8. Dadl Plaid Cymru: Darlledu

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 28 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:59, 28 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am dderbyn ymyriad. Credaf ein bod yn crwydro oddi ar y pwynt yma. [Chwerthin.] Nid wyf yn sicr fy mod yn cytuno gyda Dai am yr arwyddion dwyieithog yn Casualty chwaith, ac rwy'n falch iawn fod gennym sector darlledu cryf o ran ei botensial economaidd, ond beth am y potensial i gryfhau'r ffordd y siaradwn amdanom ein hunain fel cenedl a chynhyrchu drwy ddarlledu y ddadl honno ar ein dyfodol fel cenedl?