Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 6 Mawrth 2018.
Prif Weinidog, mae arweinydd grŵp UKIP eisoes wedi codi'r mater bod yr Arlywydd Trump wedi trydar am y tariffau masnach ar ddur. Yn wahanol iddo fe, mae gen i a'm hetholwyr—mae llawer ohonynt yn weithwyr dur—bryderon dwys ynghylch cynnwys y trydariad hwnnw a'r goblygiadau sydd ganddo i'r diwydiant dur. A wnewch chi godi fel Llywodraeth gyda Llywodraeth y DU gymaint â phosibl y camau sydd i'w cymryd o fewn y DU i amddiffyn y diwydiant dur oherwydd mae'r gost i ddiwydiant dur y DU yn annerbyniol? Efallai mai 10 y cant sy'n mynd allan i'r Unol Daleithiau oherwydd Tata, ond mae'r 10 y cant hwnnw yn arwain at oblygiadau ariannol mawr i ddur a goblygiadau i Bort Talbot. A wnewch chi felly amddiffyn y diwydiant dur cymaint ag y gallwch a gwneud yn siŵr bod Llywodraeth y DU yn gwneud hynny ac yn gweithio gyda'r UE y tro hwn, yn hytrach na'i rwystro, i fynd i'r afael â'r mater hwn?