Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 6 Mawrth 2018.
Rydym ni wedi bod yn monitro beth mae'r awdurdodau lleol yn ei wneud, a bydd hynny'n parhau yn ystod y sefyllfa sydd gyda ni ar hyn o bryd, sef y cyfnod newid. O ddechrau'r cyfnod hwnnw ym mis Ebrill y llynedd i ddiwedd y cyfnod hwnnw, bydd beth mae awdurdodau lleol yn eu wneud yn cael ei fonitro. Rydym ni'n gwybod, wrth gwrs, fod unigolion wedi cael eu hasesu hefyd yn ystod yr amser hynny. Rwy'n gwybod hefyd fod y Gweinidog yn gwybod bod eisiau monitro beth yw profiad unigolion ynglŷn â'r broses ar hyn o bryd, ac mae'r Gweinidog yn ystyried pa fath o ffordd ymlaen a ddylai ddigwydd nawr er mwyn sicrhau bod yna fwy o sicrwydd i'r rheini sydd yn derbyn y grant.