1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 6 Mawrth 2018.
Trown nawr at arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog, ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, sydd gyntaf heddiw.
Diolch yn fawr iawn. Prif Weinidog, mae'r cyfryngau wedi adrodd heddiw fod o leiaf 271 o gleifion iechyd meddwl agored iawn i niwed wedi marw dros y chwe blynedd diwethaf yn dilyn methiannau yng ngofal y GIG, a bod 136 o gyrff y GIG wedi cael rhybuddion cyfreithiol gan grwneriaid. Fel sy'n aml yn wir, mae'r adroddiad yn cyfeirio at gleifion yng Nghymru a Lloegr. A allwch chi ddweud wrthym pa un a oes unrhyw gorff GIG yng Nghymru wedi bod yn destun rhybudd cyfreithiol gan grwneriaid ynghylch marwolaeth claf iechyd meddwl?
Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw un, ond byddaf yn ysgrifennu at arweinydd Plaid Cymru gyda mwy o wybodaeth am hynny.
Iawn, diolch am hynny.
Bu llawer o alwadau am ymchwiliad i'r marwolaethau hyn, gan gynnwys galwadau gan eich plaid eich hun. Nawr, rydym ni'n gwybod y bu methiannau ym maes gofal iechyd meddwl yng Nghymru. Rydym ni i gyd yn gallu cofio sgandal Tawel Fan. Felly, nid wyf yn credu bod unrhyw le i laesu dwylo o ran y cwestiwn hwn. Mae cyfraddau hunanladdiad yn uwch yng Nghymru nag y maen nhw yn yr Alban a Lloegr, ac eto rydym ni hefyd yn gwybod bod lleiafrif o bobl sy'n colli eu bywydau wedi bod mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y flwyddyn cyn eu marwolaeth. Mae hyn yn awgrymu nad yw anghenion iechyd meddwl pawb, ond pobl ifanc yn enwedig o bosibl, yn cael eu diwallu. A all ein gwasanaethau cyhoeddus fod yn fwy rhagweithiol o ran nodi a chynorthwyo pobl sy'n dioddef argyfyngau iechyd meddwl i gael cymorth yn gynharach, ac a oes gennych chi broblem mynediad gyda'ch gwasanaethau iechyd meddwl?
Rwy'n credu bod problemau gyda rhannau penodol o'r boblogaeth nad ydynt yn cael gafael ar wasanaethau, sydd ddim eisiau neu ddim yn cydnabod y gallai fod ganddyn nhw symptomau sy'n awgrymu cyflwr iechyd meddwl negyddol. Wrth gwrs, drwy'r ysgolion, mae gennym ni system gymorth erbyn hyn sy'n helpu pobl ifanc, a byddem yn annog meddygon teulu, gan eu bod nhw'n siarad â phobl sy'n dod i'w gweld gydag anhwylderau corfforol efallai, i geisio canfod pa un a oes rhywbeth dyfnach sy'n effeithio ar gyflwr iechyd cyffredinol rhywun.
Rwy'n credu y gallwch chi wneud llawer mwy na hynny, Prif Weinidog. Rydym ni'n gwybod bod 10 mlynedd ar gyfartaledd yn mynd heibio rhwng yr adeg y bydd plant a phobl ifanc ag anawsterau iechyd meddwl yn mynd yn sâl gyntaf a'r adeg y byddant yn cael cymorth. A bydd gan lawer ohonom ni yma yn yr ystafell hon, rwy'n siŵr, waith achos cleifion sydd wedi gorfod brwydro i gael unrhyw gymorth o gwbl.
Nawr, mae gen i reswm i gredu y bydd nifer y bobl a gedwir gan yr heddlu o dan adran 136 i sicrhau eu diogelwch eu hunain, a fydd yn cael ei gyhoeddi'n fuan, wedi cynyddu'n aruthrol. Fe'm hysbyswyd hefyd, gan nad ystyrir bod rhai cleifion mewn perygl uniongyrchol, er iddynt gael eu cadw o dan y gyfraith, y gallant fod yn aros diwrnodau am gael eu trosglwyddo. Mae capasiti'r gwasanaeth yn amlwg yn annigonol i ymdrin ag argyfwng, ac mae'n rhaid i leihau'r defnydd o adran 136 fod yn flaenoriaeth i'ch Llywodraeth chi erbyn hyn.
