8. Dadl Plaid Cymru: Darlledu

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 28 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 4:56, 28 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl heddiw. Rydym ni yn UKIP yn cytuno â llawer o bwyntiau Plaid Cymru heddiw. Gresynwn at y toriadau i gyllideb S4C a hefyd y toriadau i oriau darlledu ITV Wales—mae angen darpariaeth ddigonol ar ddarlledu yn yr iaith Saesneg a'r iaith Gymraeg yng Nghymru—ond nid ydym yn cytuno â Phlaid Cymru ar eu galwad am ddatganoli darlledu.

Rydym yn teimlo bod llawer o lwyddiannau wedi bod ym maes cynhyrchu ffilm a theledu yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf. Credaf mai dau o gynyrchiadau mwyaf llwyddiannus y BBC o ran marchnadoedd allforio ar hyn o bryd yw Doctor Who a Sherlock, ac mae'r ddwy gyfres yn cael eu creu yng Nghymru—credaf fod Doctor Who wedi'i chrybwyll yn gynharach yn y ddadl. Am resymau economaidd, rydym—