Oed Pleidleisio

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 6 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:36, 6 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Ceir dadleuon cryf dros ostwng yr oedran pleidleisio i 16, ond a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod cysondeb yn elfen bwysig yn y gyfraith hefyd, ac os yw rhywun yn ddigon aeddfed i allu cymryd rhan mewn dewis Llywodraeth y wlad yn 16 oed, y dylai gael gyrru car yn gyfreithlon, penderfynu drosto ei hun a ddylai gael tatŵ neu dwll yn ei gorff, y dylai gael prynu alcohol yn gyfreithlon, ni ddylai fod yn ddarostyngedig i unrhyw reolau ar sensoriaeth ffilmiau, ac yn y blaen? Os nad ydym ni'n mynd i gael unrhyw gysondeb ar draws ystod gyfan y gyfraith, pa gyfiawnhad posibl a allai fod?