Byddaf yn dychwelyd at y mater hwn pan fydd y ffigurau hynny'n cael eu cyhoeddi, ond oni fyddech chi'n cytuno â mi nawr ei bod hi'n amser da i gael ymchwiliad ehangach i'n system iechyd meddwl brys i nodi'r methiannau hyn? Onid yw'n amser rhoi'r gorau i esgus bod popeth yn iawn, pan fod y ffigurau hyn yn dangos yn eglur nad yw popeth yn iawn?
Mae'n bwysig i ni aros i weld beth mae'r ffigurau hynny yn ei ddangos mewn gwirionedd, ac yna, ar sail yr hyn a welwn, gweld pa gamau sydd angen eu cymryd. O ran iechyd meddwl yng Nghymru, rydym ni wedi gweld y ddarpariaeth i blant a phobl ifanc yn gwella'n sylweddol gyda'r arian ychwanegol—£8 miliwn, os cofiaf—a aeth i mewn i'r gwasanaethau hynny, ac, wrth gwrs, yr hyn sy'n cael ei wneud mewn ysgolion i gynorthwyo pobl ifanc hefyd. Mae hi'n sôn am y ffigurau nad ydynt wedi eu cyhoeddi eto. Rwy'n credu ei bod yn bwysig aros tan i'r ffigurau hynny gael eu cyhoeddi ac yna gwneud asesiad o beth arall sydd angen ei wneud i ostwng y ffigur—y rheini sy'n destun gorchmynion adran 136 ac, wrth gwrs, y rheini sydd, yn drasig, yn lladd eu hunain.
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, ymunaf â chi yn eich sylwadau yn gynharach, wrth ateb cwestiwn 1, ar ymdrechion arwrol y gwasanaethau brys a phawb yn ystod y tywydd gaeafol a gawsom ddydd Iau diwethaf. Bu rhai hanesion arwrol, ond rhai calonogol hefyd. Ond hefyd, hanfod hyn yw'r ffaith mai'r hyn y mae awdurdodau lleol, byrddau iechyd a chyrff cyhoeddus eraill yn ei wynebu ar ôl cwblhau'r gwaith glanhau yw bil ariannol braidd yn fawr a fydd yn cyrraedd adrannau trysoryddion ar hyd a lled awdurdodau lleol ledled Cymru. Pa drafodaethau, os o gwbl, ar yr adeg gynnar iawn hon, mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda chyrff sector cyhoeddus—byrddau iechyd ac awdurdodau lleol—i'w helpu i dalu'r bil ariannol hwn, nad oeddent yn ei ddisgwyl mor hwyr â hyn yn y gaeaf?
Cafwyd trafodaethau gydag awdurdodau lleol. Ar hyn o bryd, rydym ni wedi gofyn i awdurdodau lleol roi syniad o beth allai'r pwysau ychwanegol fod fel y gallwn ddeall y sefyllfa yn well.
Rwy'n deall felly y bydd cymorth gan Lywodraeth Cymru yn cael ei roi i awdurdodau lleol, Prif Weinidog, yn enwedig rhai o'r rheini yma yn y de, y mae'n ymddangos y disgynnodd y rhan fwyaf o'r eira arnynt.
Ond hoffwn ofyn cwestiwn i chi am y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, yr edrychodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus arno ddoe ac y mae'r archwilydd cyffredinol wedi amlygu ei fod yn werth arbennig o wael am arian am y bunt Gymreig. Pan gafodd ei gyflwyno gyntaf, dywedodd Ysgrifennydd cyllid Llywodraeth Cymru ar y pryd bod hwn yn mynd i fod yn fodel cydweithredol i gyflawni arbedion o ran caffael cyhoeddus—mae gwerth £4 biliwn o gaffael cyhoeddus yn digwydd yma yng Nghymru. Bwriad y swm cychwynnol a ddyrannwyd oedd ceisio arbed arian—gwerth tua £1 biliwn o gaffael cyhoeddus ar gostau trydan a chostau eraill a delir. Ystyriwyd ei bod yn ffordd Gymreig iawn o ddiwallu anghenion busnes Cymru ond hefyd gwerth am arian am y bunt Gymreig.
Wel, mae'n ymddangos ei fod wedi methu ei dargedau ar bob agwedd bron. Beth ydych chi'n ei wneud, Prif Weinidog, fel Llywodraeth, i naill ai wneud i'r system hon weithio'n well neu ei diwygio'n llwyr fel y gallwn ni gael gwell gwerth am y bunt Gymreig?
