Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 6 Mawrth 2018.
Diolch ichi am y sylwadau a'r cwestiynau. Credaf ei bod hi'n adlewyrchiad o'r ffaith ynglŷn â faint mae'r GIG wedi datblygu o ran lefel y gweithgarwch sy'n digwydd yn awr—lefel y galw a ddaw drwy ddrysau'r gwasanaeth iechyd gwladol mewn gofal iechyd lleol ac mewn ysbytai a gallu'r gwasanaeth iechyd gwladol i wneud mwy. Mae hyn yn rhan o'n her. Mae hefyd yn gysylltiedig, wrth gwrs, â'r cynnydd demograffig a'r ffaith bod mwy ohonom yn byw yn hirach—rhywbeth i'w ddathlu, ie, ond mae hefyd yn her i'r gwasanaeth iechyd. Ond hefyd y ffaith nad yw iechyd y genedl wedi gwella ym mhob agwedd. Mae rhan o'r heriau yr ydym yn eu gweld yn dod drwy ein drysau yn ganlyniad i iechyd gwael ymhlith y boblogaeth.
Cytunaf â chi fod staff unigol, yn arbennig—a dyma bron bob amser ble mae hynny'n digwydd—. Af yn ôl i gyfnod blaenorol yn fy mywyd pan oeddwn, ar un adeg, yn cynrychioli rhai o aelodau Dawn Bowden ac eraill o ran gwasanaethau gofal iechyd ac agweddau cysylltiedig, mewn gwrandawiadau Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal a Chyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer, ac, mewn gwirionedd, rydych yn tueddu i weld mwy o staff iau yn cael y bai am fethiannau yn y system unigol ac rydych yn tueddu i beidio â gweld uwch gofrestryddion yn cael gwŷs ar gyfer y gwrandawiadau rheoleiddio hynny. Nid wyf yn meddwl bod hynny'n iawn ac mae angen inni feddwl eto am y diwylliant y byddwn yn ei greu a'r amgylchedd rheoleiddiol sy'n cydnabod cyfrifoldeb unigol a chyfunol wrth wneud hynny.
Rwyf hefyd yn cydnabod mai rhan o'r rheswm pam bod meddygon iau yn teimlo y cymerir mantais arnynt yn arbennig—. Nid wyf yn meddwl y gallwch synied yn rhy isel am hyn mewn gwirionedd, ond rwy'n dal i synnu, hyd yn oed yng Nghymru, gan y dicter a deimlir am anghydfod a streic y meddygon iau. Er bod llawer o'r meddygon iau yn dweud eu bod yn teimlo'n ddiolchgar am y ffaith eu bod yng Nghymru ac nid yn Lloegr ar y pryd, mae'n wir wedi gwenwyno'r ffynnon o ran sut y mae meddygon iau yn teimlo am y gwasanaeth iechyd cyfan a'u parodrwydd nid yn unig i hyfforddi yma ond wedyn i ymrwymo i aros o fewn y DU yn ogystal. Mae'r contract hwnnw yn rhan o ble'r ydym ni arni yn ein sgwrs gyda meddygon iau. Felly, rwy'n cyfarfod â Chymdeithas Feddygol Prydain yn rheolaidd ac maent yn rheolaidd yn dod â chadeirydd eu pwyllgor meddygon iau i hwnnw, yn rhannol oherwydd ei bod hi'n bryd i ni gael sgwrs am y contract a'r anghydfod, ond mae'n fwy ynglŷn â'r hyn a wnawn wedyn, oherwydd rotâu—mae hynny i gyd yn rhan o'r sgwrs a gawn. Felly, rwy'n dal i gael sgwrs agored ac adeiladol gyda Chymdeithas Feddygol Prydain, ac rwy'n disgwyl parhau i weld cynrychiolwyr eu meddygon iau, oherwydd mae arnom ni angen deall yr heriau penodol y maent yn eu hwynebu, yn arbennig oherwydd, wedi'r cyfan, maent yn rhan o ddyfodol y gwasanaeth.