Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 6 Mawrth 2018.
Aeth y Prif Weinidog i'r Unol Daleithiau i hyrwyddo cytundeb masnach rydd rhwng y DU a'r Unol Daleithiau. Daeth yn ôl yn dweud wrthym fod yn rhaid i ni ei adael i'r UE. Onid y gwir yw bod ei bolisi o undeb tollau newydd gyda'r UE yn cynnig y gwaethaf o'r ddau fyd, o'r safbwynt na fyddai gennym ni bolisi masnach annibynnol ac eto ni fyddai gennym ni unrhyw ddylanwad a dim pleidlais dros bolisi masnach yr UE? Yn yr un modd â Thwrci, yr UE fyddai'n pennu ein polisi masnach ac ni fyddai gennym unrhyw ddylanwad. Gallai'r Unol Daleithiau neu Rwsia dargedu allforion y DU yn benodol ac ni fyddai gennym unrhyw rym i ymateb. Sut ar y ddaear fyddai hynny o fudd i ni?