Diwygio Llywodraeth Lleol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 6 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:08, 6 Mawrth 2018

Diolch yn fawr. Yn fan hyn, yr wythnos diwethaf, fe gadarnhaodd eich Ysgrifennydd Cabinet dros lywodraeth leol na fydd yn cario ymlaen efo'r cynigion cynharaf i ranbartholi, a hynny ar sail fandadol, ac felly, i bob pwrpas, mae cynigion ei ragflaenydd yn mynd i'r bin, hyd y gwelaf i. A oes cytundeb yn eich Cabinet chi am y newid cyfeiriad sylfaenol yma?