1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Mawrth 2018.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i hawlwyr grant byw'n annibynol Cymru yn dilyn dirwyn y grant i ben? OAQ51831
Diolch. A gaf i ddechrau, os gallaf, drwy roi diolch i'r gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio mor galed yn ystod y tywydd garw, y rheini, wrth gwrs, sydd wedi helpu i gael staff y gwasanaeth iechyd i'w gwaith, a hefyd, wrth gwrs, y rheini sydd wedi gweithio mor galed er mwyn sicrhau bod yna lai o bwysau ar y gwasanaeth iechyd, llywodraeth leol ac, wrth gwrs, y gwasanaethau argyfwng?
Rydym ni'n darparu cyllid llawn o £27 miliwn i’r awdurdodau lleol i’w galluogi i ddiwallu anghenion gofal a chymorth y rhai sy’n cael taliadau ar hyn o bryd oddi wrth grant byw’n annibynnol Cymru.
Mae pobl ag anableddau ac sy'n derbyn y grant byw'n annibynnol yn dweud wrthyf i mai eu pryder nhw yw colli'r elfen yna o annibyniaeth y mae'r grant yn ei roi iddyn nhw ar lefel bersonol. Maen nhw'n gwerthfawrogi'r annibyniaeth yn fwy nag unrhyw beth arall. Felly, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y byddan nhw'n parhau i fwynhau yr un annibyniaeth pan fydd eich Llywodraeth chi yn dirwyn y grant yna i ben?
Rydym ni wedi bod yn monitro beth mae'r awdurdodau lleol yn ei wneud, a bydd hynny'n parhau yn ystod y sefyllfa sydd gyda ni ar hyn o bryd, sef y cyfnod newid. O ddechrau'r cyfnod hwnnw ym mis Ebrill y llynedd i ddiwedd y cyfnod hwnnw, bydd beth mae awdurdodau lleol yn eu wneud yn cael ei fonitro. Rydym ni'n gwybod, wrth gwrs, fod unigolion wedi cael eu hasesu hefyd yn ystod yr amser hynny. Rwy'n gwybod hefyd fod y Gweinidog yn gwybod bod eisiau monitro beth yw profiad unigolion ynglŷn â'r broses ar hyn o bryd, ac mae'r Gweinidog yn ystyried pa fath o ffordd ymlaen a ddylai ddigwydd nawr er mwyn sicrhau bod yna fwy o sicrwydd i'r rheini sydd yn derbyn y grant.
Diolch am yr eglurhad rhannol yna. Diben y gronfa byw'n annibynnol, cyn datganoli, oedd rhoi dewis a rheolaeth i unigolion dros sut yr oeddent yn gwario eu harian, eu cronfa, i fyw'n annibynnol. Ar y cychwyn, dyna sut yr oedd grant byw'n annibynnol Cymru yn gweithio, ond, yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon sydd wedi datblygu eu modelau mewn partneriaeth â'r trydydd sector, rydych chi'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyfarfod â phobl sy'n cael y grant i gytuno ar y cymorth sydd ei angen arnynt i wneud hyn. Mae ymgyrch Achub Grant Byw'n Annibynnol Cymru yn dweud bod byw'n annibynnol yn fater o hawliau a bod cau grant byw'n annibynnol Cymru yn bradychu pobl anabl, eu teuluoedd, eu ffrindiau, aelodau staff a'r gymuned gan ei fod yn cymryd eu llais, eu dewis, eu rheolaeth a'u hannibyniaeth oddi arnynt. Gwn fod arweinydd yr ymgyrch wedi cyfarfod â Huw Irranca-Davies ym mis Ionawr, a dywedodd arweinydd yr ymgyrch honno wedyn ei bod yn debygol mai hwn oedd cyfarfod pwysicaf ei fywyd. Dyna pa mor bwysig yw hyn. A wnewch chi, ar y pwynt terfynol hwn, wrando ar y gymuned hon os gwelwch yn dda, a chydnabod bod annibyniaeth yn golygu rhoi dewis a rheolaeth iddyn nhw, ac nid gorfod cytuno ar sut y dylen nhw wario eu harian gydag arbenigwyr â bwriadau da yn neuadd y sir pan mai nhw yw'r arbenigwyr gwirioneddol yn eu bywydau eu hunain?
