1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Mawrth 2018.
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran gostwng yr oed pleidleisio ar gyfer etholiadau yng Nghymru? OAQ51871
Wel, cynhaliwyd ymgynghoriad gennym ar ostwng yr oedran pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yn ddiweddar. Bydd y newid hwnnw'n cael ei gyflwyno ar gyfer yr etholiadau nesaf, ac yn cael ei roi ar waith drwy'r Bil llywodraeth leol yn yr hydref. A gwn fod y Llywydd yn ymgynghori ar wahân o ran etholiadau'r Cynulliad.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Ceir dadleuon cryf dros ostwng yr oedran pleidleisio i 16, ond a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod cysondeb yn elfen bwysig yn y gyfraith hefyd, ac os yw rhywun yn ddigon aeddfed i allu cymryd rhan mewn dewis Llywodraeth y wlad yn 16 oed, y dylai gael gyrru car yn gyfreithlon, penderfynu drosto ei hun a ddylai gael tatŵ neu dwll yn ei gorff, y dylai gael prynu alcohol yn gyfreithlon, ni ddylai fod yn ddarostyngedig i unrhyw reolau ar sensoriaeth ffilmiau, ac yn y blaen? Os nad ydym ni'n mynd i gael unrhyw gysondeb ar draws ystod gyfan y gyfraith, pa gyfiawnhad posibl a allai fod?
Wel, nid oes unrhyw gysondeb yn hynny o beth nawr. Rwy'n credu bod y gallu gan bobl 16 oed i bleidleisio yn sicr. Maen nhw'n cael, er enghraifft, rhoi eu caniatâd ar gyfer triniaethau meddygol. Pam felly na ddylen nhw gael gwneud eu penderfyniadau eu hunain, ynghylch pwy i bleidleisio drosto? Ni chânt yrru tan eu bod yn 17 oed, ni chânt yfed alcohol tan eu bod yn 18 oed, ni chânt fod yn yrrwr cymwys tan eu bod yn 21 oed, ni chânt reidio unrhyw feic modur o unrhyw faint injan tan eu bod yn 24 oed. Ceir anghysondebau, wrth gwrs, ond, serch hynny, yn fy marn i, mae 16 yn oedran priodol, a dangosodd yr Albanwyr hyn yn eu refferendwm, pan gafodd pobl ifanc bleidleisio ynddo.
Prif Weinidog, efallai eich bod chi wedi sylwi, yn yr Alban, yn y refferendwm ar annibyniaeth i'r Alban, bod 75 y cant o bobl 16 a 17 oed wedi pleidleisio. Mae hynny'n cymharu â 54 y cant ar gyfer y grŵp oedran yn uniongyrchol ar ôl hynny—18 i 24—ac roedd gwahaniaeth tebyg iawn yn bodoli yn etholiadau lleol yr Alban yn 2017. A ydych chi'n cytuno â mi fod greddfu arfer o bleidleisio yn gynnar yn cynnig budd mawr i gymdeithas ac yn caniatáu i ni ganolbwyntio ar gyfrifoldebau dinasyddiaeth, ond hefyd ein gallu i ddylanwadu ar yr hyn sy'n digwydd o'n cwmpas yn y byd yr ydym ni'n byw ynddo?
Yn sicr. 'Pleidleisiwch yn gynnar, pleidleisiwch yn aml' oedd y slogan yng Ngogledd Iwerddon flynyddoedd lawer yn ôl. Mae angen i ni adael yr ail ran ohono allan, rwy'n amau. Ond mae'r ffigurau yn siarad drostynt eu hunain. Mae'r ffaith fod pobl 16 i 18 oed wedi pleidleisio ar gyfradd uwch o lawer na'r rheini yn y grŵp oedran uniongyrchol nesaf yn dangos pa mor frwdfrydig ydyn nhw, faint o gysylltiad sydd ganddyn nhw â'r broses wleidyddol, a pha mor bwysig yw hi bod y synnwyr hwnnw o gysylltiad yn parhau wrth iddynt fynd yn hŷn.
