Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 6 Mawrth 2018.
O ran sut y daethom ni i'r sefyllfa bresennol, roedd grŵp cynghori, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, a argymhellodd ddarparu cymorth yn y dyfodol trwy wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Nawr, yr egwyddor y tu ôl i hynny oedd sicrhau bod yr holl bobl anabl yng Nghymru yn cael eu cynorthwyo i fyw yn yr un ffordd, ac i sicrhau bod y cyllid cyfyngedig—a drosglwyddwyd gan Lywodraeth y DU, gadewch i ni gofio—yn cael ei ddefnyddio'n uniongyrchol at y diben hwnnw ac nid ar gostau gweithredu trefniadau ar wahân ar gyfer rhai pobl anabl yn unig. Rydym ni wedi gwneud yn siŵr yng Nghymru bod pob ceiniog o'r arian hwnnw wedi mynd i dderbynwyr. Ni fu hynny'n wir mewn mannau eraill yn y DU.