Yn gyntaf oll, mae'n rhaid dweud nad yw'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi colli arian. Nid yw wedi cyrraedd y pwynt eto lle y gall dalu amdano ei hun o gyfraniadau ardoll, ond mae'r gwasanaeth ar y trywydd iawn i sicrhau'r gwasanaethau prynu cyhoeddus a ragwelwyd, ac mae hynny oddeutu £40 miliwn hyd yma. Mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn eiddo i'r 73 o aelodau ar draws y gwasanaeth cyhoeddus mewn gwirionedd. Caiff ei lywodraethu gan fwrdd dan gadeiryddiaeth annibynnol, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o blith yr aelodaeth. Rydym ni wedi cynnal y gwasanaeth ac wedi ei gynorthwyo'n ariannol, ond nid ydym ni'n berchen ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar ein pennau ein hunain.
Gallaf ddweud bod y nifer sy'n manteisio ar fframweithiau'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi cynyddu'n gyson ers iddo ddod yn gwbl weithredol yn 2015, ac mae'n dal i gynyddu. £234 miliwn oedd y ffigur dangosol ar gyfer gwariant yn 2016, cynnydd o dros 50 y cant o'r flwyddyn flaenorol, ac mae hynny'n golygu arbedion dangosol o £14.8 miliwn. Felly, rydym ni'n gwybod bod y gwasanaeth yn tyfu. Ni fyddai'n wir dweud ei fod wedi colli arian, ond nid yw mewn sefyllfa eto lle mae ei gyfraniadau ardoll yn talu ei gostau.
Prif Weinidog, nid yw'n gallu talu'r cyfalaf cychwynnol o £6 miliwn a roesoch chi ar gael iddo, na'i gostau rhedeg blynyddol o £2.5 miliwn. Yn ei flwyddyn gyntaf, llwyddodd i ddenu dim ond £330,000 o arian ardoll, fel yr ydych chi'n ei ddweud. Mae wedi methu bron bob targed a bennwyd ar ei gyfer yn ei flwyddyn gyntaf—mae ym mlwyddyn 3 erbyn hyn. Ar sail unrhyw fesuriad, mae'r hyn a allasai fod wedi bod yn Wasanaeth Caffael Cenedlaethol cyffrous, ac yn cynnig gwerth gwirioneddol yn ôl i'r trethdalwr, wedi methu â chyrraedd ei nodau. Os edrychwch chi ar gaffael Llywodraeth Cymru, dim ond 32 y cant o'i gaffael ei hun sy'n lleol yma yng Nghymru. Yn eich dogfen 'Ffyniant i Bawb', rydych chi'n trafod ad-dalu mwy i gymunedau ar hyd a lled Cymru. Wel, gan ddefnyddio'r gwasanaeth caffael, rydych chi wedi methu yn ystod ei dair blynedd cyntaf. Sut ydych chi'n mynd i gyflawni'r fenter polisi sydd yn eich dogfen 'Ffyniant i Bawb' mewn gwirionedd gan, yn amlwg, ddarparu'r bunt Gymreig honno yn ôl i fusnesau?
Rydym ni'n ffyddiog bod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar y trywydd iawn. Yr hyn y mae angen i'r gwasanaeth ei ystyried yw pa un a ddylid cynyddu'r cyfraniad er mwyn darparu mwy o refeniw i'w hun i dalu'r costau hynny yn y dyfodol. Ond rydym ni'n ffyddiog ei fod ar y trywydd iawn i gyrraedd ei darged ac, fel y dywedais, rydym ni'n credu y byddwn yn bodloni'r arbedion prynu cyhoeddus a ragwelwyd yn rhan o'r targed hwnnw. Yr hyn yr ydym ni yn ei wybod yw bod tua £40 miliwn wedi cael ei arbed hyd yma drwy'r gwasanaeth caffael.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r holl Aelodau, rwy'n siŵr, yn falch, er i wahanol raddau, o weld y Prif Weinidog yn dychwelyd yn ddiogel o Unol Daleithiau America. Darllenais y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd y bore yma gan Lywodraeth Cymru ar yr hyn a wnaeth ar ei daith yno, a chefais fy synnu braidd o weld nad oedd unrhyw sôn am unrhyw gyfarfodydd ag aelodau gweinyddiaeth Llywodraeth yr Unol Daleithiau. Ac ar yr union ddiwrnod y cyhoeddodd yr Arlywydd Trump ei fod yn bwriadu cyflwyno tariffau ar ddur o bob rhan o'r byd, roedd y Prif Weinidog yn cyfarfod y sawl a gollodd i'r Arlywydd Trump yn yr etholiad arlywyddol, Hillary Clinton. Oni ddylai fod gan y Prif Weinidog fwy o ddiddordeb mewn chwarae gwleidyddiaeth bŵer na gwleidyddiaeth analluedd?