Mae Plaid Cymru yn cefnogi estyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 yn sicr, ond rydym ni'n moyn cael pobl i bleidleisio mewn niferoedd mwy o bob oedran, wrth gwrs. Mae'n rhaid rhoi rheswm da iddyn nhw i bleidleisio ac allwch chi ddim jest disgwyl i bobl bleidleisio oherwydd eich bod chi wedi rhoi'r hawl iddyn nhw. Felly, yn eich cynigion ar gyfer gwella pleidleisio ar gyfer awdurdodau lleol, ble ydych chi'n rhoi'r flaenoriaeth? Ai drwy wneud pob pleidlais i gyfrif drwy system bleidleisio gyfranogol, er enghraifft, drwy newid y dull pleidleisio, gwahanol ddiwrnodau, pleidleisio electronig, pleidleisio mewn gwahanol ddulliau? Lle ydych chi'n meddwl y byddwch chi nid yn unig yn cael y bobl ifanc â'r hawl i bleidleisio, ond yn eu hannog nhw i bleidleisio yn ogystal?
Mae yna sgôp i ystyried y ffyrdd y mae pobl yn pleidleisio. Er enghraifft, nid oes dim rheswm pam y dylai pob etholiad fod ar ddydd Iau. Pam na allwn ni gael etholiadau ar y penwythnos? Mae hynny'n digwydd mewn sawl gwlad arall, wrth gwrs. Mae dydd Sul, wrth gwrs, yn hanesyddol, yn mynd i fod yn anodd yng Nghymru, ond mae dydd Sul yn cael ei ddefnyddio mewn sawl gwlad, lle mae mwy o bobl yn gallu mynd mas i bleidleisio. Mewn amser, rwyf i'n credu y gwelwn ni amser lle mae pobl yn gallu pleidleisio mewn ffordd electronig. Mae yna gwestiynau, wrth gwrs, ynglŷn â diogelwch, ond rwyf i'n siwr, ymhen amser, y byddai hynny'n cael ei ddatrys. Ond beth sy'n hollbwysig yw sicrhau bod pobl eisiau pleidleisio, eu bod nhw'n gwybod sut mae'r system yn gweithio, eu bod nhw eisiau pleidleisio, ac wedyn, wrth gwrs, ystyried ym mha ffyrdd yn y dyfodol y bydd modd ei wneud e'n rhwyddach iddyn nhw wneud hynny.
Prif Weinidog, cafodd y cynigion a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 mewn etholiadau cyngor lleol gefnogaeth drawsbleidiol eang, ac, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ei ddatgan,
'Mae democratiaeth leol yn dibynnu'n llwyr ar y rhai sy'n cymryd rhan.'
Prif Weinidog, mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau bod yr hawliau gwleidyddol yr ydym ni'n eu rhoi i'n holl blant wedi eu hategu gan weithgaredd a llythrennedd gwleidyddol cymesur. Pa gamau, felly, all Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru, ble bynnag y mae wedi ei eni a'i addysgu yng Nghymru, yn cael mynediad at addysg ddinesig gynhwysfawr a chyffredinol a bod hynny wrth wraidd ei addysg i sicrhau ei fod yn wleidyddol llythrennog ynghylch llywodraethiad Cymru a'r Deyrnas Unedig?
Wel, rydym ni'n datblygu cwricwlwm newydd i Gymru, ac un o bedwar diben y cwricwlwm newydd yw bod pobl ifanc yn gadael addysg fel dinasyddion moesegol a gwybodus sy'n gallu deall ac arfer eu cyfrifoldebau a'u hawliau dynol a democrataidd. Wrth gwrs, bydd gwneud yn siŵr bod hynny'n digwydd mewn gwirionedd yn rhan bwysig o'r cwricwlwm, oherwydd rydym ni'n gwybod bod addysg yn ymwneud â chymwysterau, ydy, ond mae'n ymwneud hefyd â datblygu'r unigolyn cyfan a gwybodaeth yr unigolyn cyfan am y gymdeithas o'i gwmpas.