Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 6 Mawrth 2018.
Mae'n bwysig i ni aros i weld beth mae'r ffigurau hynny yn ei ddangos mewn gwirionedd, ac yna, ar sail yr hyn a welwn, gweld pa gamau sydd angen eu cymryd. O ran iechyd meddwl yng Nghymru, rydym ni wedi gweld y ddarpariaeth i blant a phobl ifanc yn gwella'n sylweddol gyda'r arian ychwanegol—£8 miliwn, os cofiaf—a aeth i mewn i'r gwasanaethau hynny, ac, wrth gwrs, yr hyn sy'n cael ei wneud mewn ysgolion i gynorthwyo pobl ifanc hefyd. Mae hi'n sôn am y ffigurau nad ydynt wedi eu cyhoeddi eto. Rwy'n credu ei bod yn bwysig aros tan i'r ffigurau hynny gael eu cyhoeddi ac yna gwneud asesiad o beth arall sydd angen ei wneud i ostwng y ffigur—y rheini sy'n destun gorchmynion adran 136 ac, wrth gwrs, y rheini sydd, yn drasig, yn lladd eu hunain.