Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 6 Mawrth 2018.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Dangosodd y penwythnos diwethaf pobl mor rhyfeddol sydd gennym ni'n gweithio yn ein GIG a'r sector iechyd a gofal cymdeithasol ehangach: meddygon a nyrsys yn gweithio shifftiau dwbl, meddygon teulu yn cysgu yn eu meddygfeydd, staff yn cerdded milltiroedd mewn storm eira, er mwyn sicrhau bod cleifion yn parhau i dderbyn gofal o'r radd flaenaf, er gwaethaf tymheredd o dan y rhewbwynt a lluwchfeydd. Felly, fe hoffwn i ddiolch ar goedd i holl staff ein GIG am y gwaith rhyfeddol y maent yn ei wneud, ddydd ar ôl dydd, waeth beth fo'r amodau a'r pwysau sydd arnynt. Efallai y byddaf yn anghytuno gyda chi o dro i dro ar bolisi, ond byddaf bob amser yn sefyll ysgwydd yn ysgwydd â chi wrth amddiffyn staff y GIG.
Yr unig broblem gyda gweithlu ein GIG yw nad oes digon ohonynt. Ysgrifennydd y Cabinet, croesawaf y buddsoddiad ychwanegol a wnaeth eich Llywodraeth mewn gweithwyr proffesiynol gofal iechyd anfeddygol a'r cynnydd mewn lleoedd hyfforddiant yng Nghymru. Fodd bynnag, ceir prinder cynyddol mewn rhai meysydd yn ein GIG. Wrth i'n GIG ddatblygu, bydd y gofynion staff yn newid. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, sut fydd y byrddau iechyd lleol ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i ystyried cynllunio gweithlu yn ein GIG mewn modd mwy strategol? Mae cynllunio yn hanfodol i fanteisio ar y newidiadau sydd ar y gorwel. A fydd AaGIC yn cynnal archwiliad o'r staff ym mhob arbenigedd er mwyn ymdrin ag unrhyw ddiffygion? Pan edrychwn ar staff diagnostig, mae Cancer Research UK yn dweud wrthym nad oes unrhyw ddata ynglŷn â faint o swyddi gwag sy'n bodoli ym maes endosgopi. Os ydym am fanteisio i'r eithaf ar effaith y prawf imiwnocemegol carthion ar ganser y coluddyn, rhaid inni sicrhau bod nifer digonol o staff sy'n gallu cynnal colonosgopi. Ysgrifennydd y Cabinet, a oes gennych chi neu AaGIC unrhyw gynlluniau i greu rhaglen hyfforddiant endoscopi anfeddygol o fewn GIG Cymru ?
Wrth gwrs, mae ymwneud y rhan fwyaf o gleifion gyda'r GIG yn digwydd ym meddygfa'r meddyg teulu, er gwaethaf y ffaith bod meddygfeydd cyffredinol yn derbyn ychydig dros 7 y cant o gyllideb y GIG. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cefnogi galwad Coleg Brenhinol Meddygon Teulu i gynyddu gwariant ar feddygfeydd teulu i 11 y cant o leiaf? Mae'r coleg brenhinol hefyd yn datgan bod angen tua 200 o leoedd y flwyddyn ar gyfer hyfforddi meddygon teulu. Rydych chi wedi gwneud cynnydd wrth gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi yn y blynyddoedd diweddar, ond a oes gennych chi unrhyw gynlluniau i gynyddu hyn ymhellach?
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae NHS England wedi cyhoeddi cynllun indemniad a gefnogir gan y wladwriaeth ar gyfer meddygon teulu dros y ffin. Felly, a oes gennych chi unrhyw gynlluniau i gyflwyno cynllun tebyg ar gyfer meddygon teulu yng Nghymru? Wrth i ni ddathlu pen-blwydd y GIG yn 70, mae'n bwysig pwysleisio na fyddai'n bodoli heb ein staff ardderchog, a rhaid inni wneud popeth a allwn ni i ddangos i staff y GIG cymaint yw ein gwerthfawrogiad ohonyn nhw, mewn termau ariannol a hefyd o ran cynyddu staff.