– Senedd Cymru am 4:31 pm ar 6 Mawrth 2018.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda, y ddadl ar ail gyllideb atodol 2017-18, a galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid i wneud y cynnig. Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r ail gyllideb atodol hon yn rhan safonol o'r broses rheolaeth ariannol flynyddol. Mae'n gyfle olaf inni addasu'r cynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a gafodd eu cymeradwyo gan y Cynulliad y llynedd. Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith craffu ar yr ail gyllideb atodol. Byddaf yn ymateb i'r Cadeirydd maes o law.
Yn bennaf, mae'r gyllideb hon yn gyfle i roi trefn ar y newidiadau sydd eu hangen o ganlyniad i reolaeth ariannol yn ystod y flwyddyn. Mae'n alinio'r adnoddau sydd ar gael gyda blaenoriaethau'r Llywodraeth. Mae'r mwyafrif o newidiadau i gynlluniau yn rhai gweinyddol yn bennaf.
Mae'r ail gyllideb atodol, felly, Dirprwy Lywydd, yn rhoi manylion am yr addasiadau o ganlyniad i drosglwyddiadau o fewn grwpiau gwariant gweinidogol, trosglwyddiadau rhwng prif grwpiau gwariant, dyraniadau o gronfeydd wrth gefn, newidiadau yn y terfyn gwariant adrannol cyffredinol, gan gynnwys symiau canlyniadol ac addasiadau eraill sy'n deillio o benderfyniadau Trysorlys EM, a rhagolygon diweddaraf gwariant a reolir yn flynyddol y cytunwyd arnynt â Thrysorlys EM.
O ran dyraniadau cronfeydd wrth gefn, mae'r GIG yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon, ac mae'r gyllideb hon yn cynnwys dyraniadau refeniw o dros £146 miliwn o'n cronfeydd wrth gefn i gefnogi GIG Cymru. Mae hyn yn cynnwys £50 miliwn a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ym mis Awst, i gefnogi gwelliannau mewn atgyfeirio i driniaethau, amseroedd aros diagnosteg a therapi. Cyhoeddwyd £10 miliwn pellach ym mis Ionawr i helpu i leddfu'r pwysau ar y GIG yn y gaeaf. Darparwyd arian ychwanegol hefyd i helpu'r un prif grŵp gwariant i ymateb i ddiffygion mewn dau fwrdd iechyd lleol a diffyg incwm amcangyfrifedig gan y cynllun rheoleiddio prisiau fferyllol.
Mewn dyraniadau refeniw eraill, Dirprwy Lywydd, mae'r gyllideb atodol hon yn dyrannu £4.1 miliwn o arian refeniw ar gyfer y gronfa cymunedau arfordirol, £4 miliwn ar gyfer cydweithredu rhaglen cydgasglu band eang y sector cyhoeddus, ac yn gwneud darpariaeth i'r Awdurdod Refeniw Cymru newydd.
Gan droi nawr, Dirprwy Lywydd, at gyfalaf, dyrannwyd £41 miliwn ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru i gefnogi ei raglen gyfalaf Cymru gyfan, gan gynnwys y datblygiad yn ysbyty athrofaol y Faenor, datblygiadau i wasanaethau newyddenedigol yng Nghaerdydd a'r Fro, rhaglen gweddnewid gwasanaethau canser Felindre a'r gwaith parhaus yn Ysbyty Glan Clwyd.
Mae mynd i'r afael ag anghenion tai yng Nghymru yn flaenoriaeth bwysig i'r Llywodraeth hon. Mae'r gyllideb atodol hon felly yn buddsoddi cyfalaf ychwanegol o £49.8 miliwn mewn tai ac yn parhau i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Dyrannwyd £10 miliwn pellach o'r cyfalaf trafodion ariannol ar gyfer y cynllun Cymorth i Brynu.
Rydym yn parhau, hefyd, i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o gefnogi ein hamcanion. Er enghraifft, mae'r gyllideb hon yn darparu cyfalaf trafodion ariannol o £32 miliwn i gefnogi cyfanswm o £40 miliwn yn fuddsoddiad i sefydlu cronfa safleoedd segur Cymru. Bydd hyn yn rhoi benthyciad ar gyfer datblygu i safleoedd pan fo hyfywedd ariannol yn rhwystr i gynnydd a phan fo'r farchnad yn methu â darparu'r cyllid mewn modd fforddiadwy.
