4. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 6 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 3:27, 6 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Caiff Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ar 8 Mawrth, ei gydnabod ledled y byd. Mae'n ddiwrnod i gydnabod a dathlu llwyddiannau menywod a merched ym mhob man. Y thema eleni yw Pwyso am Gynnydd. Hoffwn i achub ar y cyfle hwn i dynnu sylw at y cynnydd yr ydym yn ei wneud yng Nghymru a'r heriau yr ydym ni'n parhau i'w hwynebu.

Mae stereoteipio ar sail rhyw yn achos ac yn ganlyniad i anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Yn rhy aml o lawer, dydy menywod a merched ddim yn cael cyfleoedd i wireddu eu potensial o hyd. Rydym ni'n gweithio'n galed i newid a herio hyn mewn sawl maes. Mae ein gwaith ar STEM—gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg—yn enghraifft o sut yr ydym ni'n gweithio ar draws Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â stereoteipio ar sail rhyw. Rydym ni'n hyfforddi athrawon ffiseg ledled Cymru ynghylch dulliau addysgu cynhwysol o ran rhywedd. Rydym yn ariannu dosbarthiadau codio cyfrifiadur, gan gynnwys gweithdai penodol i ennyn diddordeb ac ysgogi merched. Mae tegwch rhwng y rhywiau yn cael sylw yn ein holl drefniadau cyllido sy'n gysylltiedig â STEM. Mae hefyd yn cael ei godi drwy'r rhwydweithiau cenedlaethol o ragoriaeth mewn gwyddoniaeth a thechnoleg a mathemateg. Nod ein rhaglen STEM Cymru 2 yw annog mwy o fenywod ifanc i symud ymlaen i yrfaoedd peirianneg. Hyd yma, mae dros 3,000 o fenywod ifanc wedi ymgysylltu â'r rhaglen.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pobl o bob oed. Mae mynd i'r afael â rhagfarn ar sail rhyw yn flaenllaw yn ein hymagwedd tuag at brentisiaethau, ac rydym wedi cyflogi hyrwyddwr cydraddoldeb i ddatblygu'r gwaith hwn.

Eleni, mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cyd-daro â'r Wythnos Prentisiaethau Genedlaethol. Mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal gan ein rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant i annog menywod i ystyried llwybrau anhraddodiadol.

Mae angen mwy o fenywod arnom ar bob lefel rheoli yn ein busnesau sector preifat. Nod benodol y prosiect Cenedl Hyblyg 2 yw datblygu menywod i ymgymryd â swyddi rheoli. Caiff ei gefnogir gan £8 miliwn o arian Ewropeaidd. Drwy'r prosiect hwn, rydym ni wedi gweld bod y cyfuniad cywir o hyfforddiant arweinyddiaeth, cefnogaeth ac anogaeth unigol yn gallu talu ar ei ganfed mewn gwirionedd a helpu menywod i gael swyddi gwell, dyrchafiadau neu godiadau cyflog. Rydym ni hefyd wedi gweld sut y gall menywod, pan fyddant yn cyrraedd y lefelau uchaf o reoli, helpu i arwain newid sefydliadol i hyrwyddo cydraddoldeb ar gyfer eu gweithlu cyfan, fel cyflwyno trefniadau gweithio hyblyg.

Mae angen mwy o amrywiaeth arnom hefyd mewn rolau lle gwneir penderfyniadau ac mewn bywyd cyhoeddus, ond rydym ni yn gwneud cynnydd. Yn 2016-17, roedd 47.8 y cant o'r bobl a benodwyd i swyddi cyhoeddus newydd a 50 y cant o'r ailbenodiadau yn fenywod. Yn dilyn etholiadau lleol mis Mai 2017, mae pedwar cyngor bellach yn cael eu harwain gan fenywod. Rydym yn disgwyl yn ffyddiog gweld mwy yn y dyfodol.

Mae'r holl sefydliadau a ariennir drwy ein rhaglen cydraddoldeb a chynhwysiant wedi ymrwymo i ddarparu cronfa fwy amrywiol o benderfynwyr. Yn rhan o'r gwaith hwn, mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru wedi lansio rhaglen fentora ar gyfer menywod, sy'n dechrau yn ddiweddarach y mis hwn. Fel llawer ohonoch chi, rwyf wedi ymrwymo i fod yn fentor ac rwy'n edrych ymlaen at gefnogi'r cyfranogwyr i ddod yn arweinwyr y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo ei hymrwymiad i 50:50 erbyn ymgyrch 2020. Mae bod yn rhan o'r ymgyrch yn dangos ymrwymiad cyhoeddus cyflogwyr i weithio tuag at gynrychiolaeth gyfartal rhwng y rhywiau mewn swyddi sy'n penderfynu ac yn dylanwadu yng Nghymru. Rydym hefyd wedi addo ein hymrwymiad i ymgyrch Working Forward y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau nad yw merched yn wynebu gwahaniaethu yn y gweithle yn gysylltiedig â beichiogrwydd neu famolaeth. Credaf y gall y sector cyhoeddus yng Nghymru arwain y ffordd a bod yn esiampl wrth arddangos arferion da a thrwy hyrwyddo manteision gweithleoedd heb wahaniaethu.

