Part of the debate – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 6 Mawrth 2018.
Diolch i chi am y gyfres honno o gwestiynau. Byddaf yn ceisio ymdrin â nhw mewn trefn synhwyrol. Rwyf am ddechrau yn y dechrau drwy ddweud nad wyf yn meddwl bod fy natganiad yn osgoi realiti rhai o'r heriau a wynebwn. Rwy'n bendant iawn am yr heriau hynny yn y datganiad hwn yn ogystal. Yn sicr nid oes unrhyw awydd ar fy rhan i beidio â rhoi'r darlun llawn. Pe byddech yn dymuno cael darlun cyflawn a manwl, byddwn yn dal ar fy nhraed am beth amser, efallai y byddwn i'n hapus i fod ond efallai na fyddai Aelodau eraill. Ond, mae'n ffaith ddiymwad, nid honiad—mae'n ffaith ddiymwad—bod gennym y nifer mwyaf erioed o staff yn y GIG. Mae hon yn ffaith ddiymwad. Ond, o fewn hynny, rydym yn cydnabod bod heriau o fewn gwahanol grwpiau o staff, a hefyd sut y cawn ein grwpiau staff i weithio mewn ffordd wahanol yn awr ac yn y dyfodol. Dyna lawer o'r hyn y mae'n rhaid i ni dreulio ein hamser arno.
Byddaf yn ceisio ymdrin â'ch cwestiynau am recriwtio meddygon ar y pwynt hwn hefyd, a hyfforddiant. Nid wyf yn credu mewn gwirionedd y buom ni'n amwys am ein disgwyliad ar gyfer y gogledd. Rwyf wedi bod yn glir fy mod am weld cymaint o hyfforddiant meddygol ac addysg â phosib yn digwydd yn y gogledd. Rwyf yn fwriadol heb ymrwymo i ddweud yn hollol beth fyddai hynny oherwydd does gen i ddim cynllun o'm blaen i wneud hynny, ac mae angen imi ddeall y dystiolaeth o'r hyn sy'n bosib, y trafodaethau yr wyf wedi nodi yn fy natganiad sy'n mynd rhagddyn nhw, ac yna fe fydd cynllun wedi'i gymeradwyo. Bryd hynny, bydd mwy o fanylion.
Nid dim ond hynny, ond o glywed Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ymyrryd, mae pwynt difrifol am y gwaith y mae'n rhaid inni ei wneud gyda'n gilydd—y mae'n rhaid inni barhau i'w wneud gyda'n gilydd—ynglŷn ag ariannu, oherwydd mae pwysau yn y gyllideb, fel y bydd pawb yn yr ystafell hon yn gwybod. Felly, nid yw'n ymwneud yn unig â chael cynllun sy'n edrych ac yn swnio'n dda iawn, ond mewn gwirionedd mae'n rhaid i ni ei ariannu. Os ydym yn mynd i ariannu cynllun i wneud hynny, ynghylch pwy a ddisgwyliwn i lenwi'r lleoedd hynny, ac mewn gwirionedd wedyn i weld budd inni yn ei chyfanrwydd a gweld mwy o feddygon o Gymru yn gallu hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru, ond hefyd mwy o feddygon wedyn yn aros yng Nghymru, o ble bynnag y dônt, ar ddiwedd eu cyfnod astudio, ni allwn ni osgoi'r trafodaethau gwirioneddol ac ymarferol iawn hyn y mae angen inni eu cael. Mae a wnelo hyn â mwy na fi yn cyhoeddi safbwynt polisi gwych ac yna'n dweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, 'Mae angen i chi dalu amdano yn awr.' Nid yw mor syml â hynny ac ni ddylai fod.
Ynglŷn â'r agwedd fwy cyffredinol ynglŷn â dyfodol y gweithlu, dyna pam yr wyf wedi cyfeirio at Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ac mewn gwirionedd beth a ddaw o hynny a'r cynllun tymor hir ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru. Bydd angen i ni ddeall, er mwyn creu'r gweithlu hwnnw ar gyfer y dyfodol, y modelau gofal y byddwn yn dymuno eu cael a'r staff y bydd eu hangen arnom i allu cyflawni hynny yn ogystal. Rwyf am wneud y pwynt hwn am—. Fe wnaethoch chi sôn am heriau meddygon teulu; wel, dyna pam fod cam cyntaf 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' gyda meddygon teulu wedi bod mor llwyddiannus ac yn newyddion mor dda inni fel ein bod wedi gorlenwi ein lleoedd fel gwlad. Ond mae hefyd yn werth nodi pan fyddwn yn sôn am niferoedd meddygon teulu nad yw mwyafrif helaeth y meddygon teulu yn cael eu cyflogi gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Maent yn llunio contract gyda'r gwasanaeth iechyd gwladol i ddarparu gwasanaethau, a rhan o'n her wrth gyflenwi gweithlu'r GIG yn y dyfodol yw cael modelau cyflogaeth sy'n caniatáu inni wneud hynny.