O ran sut y daethom ni i'r sefyllfa bresennol, roedd grŵp cynghori, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, a argymhellodd ddarparu cymorth yn y dyfodol trwy wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Nawr, yr egwyddor y tu ôl i hynny oedd sicrhau bod yr holl bobl anabl yng Nghymru yn cael eu cynorthwyo i fyw yn yr un ffordd, ac i sicrhau bod y cyllid cyfyngedig—a drosglwyddwyd gan Lywodraeth y DU, gadewch i ni gofio—yn cael ei ddefnyddio'n uniongyrchol at y diben hwnnw ac nid ar gostau gweithredu trefniadau ar wahân ar gyfer rhai pobl anabl yn unig. Rydym ni wedi gwneud yn siŵr yng Nghymru bod pob ceiniog o'r arian hwnnw wedi mynd i dderbynwyr. Ni fu hynny'n wir mewn mannau eraill yn y DU.
Prif Weinidog, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi sydd hefyd yn bryderus am y ffordd y bydd y grant yn gweithio yn y dyfodol. Nid yw fy etholwyr yn hidio ynghylch o ble daw'r cyllid hwn, pa un a yw hynny gan Lywodraeth Cymru neu awdurdodau lleol. Y cwbl sydd o bwys iddyn nhw yw eu bod yn cael yr un lefel o gymorth. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i fonitro'r system newydd hon i sicrhau bod awdurdodau lleol yn parhau i ddarparu'r lefel honno o gymorth?
Wel, mae'r gwaith monitro hwnnw'n parhau. Rydym ni'n gwybod bod awdurdodau lleol wedi adolygu, neu wrthi'n adolygu anghenion cymorth ychydig dros 350 o gyn-dderbynwyr y gronfa byw'n annibynnol yng Nghymru yn y dyfodol. O'r rhain, roedd ychydig dros 30 eisoes wedi cytuno ac yn derbyn eu cymorth yn y dyfodol naill ai'n uniongyrchol gan yr awdurdod neu drwy dderbyn taliadau uniongyrchol er mwyn cael gafael ar eu cymorth eu hunain. Nawr, mae angen, wrth gwrs, parhau gyda'r trefniadau monitro, fel y soniais yn gynharach. Rydym ni eisiau monitro profiad derbynwyr o'r broses, a dyna'r hyn y mae'r Gweinidog yn ei ystyried ar hyn o bryd o ran sut y gellid bwrw ymlaen â hynny.
Prif Weinidog, mae'n ymddangos bod llawer o awdurdodau lleol yn cael anhawster o ran bodloni eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Er enghraifft, mae llawer o ofalwyr ledled y wlad nad ydyn nhw wedi cael asesiadau gofalwyr. Mae diwedd y grant byw'n annibynnol yn rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Prif Weinidog, a allwch chi sicrhau y bydd y rheini sy'n cael y grant byw'n annibynnol yn derbyn cymorth sydd yr un fath neu'n well na'r cymorth y maen nhw'n ei gael ar hyn o bryd pan mai awdurdodau lleol fydd yn darparu'r cymorth hwnnw?
Wel, mae'r arian wedi ei drosglwyddo i awdurdodau lleol. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod lefel y gofal yn parhau i fod cystal ag y mae wedi bod yn y gorffennol o leiaf. Ac atgoffaf yr Aelod, wrth gwrs, fod y swm yr ydym ni'n ei wario ar wasanaethau cymdeithasol fesul pen yng Nghymru yn sylweddol uwch nag yn Lloegr.