Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 6 Mawrth 2018.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig inni atgoffa ein hunain o bwysigrwydd y gweithlu yn y GIG. A gaf i ymuno â chi ac eraill ar draws y Siambr—ac rwy'n sicr fy mod yn siarad ar ran pawb na fyddant hyd yn oed yn siarad heddiw efallai am y cymorth a roddwn i staff y GIG, y gwerthfawrogiad sydd gennym o'u hymrwymiad, yn enwedig yn ystod y dyddiau diwethaf a'r anhawster o ran teithio? Hyd yn oed ar adegau pan fydd yr heddlu wedi dweud na ddylid ond teithio os yw'n hanfodol, mae staff y GIG a gofal yn credu bod eu presenoldeb i ofalu am gleifion a chleientiaid yn hanfodol, ac maen nhw wedi gwneud yr ymdrech honno. Roeddwn yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot fore Gwener—ni chawsom ein heffeithio mor ddrwg—yn gollwng fy ngwraig i fynd i'r gwaith, ond gwelais staff yn dod â bagiau dros nos, oherwydd roeddent yn dod o ardaloedd yr effeithiwyd arnynt ac roeddent yn gwybod bod angen iddynt fod yn y man gwaith hwnnw i ddarparu'r gofal i gleifion. Dylem werthfawrogi hynny bob amser a byth anghofio hynny.
Roeddech hefyd yn pwysleisio heddiw, yn amlwg, fod y niferoedd mwyaf erioed o staff yn y gweithlu. Cytunaf yn llwyr. Mae mwy o staff nag erioed o'r blaen yn y gweithlu. Ond rhaid inni hefyd gydnabod nad ydym bellach yn gyffredinolwyr, mae gennym lawer mwy o arbenigwyr mewn gwahanol feysydd ac, felly, mae gennym nifer fawr o staff, ond mae rhai ohonynt bellach yn arbenigo mewn meysydd a oedd yn llawer mwy cyffredinol cyn hyn. Byddaf yn cymryd maes fy ngwraig fel enghraifft. Mewn radiograffeg, mae gennym uwchsain, MRI, CT— tomograffeg gyfrifiadurol, meddygaeth niwclear, diagnosteg ychwanegol arferol, radiotherapi—[Anghlywadwy.] Mae cymaint o arbenigeddau yn yr un maes hwnnw fel y gallem ni gael mwy o radiograffyddion, fel y cyfryw, ond efallai llai fesul meysydd unigol. Felly, rwyf hefyd yn falch o weld y datganiad o fwriad ddoe sy'n tynnu sylw at y gwaith a wneir yn y maes delweddu penodol hwnnw, sydd yn newyddion da, yn ogystal. Mae yn rhaid inni gydnabod mai ystyr hynny yw y bydd prinder mewn mannau eraill.
Soniodd Dai Lloyd am feddygon iau, ond gadewch inni beidio ag anghofio'r meddygon teulu y tu allan i oriau, sydd hefyd yn fater o bwys y mae angen inni fynd i'r afael ag e, oherwydd rydym yn wynebu heriau gyda meddygon teulu y tu allan i oriau. Nid nifer y meddygon teulu yw hynny o reidrwydd, dim ond bod rhai pobl yn gallu cael amser i wneud gwaith y tu allan i oriau heb deimlo dan gymaint o straen yn eu gwaith bob dydd arferol. Mae hynny'n rhan o'r broblem y mae angen inni edrych arni.
Ond rhaid inni hefyd gydnabod bod hyfforddiant yn wych, ond mae'n cymryd blynyddoedd. Nid yw'n digwydd dros nos. Mae yna sawl blwyddyn o hyfforddiant ac yna y mae arnynt angen profiad, ac, weithiau, mae arnom angen y cyflenwi nawr. Felly, af ymlaen at un o'r materion ar gyfer nyrsio, er enghraifft. Mae cronfa nyrsys yn fater y credaf fod angen inni edrych yn ofalus iawn arno ym mhob bwrdd iechyd i sicrhau bod y gronfa yn gyson. Rwyf wedi cyfarfod ag undebau llafur sydd â phryderon bod—y ceir terfyn ar gronfa, neu os ydych chi'n mynd i wneud cronfa, rydych mewn gwirionedd yn gwneud contract newydd, fel na thelir goramser i chi. Felly, mae gwerth staff y GIG—gwnewch iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi drwy beidio â dweud wrthyn nhw, 'Ni allwch gael tâl goramser, mae gennych eich contract gwahanol eich hunan ac felly rydych yn cael cyflog cyfradd safonol ar gyfer gweithio 70 awr mewn wythnos efallai.' Mae angen inni ystyried creu cronfa i sicrhau ei fod yn gyson ledled Cymru a'i fod yn gwobrwyo staff, oherwydd ei bod yn rhatach na chael staff asiantaeth. Mae llawer o bobl nawr sy'n dewis peidio â chael cronfa, ac rydych yn defnyddio asiantaethau, ac mae hynny'n costio llawer mwy o arian i chi. Felly, os gwelwch yn dda ystyriwch siarad â byrddau iechyd i fynd i'r afael â'r mater hwn ynglŷn â chronfeydd.
Fe wnaethoch chi sôn hefyd am barafeddygon—newyddion gwych am barafeddygon, ond rydym hefyd yn gweld ystod ehangach o barafeddygon bellach—maent yn cael eu defnyddio mewn meddygfeydd teulu yn ogystal. Felly, fel yr ydym yn hyfforddi mwy, maent yn cael eu gwasgaru'n fwy eang mewn meysydd gwahanol. Felly, credaf fod angen inni gynyddu nifer y parafeddygon sy'n cael eu hyfforddi.
Yn yr un modd, fel y crybwyllwyd gan Suzy Davies, y ddeoniaeth—. Mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â rhai o'r materion y soniodd y ddeoniaeth amdanynt, i gynyddu nifer y meddygon sy'n cael eu hyfforddi i fod yn feddygon teulu. Rhaid i'r niferoedd gynyddu i'r terfyn o 170 yr oedd trafodaeth yn ei gylch. Nawr, rwy'n deall—. Allwn ni lenwi'r 170? Dyna'r cwestiwn, ond os nad ydym yn nodi nifer, fyddwn ni byth yn gwybod. Felly, credaf y dylem ni roi sylw i hynny yn ogystal.
Llywydd, terfynnaf ar hynny, oherwydd gwelaf fy mod yn brin o amser. Ond credaf fod hyn yn ymwneud â materion o werthfawrogi staff, nid dim ond dweud y geiriau, ond gweithredu ar y gwerthfawrogiad sydd gennym ni tuag at ein staff.