Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 6 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:51, 6 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Nid wyf i'n siŵr a yw arweinydd UKIP yn credu y dylwn i fod wedi torri drws y Tŷ Gwyn i lawr er mwyn mynnu cyfarfod gydag Arlywydd yr Unol Daleithiau. Nid yw'n gweithio felly, gallaf ei sicrhau. Ond, wrth gwrs, mae mater y tariffau ar ddur yn rhoi twll mawr iawn yn ei safbwynt o'r byd, byd ar ôl Brexit, oherwydd fe'n hysbyswyd ganddo ef a chan eraill bod y ffordd yn agored bellach i ni ddod i gytundeb, cytundeb masnach rydd, gyda'r Unol Daleithiau, ac eto un o'r pethau cyntaf y mae'r Unol Daleithiau wedi ei wneud yw cyflwyno tariffau ar ddur yr ydym ni'n ei allforio i'r Unol Daleithiau. Nid yw'n gam cyfeillgar iawn, yw e'?