Nid wyf i'n siŵr a yw arweinydd UKIP yn credu y dylwn i fod wedi torri drws y Tŷ Gwyn i lawr er mwyn mynnu cyfarfod gydag Arlywydd yr Unol Daleithiau. Nid yw'n gweithio felly, gallaf ei sicrhau. Ond, wrth gwrs, mae mater y tariffau ar ddur yn rhoi twll mawr iawn yn ei safbwynt o'r byd, byd ar ôl Brexit, oherwydd fe'n hysbyswyd ganddo ef a chan eraill bod y ffordd yn agored bellach i ni ddod i gytundeb, cytundeb masnach rydd, gyda'r Unol Daleithiau, ac eto un o'r pethau cyntaf y mae'r Unol Daleithiau wedi ei wneud yw cyflwyno tariffau ar ddur yr ydym ni'n ei allforio i'r Unol Daleithiau. Nid yw'n gam cyfeillgar iawn, yw e'?
Mae'r Prif Weinidog yn gwybod nad yw pryder yr Unol Daleithiau am allforion dur i'r Unol Daleithiau yn ymwneud â Phrydain, oherwydd bu gostyngiad o 11 y cant i gyfanswm a gwerth dur sy'n cael ei allforio o'r DU i'r Unol Daleithiau yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Mae'r ddadl gyda gwledydd fel Tsieina, sy'n cynhyrchu hanner dur y byd a lle ceir capasiti dros ben enfawr sy'n cyfateb i'r holl ddefnydd o ddur yn yr Unol Daleithiau mewn blwyddyn, a gwledydd fel Fiet-nam a Chanada, sy'n allforio 10 gwaith gymaint o ddur i'r Unol Daleithiau ag yr ydym ni. Mae'r Arlywydd yn poeni am effaith cytundeb masnach rydd Gogledd America gyda Chanada a Mecsico. Rydym ni'n digwydd bod wedi ein dal yng nghysgod hyn i gyd. Mae ymateb yr Undeb Ewropeaidd i gyhoeddiad yr Arlywydd yn debygol o fod yn drychinebus tra ein bod ni yn yr undeb tollau, gan fod y Comisiwn Ewropeaidd yn dweud nawr ei fod eisiau dial trwy gyflwyno tariffau ar geir, efallai, a nwyddau eraill a weithgynhyrchir, a allai gael effaith enfawr ar swyddi gweithwyr Prydain a swyddi gweithwyr yng Nghymru mewn sawl rhan o'r wlad. Pe byddai gennym ni bolisi masnach annibynnol y tu allan i undeb tollau yr UE, efallai y byddem ni'n gallu cytuno ein cytundebau ein hunain gyda gwledydd eraill, yn enwedig yr Unol Daleithiau, sef ein partner masnachu unigol mwyaf heblaw am 27 gwlad yr UE.
Gadewch i mi geisio ei addysgu. Yn gyntaf oll, mae busnesau'r Unol Daleithiau eisiau gweld masnach rydd. Mae cymaint â hynny'n wir. Nid yw Llywodraeth yr Unol Daleithiau eisiau gweld hynny. Dyw hi ddim. Mae'r tariffau dur hyn yn cael eu gosod ar bob gwlad. Efallai ei fod yn iawn wrth ddweud mai Tsieina a gwledydd eraill yw'r prif darged, ond mae hwn yn erfyn di-awch sy'n cael ei ddefnyddio yn erbyn pawb. Does neb wedi dweud yng ngweinyddiaeth yr Unol Daleithiau y bydd y DU wedi ei heithrio mewn rhyw ffordd, neu y bydd yr UE wedi ei eithrio mewn rhyw ffordd. Mae hwn yn dariff yn erbyn pawb. Mae wedyn yn beirniadu'r Undeb Ewropeaidd am awgrymu y bydd dial. Beth mae e'n ei ddisgwyl? A yw e'n dweud pe na byddai'r DU yn yr UE, na fyddai unrhyw gamau gan Lywodraeth y DU? Oherwydd os mai diffiniad o analluedd y mae ef ei eisiau, mae ef newydd ei roi.
