Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 28 Chwefror 2018.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma. Diolch i Siân Gwenllian am ei harweiniad doeth ar y cychwyn. Wrth gwrs, mae cynnig Plaid Cymru yn galw am ymchwilio i ymarferoldeb datganoli darlledu i Gymru. Rwy'n dweud hynny'n ddigon araf deg achos mae hynny'n gynnig weddol syml. Nid yw'r peth mwyaf radical erioed sydd wedi cael ei gynnig yn y lle yma. Dim ond ymchwilio i ymarferoldeb datganoli darlledu i Gymru.
Rwyf hefyd, fel Siân, yn llongyfarch Elfed Wyn Jones, a fu yma ar risiau'r Senedd ddoe, wedi ymprydio am wythnos i alw am ddatganoli darlledu. Mae o'n adlewyrchu galwadau cynyddol i hyn i ddigwydd. Dangosodd pleidlais Brexit mor ychydig mae pobl Cymru'n gwybod am faterion cyfoes eu gwlad eu hunain. Mae Cymru'n elwa o fod yn yr Undeb Ewropeaidd, yn derbyn mwy o arian i mewn i Gymru nag sydd yn mynd allan. Ond, prin oedd sôn am hynny yn ystod ymgyrch refferendwm Brexit, na'r ffaith chwaith fod 200,000 o swyddi yng Nghymru yn dibynnu ar ein haelodaeth o'r farchnad sengl. Newyddion o Lundain y mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru yn ei dderbyn. Rhaid chwilota efo cryn ymdrech weithiau i ffeindio unrhyw beth am Gymru, a manylion pwysig fel rwyf newydd grybwyll.
Mae papurau newydd Cymreig lleol yn crebachu, fel y mae papurau newydd ym mhob man. Nid oes sôn am Gymru ar wasanaeth radio BBC Radio 2, sef yr orsaf radio efo'r mwyaf o wrandawyr yma yng Nghymru. Nid oes sôn am Gymru. Bu sefydlu S4C yn hwb aruthrol, yn naturiol, nôl yn 1982. Hwb aruthrol i'n cenedl, i'n hunaniaeth, ac i'n diwylliant. Ond, mae angen llawer mwy. Mae Cymru yma i bawb, p'un ai ydyn nhw'n siarad Cymraeg ai peidio. Mae S4C yn fendigedig ond mae angen mwy i hyrwyddo hunan barch 3 miliwn o bobl a hyrwyddo datblygiad cenedl gyfan.
Achos ar faterion dyddiol, nid jest fel Brexit, ond fel y gwasanaeth iechyd, er enghraifft—fel mae Siân wedi'i ddweud—nid yw traean o bobl Cymru yn gwybod bod iechyd wedi'i ddatganoli i fan hyn ers bron 20 mlynedd. Rwy'n cofio yn ystod streic meddygon ysbytai yn Lloegr y llynedd roedd meddygon yn Ysbyty Treforys yn Abertawe hefyd yn credu eu bod nhw ar streic ac yn chwilio am y baricéd agosaf. Nawr, yn aml, rwy'n un i chwilio am faricedau, ond roedd hi'n amhriodol yn yr achos yma, achos nid oedd streic yn digwydd yng Nghymru, ond roedd nifer o bobl ddim yn sylweddoli hynny o gwbl. Mae nifer o esiamplau tebyg o gyhoeddiadau yn Llundain yn creu stori yma yng Nghymru er nad ydynt yn berthnasol i ni o gwbl, nid jest ym maes iechyd ond addysg a phob math o feysydd eraill sydd wedi'u datganoli. Dylai pobl fod yn gwybod amdanyn nhw drwy gael y newyddion yma yng Nghymru wedi'u darlledu yma o Gymru.
Felly, i gloi, mynnwn glywed y gwirionedd am ein gwlad. Mynnwn o leiaf ein bod ni'n ymchwilio i ymarferoldeb datganoli darlledu. Mae wedi digwydd mewn gwledydd eraill—yng Ngwlad y Basg, er enghraifft, mae'n digwydd ac yn llwyddiannus tu hwnt. Mae wedi digwydd efo S4C—mae angen datblygu hynny. Rŷm ni eisiau datganoli darlledu yn gyfan gwbl.
Mae yna hanes i'w adrodd efo'n cenedl. Rŷm ni'n dioddef—clywsom ni yn y ddadl yn gynharach—efo llywodraethiant y Deyrnas Unedig ac efo Brexit y diffyg parch sydd i'n cenedl a'r diffyg parch sydd i'n Llywodraeth yma yn yr holl drafodaethau. Rŷm ni eisiau adeiladu ar lwyddiant bodolaeth S4C mewn hinsawdd wleidyddol hynod fregus rŵan, lle mae goroesiad ein cenedl ei hun o dan fygythiad. Yn y pen draw, mynnwn ddatganoli darlledu. Diolch yn fawr.