Rheoleiddio Cwmnïau Rheoli Ystadau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 6 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:10, 6 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Ie, mae'r mater y mae'n ei godi yn un pwysig, oherwydd, yn gynyddol, yr hyn yr wyf i'n ei weld yw bod ystadau tai newydd yn cael eu hadeiladu ac yn hytrach na'r awdurdod lleol yn mabwysiadu nid yn unig y ffyrdd ond yr amgylchedd, mae ffi gwasanaeth yn cael ei chodi ar yr holl drigolion, er eu bod yn berchen ar eu tai fel rhydd-ddaliad, y mae'n rhaid iddyn nhw ei thalu. Nawr, nid yw'n eglur, wrth gwrs, pa fecanweithiau cyflafareddu sydd ar waith i wneud yn siŵr bod y swm a delir yn rhesymol. Bydd rhai datblygwyr yn cynnwys yn y contract gwerthu y bydd cynnydd penodol i'r lefel a bennir bob ychydig o flynyddoedd, ond nid yw hwnnw'n arfer cyffredinol. Felly, rwy'n credu bod yr Aelod wedi nodi pwynt pwysig yn y fan yma. Fel rheol, rydym ni'n tybio bod gan rydd-ddeiliaid fwy o hawliau na lesddeiliaid, ond mae hwn yn un maes lle nad yw hynny'n digwydd. Os ydym ni'n mynd i weld sefyllfa yn y dyfodol lle mae mwy a mwy o ddatblygwyr tai yn datblygu tai ar y sail eu bod nhw'n dweud wrth awdurdodau lleol, 'Edrychwch, nid oes unrhyw gost i chi', yna mae'r mater yn fwy difrifol, a byddwn yn fwy na hapus, wrth gwrs, i drafodaethau gael eu cynnal ag ef i weld sut y gellir bwrw ymlaen â hyn.