Y cwestiwn yw a ddylem ni geisio datrys y problemau hyn trwy ddiplomyddiaeth a siarad synhwyrol a phartïon eraill, neu gymryd rhan yn y math o gwerylgarwch megaffon a glywyd o Frwsel yn y dyddiau diwethaf. Mae materion difrifol iawn yn y fantol yn y fan yma. Mae gwledydd eraill fel yr Almaen a Sbaen yn allforio llawer mwy o ddur i'r Unol Daleithiau nag y mae Prydain. Felly, nid Prydain yw achos y problemau a'r pryderon presennol yn yr Unol Daleithiau. Er ei bod hi'n wir bod y cyhoeddiad a wnaed hyd yma ar sail y ffaith y bydd y tariff hwn yn berthnasol yn gyffredinol ledled y byd, nid yw manylion yr hyn a gynigir wedi eu cyhoeddi eto, wrth gwrs, ac mae'r rheini i'w trafod. Mae ysgrifennydd masnach yr Unol Daleithiau wedi dweud hynny.
Felly, trof yn ôl at y cwestiwn cyntaf a ofynnais i'r Prif Weinidog: onid yw'n credu byddai wedi bod yn synhwyrol agor rhai sianelau cyfathrebu, hyd yn oed os nad oedd ar lefel Arlywydd yr Unol Daleithiau ei hun, sy'n sicr o blaid Prydain—mae'n amlwg o'r pethau y mae wedi eu dweud yn ystod y cyfnod y mae wedi bod yn y swydd—[Torri ar draws.] Wel, gall yr Aelodau chwerthin, ond mae'r Unol Daleithiau yn ddylanwad aruthrol o bwysig ar yr economi yn fyd-eang, ac yn enwedig ar swyddi a bywoliaeth pobl yn y wlad hon. Does bosib na ddylem ni fod eisiau cyd-dynnu cystal ag y gallwn gydag arweinydd y byd rhydd a chydag un o'n partneriaid masnachu pwysicaf.
Wel, mae'n sôn am gwerylgarwch megaffon heb unrhyw synnwyr o eironi ac yn rho'r bai ar Frwsel am hynny. Mae'n rhaid imi ddweud, y realiti yw bod Llywodraeth bresennol yr Unol Daleithiau—nid wyf yn credu bod hon yn farn a rennir gan fusnesau'r Unol Daleithiau o gwbl, na'r rheini sy'n buddsoddi yng Nghymru—eisiau cyflwyno tariffau o 24 y cant ar ddur o'r DU. Rwy'n cytuno ag ef; nid y DU yw'r prif darged ar gyfer y tariffau hyn, ond mae'n rhan ohonynt beth bynnag. Nawr, mae Prif Weinidog y DU ei hun wedi siarad â'r Arlywydd, heb unrhyw effaith o gwbl, o ran dileu'r tariffau hyn. Nawr, a yw ef wir yn dweud os bydd yr Unol Daleithiau yn cyflwyno tariffau ar nwyddau sy'n dod i mewn i'r Unol Daleithiau, na ddylai'r DU a'r UE wneud dim byd o gwbl mewn ymateb? Mae gen i ofn nad dyna'r ffordd y mae'r byd yn gweithio.
Byddai'n well gen i weld sefyllfa lle mae gan yr Unol Daleithiau fasnach fwy rhydd gyda'r UE a, thrwy ddiffiniad, y DU, ond efallai nad yw wedi sylwi bod gan yr Unol Daleithiau y Llywodraeth fwyaf ddiffyndollol y bu ganddynt ers degawdau lawer iawn. Nid oes ganddi ddiddordeb mewn cytundebau masnach rydd nad ydynt yn gyfan gwbl o fudd i'r Unol Daleithiau. Pan oeddwn i yn yr Unol Daleithiau, un o'r themâu a ddaeth i'r amlwg oedd bod y trafodaethau NAFTA wedi eu seilio ar yr Unol Daleithiau yn mynnu popeth i'w hun a dim hyblygrwydd cyn belled ag y mae Canada a Mecsico yn y cwestiwn. Ni allwch fod yn Llywodraeth ddiffyndollol ar y naill law ac yna dweud eich bod chi eisiau cael masnach rydd ar y llall. Rwy'n gresynu'n fawr y cyhoeddiad a wnaed gan Arlywydd yr Unol Daleithiau o ran tariffau dur. Efallai y bydd yn cael effaith ar ddiwydiant dur Cymru, ond eistedd yn ôl a gwneud dim yw'r ymateb mwyaf analluog y gellir ei ddychmygu.
Diolch. Symudwn yn ôl at gwestiynau ar y papur trefn nawr. Cwestiwn 3, Mark Reckless.