ac mae hynny'n adlewyrchu'r sylwadau a wneuthum yn gynharach am yr angen i wybod sut y gofynnwyd cwestiynau, pa gwestiynau a ofynnwyd a sut y daethpwyd i'r casgliadau.
Mae cwestiynau allweddol yn dal heb eu hateb ynghylch amgylchiadau'r ad-drefnu. Rwyf wedi gweld testunau yr wythnos hon, a deallaf y byddant ar gael i'r ymchwiliad dan arweiniad Cwnsler y Frenhines i'r digwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth Carl Sargeant, sy'n dangos ei fod yn credu ei fod yn gwybod fod ad-drefnu ar y ffordd. Roedd y negeseuon hynny rhwng Carl a ffrind yn rhagweld yn gywir y byddai ad-drefnu'n digwydd. Ond sut roedd y dyfalu wedi cyrraedd y pwynt hwnnw?
Bûm yn gweithio fel newyddiadurwr gwleidyddol am bron i ddau ddegawd. Mae gennyf syniad go dda sut y gall briwsionyn o ddyfalu dyfu'n belen eira fawr. Ond sut roedd un Ysgrifennydd Cabinet yn yr achos hwn wedi'i glustnodi mor bendant yn ôl pob golwg fel un yr oedd ei amser yn y Llywodraeth ar fin dod i ben? Rydym yn bell o ddod o hyd i atebion i gwestiynau o'r fath, a gallai pleidlais heddiw i gyhoeddi adroddiadau'r Ysgrifennydd Parhaol fynd rhywfaint o'r ffordd, o bosibl, tuag at roi'r atebion hynny i ni.
Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad, a nodaf y sylwadau gan arweinydd y tŷ yn ymateb ynglŷn â safbwynt y Llywodraeth ar hyn, ond mae'n gwrthddweud yn llwyr yr ateb a roddodd y Prif Weinidog i mi mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog ar 30 Ionawr, lle y dywedodd fod—ac mae gennyf y Cofnod yma o fy mlaen, ac rwyf wedi ei ddarllen tra buoch yn siarad. Mae'n dweud yn glir iawn mai'r unig reswm dros beidio â chyhoeddi oedd er mwyn cynnal cyfrinachedd y tystion. Ni chyfeiriodd at ymchwiliad Cwnsler y Frenhines, ni chyfeiriodd at beryglu ymchwiliadau pellach, ac felly dyna pam y mae'r cynnig yn sôn am olygiadau. Dyma'r eilwaith i'r neges newid o feinciau'r Llywodraeth ar yr ymchwiliad pwysig hwn. A ydych yn rhannu fy siom ynghylch y newid cyfeiriad y mae'r Llywodraeth wedi ei nodi yma eto heddiw?
Ydw, yn sicr, ac rydych yn gwneud y pwynt yn gywir, wrth gwrs, fod golygiadau yn cael gwared ar y broblem a nodwyd gan y Prif Weinidog ar y cychwyn.
Fe ddof i ben. Gobeithio y bydd y Cynulliad yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Rwyf am wneud pwynt pwysig—os cefnogir y cynnig heddiw, dylai'r Llywodraeth weithredu ar ewyllys y Cynulliad. Hoffwn eich atgoffa o sylw diweddar gan ffynhonnell yn Llywodraeth Cymru,
'Mae pleidleisiau diwrnod yr wrthblaid—mewn llawer o ffyrdd—yn ddiystyr. Nid ydynt yn rhwymol ac nid oes ganddynt unrhyw effaith ar bolisi na chyflawniadau'r Llywodraeth.'
Nid yw hyn yn dderbyniol ar unrhyw achlysur; yn sicr nid yw'n dderbyniol heddiw. Fel seneddwyr, gobeithio bod pawb ohonom eisiau'r esboniad cyhoeddus llawnaf posibl ynghylch y pethau sydd wedi digwydd. Gwyddom fod gwahanol ymchwiliadau eraill ar y gweill, gan gynnwys un y cynghorydd annibynnol i weld a dorrwyd cod y gweinidogion a'r ymchwiliad dan arweiniad Cwnsler y Frenhines. Nid yw'r ymchwiliadau hynny—nid yw'r cwestiynau hynny yn rhan o gylch gorchwyl y cynnig heddiw, ond rwy'n gobeithio y gellir sicrhau mwy o dryloywder, rywsut, mewn perthynas â phob un o'r digwyddiadau hynny.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.