Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 6 Mawrth 2018.
Mae'r Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2018 yn diwygio'r rheoliadau a wnaed yn 2015 ar lety diogel ar gyfer plant. Mae llety diogel yn ffurfio rhan fechan ond bwysig iawn o ddarpariaeth llety plant sy'n derbyn gofal. Defnyddir lleoliadau gan awdurdodau lleol dim ond pan fo plentyn yn debygol o ddianc o unrhyw fath arall o leoliad a bod perygl sylweddol iddo wneud niwed iddo'i hun neu i rywun arall. Ym mhob achos, bydd yn rhaid i awdurdod lleol wneud cais i'r llys am orchymyn llety diogel. Nawr, ni ddylid gwneud hyn ond pan fo hynny'n gwbl angenrheidiol, a phan fo dewisiadau eraill wedi eu hystyried.
Mae'r gwelliannau a gyflwynwyd heddiw yn ceisio cyflawni dau beth. Yn gyntaf, ceir diwygiadau sy'n ganlyniad i newid i adran 25 o Ddeddf Plant 1989, sy'n caniatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr leoli plant mewn llety diogel yn yr Alban. Nawr, dylwn bwysleisio mai ein polisi ni o hyd yw y dylai plant sydd angen lleoliadau diogel, lle bynnag y bo'n bosibl ac yn briodol, gael lle i aros yng Nghymru. Fodd bynnag, oherwydd natur arbenigol y ddarpariaeth hon a'i natur byrdymor, mae lleoliadau i blant o Gymru yn Lloegr yn eithaf cyffredin, ac ambell waith, maent yn mynd i leoliadau yn yr Alban. Er bod y lleoliadau hyn i blant o Gymru yn yr Alban yn anghyffredin, rydym yn dal i fod eisiau gweld y dewis hwn ar gael i'r awdurdodau yng Nghymru. Buom yn ymgynghori ar hyn yn yr hydref ac roedd y rhan fwyaf o'r ymatebion, gan gynnwys yr un gan Gomisiynydd Plant Cymru, yn cefnogi'r ddarpariaeth hon, ar yr amod nad oedd i'w defnyddio ond ar sail eithriadol yn unig.
Yn ail, Dirprwy Lywydd, rydym yn gwneud rhai diwygiadau technegol i reoliadau 2015 sy'n anelu at sicrhau bod eglurder ynghylch y ffordd y caiff rheoliadau eu gweithredu ar gyfer lleoliadau trawsffiniol yn bennaf. Mae'r rhain yn ddymunol i warantu gweithrediad trawsffiniol y rheoliadau, yn enwedig o ran lleoliadau o Gymru i Loegr ac i'r gwrthwyneb. Yn wir, maen nhw'n sicrhau bod y rheoliadau o Gymru a Lloegr yn asio'n ddi-dor ac yn gweithio er lles gorau'r plant.
Felly, cymeradwyaf y rheoliadau hyn i'r Aelodau.