Part of the debate – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 6 Mawrth 2018.
Diolch yn fawr iawn, i holl staff yr NHS, am eich ymroddiad chi.
Mae nifer o gwestiynau gen i i'w gofyn. Mi fyddai rhywun yn gallu taeru bod popeth yn iawn o ran lefelau staffio yn y gwasanaeth iechyd o wrando ar y datganiad yma, ond mae gen i nifer o bethau rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig i'w pwysleisio a thynnu sylw atyn nhw yn fan hyn. Yr honiad yma bod yna record o nifer o staff yn gweithio yn yr NHS. Mae gennym ni'n dal lai o GPs, er enghraifft, yn gweithio yn yr NHS yng Nghymru nag oedd gennym ni yn 2013. Nid yw StatsWales wedi cyhoeddi ffigurau ar gyfer nifer cyfatebol o swyddi llawn amser ers tair blynedd, tra eu bod nhw'n edrych ar safon y data. Mae gennym ni lai o feddygon ysbytai nag yn 2014 unwaith yr ydych chi'n tynnu'r categori 'general practice doctors in training' allan o'r ffigurau—rhywbeth a gafodd ei ychwanegu o rywle at y ffigurau yn 2015.
Mae'n wir i ddweud bod ffigurau swyddogol yn dangos bod mwy o bobl yn gweithio mewn roles nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd. Nid yw hi, serch hynny, o'ch datganiad chi y prynhawn yma, yn glir faint o nyrsys wedi eu cymhwyso sydd yn gweithio—hynny ydy, wedi eu cymhwyso'n llawn—o fewn ein gwasanaeth iechyd ni. Ac rydym ni'n gwybod o gais rhyddid gwybodaeth gan y Daily Post yn ddiweddar fod yna 750 yn llai o nyrsys wedi cymhwyso yn llawn ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr nag oedd gennym ni bum mlynedd yn ôl.
Ac ychwanegwch at hyn bryderon ynglŷn â Brexit, ac nid ydym wedi gweld effaith hynny eto, er bod yna dystiolaeth anecdotaidd, yn sicr, ynglŷn â'r effaith negyddol. Ond a fyddech chi'n cyfaddef bod y darlun gawsom ni gennych chi yn y datganiad yn un anghyflawn? A wnewch chi gyfaddef hefyd fod rhaid i ni roi ystyriaeth wastad i'r darlun cyflawn, yn cynnwys yr elfennau negyddol—y problemau o ran cynllunio gweithlu—yn hytrach na'r elfennau positif sydd yna, heb gwestiwn, neu allwn ni ddim mynd i'r afael â datrys rhai o'r problemau hynny.
O ran lleoedd hyfforddiant wedyn, unwaith eto rydych chi'n sôn am leoedd hyfforddiant nyrsio, parafeddygon a gweithwyr iechyd eraill. Rwy'n dathlu unrhyw gynnydd sydd yna mewn niferoedd hyfforddiant, ond allwn ni ddim osgoi y cwestiwn anodd sydd yna ynglŷn â hyfforddiant meddygon a GPs yn benodol. Rwy'n eiddgar iawn i weld y Llywodraeth yma'n dod â ffigur i ni—faint o feddygon ydych chi'n gobeithio y gallwn ni weld yn cael eu hyfforddi yng Nghymru yn y blynyddoedd i ddod, ble bynnag y mae'r rheini? Hynny ydy, beth ydy ein hallbwn ni i fod o ran nifer y meddygon sy'n cael eu hyfforddi yma?
Mae hynny'n dod â ni ymlaen at y cynlluniau ar gyfer canolfan feddygol ym Mangor. Rydych chi'n hollol iawn, gyda llaw, fod y gorllewin hefyd yn bwysig iawn o ran cynyddu niferoedd pobl sy'n cael eu hyfforddi, ond, o ran Bangor, rwy'n falch iawn bellach fod sôn am hyfforddi meddygon ym Mangor yn rhan ganolog o unrhyw ddatganiad ar gynllunio ar gyfer y gweithlu. Rydw i a Siân Gwenllian yn sicr yn falch iawn i weld ein bod ni'n ennill tir yn fan hyn. Rwy'n hyderus iawn ar ôl trafodaethau efo Prifysgol Bangor ein bod ni'n mynd i'r cyfeiriad iawn, ond mi wnaf i, fel rwy'n ei wneud bob tro, ofyn i chi am ychydig llai o amwyster. Rydych chi'n sôn am gyfleon hyfforddi. Dywedwch wrthym ni rŵan eto y bydd hyfforddiant llawn yn digwydd ym Mangor o flwyddyn 1 i 5, achos dyna'r cyfeiriad rydym ni angen mynd iddo fo ac rydw i'n hyderus ein bod ni yn mynd i'r cyfeiriad hwnnw. Hefyd, mae'n bosib bod aderyn mewn llaw yn werth dau mewn llwyn, ac mae'n bosib na ddylwn i ganolbwyntio dim ond ar y meddygon, ond rwy'n dweud wrthych chi fod yna bwysau yn barod i gynnwys hyfforddiant deintyddol yn y ganolfan newydd ym Mangor. Rydw i eto, yr wythnos diwethaf, wedi cael pwysau i gyflwyno elfen o hyfforddiant fferyllol yn y ganolfan ym Mangor. Hynny ydy, nid dim ond meddygon yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw ond yr holl ystod o weithwyr proffesiynol ar draws y gwasanaeth iechyd.
Yn fyr iawn, o ran nyrsio, a allwch chi roi sylw i ni ynglŷn â datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer nyrsys yn benodol? Rwy'n gwybod ei fod o'n rhywbeth y mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn bryderus ynglŷn ag o, sef fod yna ddiffyg amser a sylw yn cael eu rhoi i CPD. Hefyd, nid oedd dim cyfeiriad yn y datganiad at ddarparu ar gyfer y Bil lefelau staffio diogel. A oes yna ddatganiad ynglŷn â ble yr ydym ni arni?