Byddaf yn ymdrin â'ch cwestiynau am recriwtio nyrsys yn ogystal. Mae gennym ni'r nifer mwyaf erioed o nyrsys cymwys yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae hynny yn amrywio i raddau o un bwrdd iechyd i'r llall. Rwy'n cydnabod mai cyfeirio at y gogledd yr ydych chi, ond rwy'n glir iawn bod hyn ynghylch nyrsys cymwys, ac mae hyn yn mynd yn ôl at y pwynt ynghylch Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016, a fydd yn cychwyn ym mis Ebrill. Nid oes oedi ynglŷn â chychwyn hynny, a disgwyliaf allu sôn yn y dyfodol yn y lle hwn ynglŷn â'r camau cynnar o wneud hynny i weld effaith hynny ac i weld a ydym yn gweld gwelliannau yn ansawdd y gofal o ganlyniad i hynny, oherwydd dyna oedd diben y Ddeddf. Mae'n gwneud yn siŵr ein bod yn gweld gwelliannau yn ansawdd y gofal a ddarperir. Ond mae a wnelo hyn i raddau â dweud y bydd y rhain yn nyrsys cymwys, felly nid ydym yn troedio'r llwybr y buont yn ei droedio yn Lloegr o ran gweithlu'r GIG lle maen nhw'n cyflwyno cymdeithion nyrsio. Mae'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi cytuno i'w rheoleiddio, ond rwyf yn wirioneddol bryderus, fel yn wir y mae prif swyddogion nyrsio Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a yw hyn mewn gwirionedd ynglŷn â chyfnewid swyddogaethau ac mewn gwirionedd am yr arbediad ariannol yn hytrach na chael staff wedi'u cymhwyso'n briodol i wneud y swyddi cywir a sicrhau'r ansawdd cywir o ofal.
Fe wnaf i un sylw terfynol, oherwydd fe wnaethoch chi gyfeirio at Brexit. Mae gennym ni heriau gwirioneddol o ran recriwtio nyrsys yng Nghymru a ledled y DU ac yn y byd gorllewinol yn fwy cyffredinol. Gwyddom y bydd angen mwy o nyrsys. Mae hynny'n rhan o'r rheswm pam ein bod yn parhau i fuddsoddi mwy o arian mewn hyfforddi nyrsys—oherwydd gwyddom fod angen i ni feithrin llawer mwy o'n rhai ein hunain. Ond hefyd, er mwyn cynnal y gwasanaeth, mae angen inni barhau i recriwtio staff o rannau eraill o'r byd. Dyna hefyd pam yr wyf yn ei gwneud hi'n glir bod y gwasanaeth iechyd gwladol bob amser wedi dibynnu ar staff o bob cymuned, ond hefyd o bob gwlad ledled y byd yn ogystal. Mae'n rhan o'n llwyddiant mewn gwirionedd bod y gwasanaeth iechyd gwladol wedi gwneud y wlad yn fwy cosmopolitan ac amlddiwylliannol. Os edrychwch chi ar y bobl sy'n bodoli yng Nghymru yn awr mewn gwahanol gymunedau, maen nhw yma oherwydd y gwasanaeth iechyd gwladol.
Dyna pam fy mod i wir yn gobeithio ar ryw adeg cael ffrwydrad o synnwyr cyffredin ynglŷn â Brexit a'r safbwynt y byddwn yn ei chymryd mewn gwirionedd ar gael cyfatebiaeth yn y ddwy safon, boed hynny yn faterion fferyllol neu'n ymwneud â chymwysterau, a'n gallu i recriwtio staff o'r Undeb Ewropeaidd a hefyd llawer pellach na hyn. Pur anaml fy mod i'n dweud pethau dymunol am Jeremy Hunt yn gyhoeddus, ond mewn gwirionedd, credaf, ynglŷn â'r her o recriwtio staff o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd a'r byd ehangach, credaf fod Jeremy Hunt eisiau gallu gwneud hynny mewn ffordd synhwyrol. Yr her yw, yn Llywodraeth y DU, bod y Swyddfa Gartref yn parhau i fod yn rhwystr rhag gwneud hynny. Mae hynny'n her i bob un ohonom ni. Mewn gwirionedd rwy'n gobeithio y bydd ffrwydrad o synnwyr cyffredin yn Llywodraeth y DU i'r Swyddfa Gartref symud o'r ffordd fel y gellir recriwtio'r math cywir o staff gofal iechyd ar gyfer pob rhan o'r gwasanaeth iechyd gwladol ym mhob un o bedair gwlad y DU.