Dirprwy Lywydd, fel y trafodwyd gyda Phlaid Cymru, bydd y gyllideb hon yn darparu buddsoddiad cyfalaf ychwanegol o £30 miliwn ar gyfer prosiectau penodol i gefnogi a datblygu'r defnydd o'r iaith Gymraeg mewn addysg. Bydd yn cyfrannu at y twf o siaradwyr Cymraeg gan gefnogi strategaeth iaith Gymraeg y Llywodraeth hon.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus fuddsoddiad o £30 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol i gynnal ac i atal y dirywiad yn y rhwydwaith ffyrdd lleol. Bydd hyn yn cefnogi rhaglen sylweddol o adnewyddu ac yn gwella cydnerthedd rhwydwaith ffyrdd yr awdurdodau lleol i'r dyfodol.
Dirprwy Lywydd, fel y dywedais i yn gynharach, cyllidebau gweinyddol yw cyllidebau atodol yn bennaf. Mae’r gyllideb hon yn rhoi manylion i addasiadau amrywiol eraill sydd i’w gwneud i’n cyllideb yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae’r rhain yn cynnwys unrhyw newidiadau i grant bloc Cymru, adolygiadau o ragolygon ar wariant a reolir yn flynyddol, a throsglwyddiadau eraill rhwng ac o fewn portffolios Gweinidogion. Hoffwn ddiolch, unwaith eto, i’r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith yn craffu ar y gyllideb atodol hon, a gofynnaf i’r Aelodau ei chefnogi.
Diolch. A gaf i alw nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am amlinellu blaenoriaethau’r Llywodraeth ar gyfer y gyllideb atodol. Mae’r Pwyllgor Cyllid, wrth gwrs, wedi cyfarfod i graffu ar y gyllideb gyda’r Ysgrifennydd Cabinet, ac roedd y pwyllgor yn gymharol fodlon wrth ystyried y gyllideb atodol hon, ac nid ydym wedi gwneud unrhyw argymhellion y tro yma, ond rydym wedi dod i bedwar casgliad.
Yn gyntaf, daethom i'r casgliad nad oes digon o fanylion, er bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi sôn amdanyn nhw. Nid oes digon o fanylion yn y gyllideb atodol ynghylch blaenoriaethau a sut mae blaenoriaethu yn cael ei wneud gan y Llywodraeth yn wyneb rhaglenni megis 'Ffyniant i Bawb', y rhaglen lywodraethu ei hun ac, wrth gwrs, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hon yn thema sy’n codi'n gyson wrth i ni graffu ar y gyllideb, a byddem yn annog y Llywodraeth i ddarparu cymaint o dystiolaeth ag sy’n bosib o sut mae’r dyraniadau'n bodloni amcanion y rhaglenni hyn. At hynny, credwn y byddai’n ddefnyddiol ac yn fwy tryloyw pe bai manylion penodol ar gael i esbonio sut y caiff yr ymrwymiadau eu hariannu. Er enghraifft, a ydyw cyllid yn dod o gronfeydd wrth gefn, neu o danwariant mewn meysydd eraill?
Mae ein trydydd casgliad ni yn ymwneud â chyfalaf trafodion ariannol. Yn ystod y gwaith craffu, soniodd Ysgrifennydd y Cabinet am y problemau sy'n gysylltiedig â'r ffrwd ariannu hon—mae e newydd sôn am un ateb i’r broblem yma, wrth gwrs—ac fe roddodd y wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am ei drafodaethau â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Fe wnaeth y Pwyllgor Cyllid ystyried cyfalaf trafodion ariannol wrth graffu ar y gyllideb ddrafft gwreiddiol ar gyfer 2018-19, a gwnaethom gydnabod cyfyngiadau'r ffrwd ariannol hon bryd hynny, gan ddod i'r casgliadau ein bod ni, wrth ddyfynnu:
'yn pryderu am y problemau sy’n gysylltiedig â’r cyfalaf trafodion ariannol y mae’n rhaid ei ad-dalu, a’r modd y gallai cyfyngiadau o ran defnyddio’r arian hwn gyfyngu ar Lywodraeth Cymru wrth iddi geisio cael y gwerth gorau am arian yn y modd y mae’n dyrannu’r arian hwn.'
Yn y gwaith craffu hwn, gwnaethom gydnabod unwaith eto gyfyngiadau'r ffrwd ariannu, ond byddem yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i barhau i ystyried pob ffordd bosibl o ddefnyddio'r cyllid sydd ar gael.
