1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Mawrth 2018.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio llywodraeth leol? OAQ51870
Mae’r dull gweithredu o ran cryfhau llywodraeth leol yn cael ei ystyried ar hyn o bryd. Caiff cynigion eu hamlinellu maes o law.
Diolch yn fawr. Yn fan hyn, yr wythnos diwethaf, fe gadarnhaodd eich Ysgrifennydd Cabinet dros lywodraeth leol na fydd yn cario ymlaen efo'r cynigion cynharaf i ranbartholi, a hynny ar sail fandadol, ac felly, i bob pwrpas, mae cynigion ei ragflaenydd yn mynd i'r bin, hyd y gwelaf i. A oes cytundeb yn eich Cabinet chi am y newid cyfeiriad sylfaenol yma?
Wel, nid yw'r sefyllfa wedi newid ynglŷn â'r ffordd ymlaen. Beth mae pawb yn derbyn, wrth gwrs, rwy'n siŵr, yw bod yn rhaid ystyried y ffordd y mae llywodraeth leol yn gweithio. Nid oes neb yn dadlau bod y system bresennol yn un sy'n gweithio'n dda, ac, wrth gwrs, rŷm ni'n moyn gweithio gyda phleidiau eraill er mwyn sicrhau bod y strwythur yn fwy cynaliadwy yn y pen draw.