Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 6 Mawrth 2018.
Dirprwy Lywydd, fel y dywedais i yn gynharach, cyllidebau gweinyddol yw cyllidebau atodol yn bennaf. Mae’r gyllideb hon yn rhoi manylion i addasiadau amrywiol eraill sydd i’w gwneud i’n cyllideb yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae’r rhain yn cynnwys unrhyw newidiadau i grant bloc Cymru, adolygiadau o ragolygon ar wariant a reolir yn flynyddol, a throsglwyddiadau eraill rhwng ac o fewn portffolios Gweinidogion. Hoffwn ddiolch, unwaith eto, i’r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith yn craffu ar y gyllideb atodol hon, a gofynnaf i’r Aelodau ei chefnogi.