Rydym ni hefyd yn gweithio'n galed i gefnogi menywod sy'n wynebu rhwystrau wrth geisio cael hyfforddiant a chyflogaeth. Rydym ni'n cydnabod mai ailgyflogi yw'r llwybr gorau allan o dlodi, a'n prif bwyslais yw sicrhau bod pobl mor gyflogadwy â phosibl. Mae'r rhaglen Cymunedau dros Waith yn rhoi cefnogaeth bwrpasol i'r rhai hynny sy'n wynebu rhwystrau sylweddol a chymhleth, yn aml, sy'n eu hatal rhag dilyn hyfforddiant neu gael cyflogaeth. Bydd yn darparu dros £70 miliwn mewn gwasanaethau cymorth cyflogaeth yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru tan 2020. Erbyn mis Ionawr, roedd 5,730 o fenywod wedi cael cymorth gan y rhaglen.

Nod y rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth yw cefnogi rhieni i fod yn fwy cyflogadwy ac i gael gwaith mewn achosion pan mai gofal plant yw eu prif rwystr rhag cael addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Mae dros 95 y cant o gyfranogwyr PaCE yn fenywod, a thros 84 y cant o'r cyfranogwyr yn unig rieni hefyd. Rydym ni'n gwybod y bydd sicrhau bod gofal plant fforddiadwy a hygyrch ar gael yn rhoi mwy o ddewisiadau cyflogaeth i rieni, yn galluogi rhieni i weithio, ac yn cefnogi ein hymgyrch i gynyddu twf economaidd, trechu tlodi a lleihau anghydraddoldebau. Dyna pam yr ydym wedi ymrwymo i ddarparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y Llywodraeth i rieni sy'n gweithio sydd â phlant tair a phedair blwydd oed, a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Mae'n rhaid inni hefyd sicrhau bod plant yn cael eu dysgu am berthynas iach ag eraill o oedran ifanc. Mae'r cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru yn cynnwys, fel un o'i bedwar o ddibenion, y dylai pob person ifanc adael ein system addysg yn unigolion iach, hyderus sy'n gallu meithrin perthynas gadarnhaol ag eraill, yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd. Mae dysgu am berthynas iach ag eraill yn ifanc yn gam pwysig wrth fynd i'r afael â stereoteipio ar sail rhyw nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Ac, yn olaf, hoffwn dynnu sylw at y gwaith pwysig iawn sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae ystadegau'n dangos bod menywod yn fwy tebygol na dynion o fod wedi profi pob math o gam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae hyn yn cynnwys priodasau dan orfod, troseddau a gyflawnir er anrhydedd, ac anffurfio organau cenhedlu benywod. Yn dilyn Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn 2015, a oedd yn gam pwysig, cyhoeddwyd y fframwaith hyfforddi cenedlaethol yn 2016. Mae mwy na 70,000 o weithwyr proffesiynol wedi'u hyfforddi drwy'r fframwaith hwn hyd yma. Mae hynny'n 70,000 o weithwyr proffesiynol mwy hyderus, mwy ymwybodol a mwy gwybodus sy'n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus.

Ym mis Ionawr, lansiwyd ymgyrch Dyma Fi i fynd i'r afael â stereoteipio ar sail rhyw ac i annog pobl i fyw heb ofni cyfyngiadau ar sail rhyw a normau ar sail rhyw. Yn y pedair wythnos ar ôl ei lansio, mae wedi ei weld dros 200,000 o weithiau a gwelwyd cynnydd o bron i 2,000 y cant yn y defnydd o wefan Byw Heb Ofn. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad ddydd Iau, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ei hun, gan dynnu sylw at y cam nesaf yn ein gwaith i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'n bwysig bod y bobl hynny y gwnaethpwyd y polisi hwn ar eu cyfer yn gallu dylanwadu a llywio'r polisi hwnnw a rhannu'r hyn sy'n gweithio iddyn nhw. Y cam nesaf fydd gwneud cynigion ynghylch sut yr ydym yn gwneud hyn.

Yn y pen draw, rydym yn bwriadu adeiladu cymdeithas nad yw'n goddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol. Ond i ddod yn ôl at y pwyslais heddiw, mae'n ymwneud â dathlu menywod Cymru a'u cyfraniad i bob maes o fywyd Cymru. Ein swyddogaeth ni fel Llywodraeth yw pwyso am gynnydd a sicrhau bod gan fenywod a merched yr un cyfleoedd i wireddu eu potensial. Rydym ni'n pwyso am gynnydd, ac rydym yn gwneud y cynnydd hwnnw, ond nid ydym yn hunanfodlon. Mae llawer mwy i'w wneud. Mae gennym ni i gyd ddyletswydd i fynd i'r afael â stereoteipio ar sail rhyw, yn ei holl ffurfiau, i sicrhau nad yw'r cenedlaethau presennol a chenedlaethau'r dyfodol yn destun iddo, yn cael eu cyfyngu ganddo neu eu niweidio ganddo, i greu Cymru lle gall pawb ddyheu a chyflawni a bod y bobl y bwriadwyd iddynt fod. Diolch.