Rheoleiddio Cwmnïau Rheoli Ystadau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 6 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:09, 6 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn achub ar y cyfle i ganmol y Gweinidog dros Dai ac Adfywio am y gwaith a wnaed i sicrhau bod y contract lesddaliad cyn lleied â phosibl. Ceir un maes lle mae gan lesddeiliaid fwy o hawliau na rhydd-ddeiliaid mewn gwirionedd, sef lle gall lesddeiliaid herio'r hyn y maen nhw'n ei ystyried yn ffioedd gwasanaeth afresymol gan gwmnïau rheoli ystadau. Mae hawliau rhydd-ddeiliaid yn hyn o beth yn llawer mwy cyfyngedig. Yn wir, pan anfonodd etholwr sy'n rhydd-ddeiliad yn fy etholaeth i e-bost at gwmni rheoli ystadau i wneud cwyn, cafodd e-bost yn ôl gan gyfarwyddwr cwmni y cwmni rheoli ystadau gyda'r ateb sarhaus 'get a life'.

Rwy'n cyflwyno cynnig deddfwriaethol Aelod yn y Siambr hon yr wythnos nesaf i wella'r broses o reoleiddio cwmnïau rheoli ystadau ac i gryfhau hawliau rhydd-ddeiliad. Nid wyf yn disgwyl i'r Prif Weinidog ymrwymo Llywodraeth Cymru i'w gefnogi nawr, ond a fyddai'r Prif Weinidog yn fodlon cyfarfod â mi a'r Gweinidog Tai ac Adfywio i drafod hyn cyn yr wythnos nesaf?