Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 6 Mawrth 2018.
Diolch. A gaf i ddechrau, os gallaf, drwy roi diolch i'r gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio mor galed yn ystod y tywydd garw, y rheini, wrth gwrs, sydd wedi helpu i gael staff y gwasanaeth iechyd i'w gwaith, a hefyd, wrth gwrs, y rheini sydd wedi gweithio mor galed er mwyn sicrhau bod yna lai o bwysau ar y gwasanaeth iechyd, llywodraeth leol ac, wrth gwrs, y gwasanaethau argyfwng?
Rydym ni'n darparu cyllid llawn o £27 miliwn i’r awdurdodau lleol i’w galluogi i ddiwallu anghenion gofal a chymorth y rhai sy’n cael taliadau ar hyn o bryd oddi wrth grant byw’n annibynnol Cymru.