Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 6 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:41, 6 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Prif Weinidog, mae'r cyfryngau wedi adrodd heddiw fod o leiaf 271 o gleifion iechyd meddwl agored iawn i niwed wedi marw dros y chwe blynedd diwethaf yn dilyn methiannau yng ngofal y GIG, a bod 136 o gyrff y GIG wedi cael rhybuddion cyfreithiol gan grwneriaid. Fel sy'n aml yn wir, mae'r adroddiad yn cyfeirio at gleifion yng Nghymru a Lloegr. A allwch chi ddweud wrthym pa un a oes unrhyw gorff GIG yng Nghymru wedi bod yn destun rhybudd cyfreithiol gan grwneriaid ynghylch marwolaeth claf iechyd meddwl?