Hyrwyddo Masnach Cymru ag Unol Daleithiau America

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 6 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:59, 6 Mawrth 2018

Yn eich cyfarfod gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Quebec yr wythnos diwethaf, a oeddech chi wedi cael cyfle i drafod y feto sydd ganddyn nhw yn Quebec dros gytundebau masnach rhyngwladol? Rŷch chi, yn eich sylwadau hyd yma, wedi dweud eich bod chi eisiau i Gymru gael dylanwad, ond nid y math o feto sydd gan daleithiau yng Nghanada, er enghraifft, ac, a dweud y gwir, ranbarthau Ewropeaidd fel Fflandrys a Wallonie hefyd. A ydych chi wedi newid eich barn yn sgil yr ymweliad?