Mae ein casgliad olaf yn ymwneud â'r cyllidebau atodol a gyflwynwyd gan y cyrff a ariennir yn uniongyrchol gan y Cynulliad, sef Comisiwn y Cynulliad, Swyddfa Archwilio Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Ac i Aelodau sydd ddim wedi sylweddoli, nid dim ond cyllideb atodol y Llywodraeth sydd gyda chi ger eich bron heddiw, ond cyllideb atodol ar gyfer y tri chorff yma hefyd. Fel pwyllgor, cawsom olwg ar y cyllidebau atodol hyn, ar gyfer pob un corff, cyn bod cynnig y gyllideb wedi ei gyhoeddi, ac roedd y dull hwnnw o gael rhagflas a rhagolwg ar y gyllideb atodol, yn ein barn ni, yn werthfawr, a byddem ni’n annog y ffordd yma o weithredu yn y dyfodol. Diolch yn fawr.
Diolch. Mae nifer o siaradwyr yn y ddadl hon, a dim ond 30 munud sydd gennym ar gyfer y ddadl, felly, rwyf am ofyn i'r Aelodau ystyried mai am dri munud y bydd eu cyfraniadau nhw. Rwy'n sylweddoli y gall fod rhai ohonoch chi wedi paratoi ar gyfer mwy na thri munud. Rwyf am fod yn haelfrydig, ond nid wyf am fod mor hael hyd at—pan fydd pedwar munud a hanner wedi mynd heibio byddaf yn gofyn ichi gau pen y mwdwl. Felly, cawn weld sut yr aiff hi. Nick Ramsay.
Ni chredaf y bydd angen ichi ofidio y byddaf i'n hirwyntog, Dirprwy Lywydd. Roeddwn yn mynd i ddweud jôc, ond ni wnaf hynny.
Ni fydd yn syndod i Ysgrifennydd y Cabinet gael gwybod na fyddwn yn cefnogi'r gyllideb atodol heddiw. Credaf ein bod ni wedi agor y rhych hwn o'r blaen, felly gwn y bydd ef yn deall hynny. Er hynny, rwy'n derbyn bod rhai agweddau yr ydym yn eu croesawu. Rydym yn sicr yn croesawu'r newidiadau a ddaeth gyda chyllideb hydref 2017 Llywodraeth y DU, y mae Cymru wedi elwa ar £1.2 biliwn ychwanegol yn yr ariannu dros y pedair blynedd nesaf yn ei sgil, ynghyd â £160 miliwn ychwanegol ar gyfer GIG Cymru ac awdurdodau lleol dros y ddwy flynedd nesaf oherwydd symiau canlyniadol Barnett.
Wrth gwrs, ceir yma gynnydd mewn dyraniadau cyllidol a chyfalaf, fel yr amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet. Ac rydym yn llawn ddeall y pwysau sydd wedi bod ar Lywodraeth Cymru. Rwy'n gwybod ein bod ni yn aml yn y Siambr hon yn tynnu coes fel hyn ac fel arall am fethiannau—wel, yn eich achos chi, fethiannau Llywodraeth y DU, ac yn ein hachos ninnau fethiannau Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, mae'r holl Lywodraethau—y DU a Llywodraeth Cymru—wedi bod o dan bwysau oherwydd yr angen i ymdrin â'r diffyg ariannol dros y blynyddoedd diwethaf, ac i fantoli'r cyfrifon. Ni fu hwn yn gyfnod hawdd, ond rydym yn gwybod oherwydd y newyddion economaidd da a gafwyd yn y tridiau diwethaf fod cyllideb dros ben bellach o £3.8 miliwn—swm cymharol fychan o arian dros ben, ond serch hynny, yr arian dros ben cyntaf ers cryn amser, bron i 20 mlynedd. Felly, mae hynny i'w groesawu.
Rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru yn derbyn mwy o arian drwy'r grant bloc, ac rydym yn croesawu, fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, y fframwaith cyllidol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod fy mod wedi cefnogi hynny o'r cychwyn ac rwy'n fwy na pharod i ddweud fy mod i'n cymeradwyo Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am y gwaith caled a wnaed i ddatblygu'r fframwaith cyllid hwnnw dros gyfnod hir o amser. Gwn fod llawer wedi digwydd y tu ôl i'r llenni na ddaeth bob amser i sylw'r cyhoedd, ond rwyf i o'r farn fod hynny wedi bod er budd Cymru, a'r lle hwn a Llywodraeth Cymru ar eu gorau. Felly, mae yna newyddion da i'w gael.
Os caf i droi yn fyr at adroddiad y Pwyllgor Cyllid, rwy'n cytuno â geiriau Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Byddem yn hoffi gweld mwy o dryloywder yn y modd y pennir dyraniadau cyllideb atodol. Fe ddaw hyn yn gynyddol bwysig gyda'r datganoli o bwerau treth sydd ar fin digwydd fis nesaf—proses ac nid digwyddiad, os goddefir hen ymadrodd o hanes y Cynulliad. Bydd yn bwysig iawn gyda'r pwerau treth newydd hynny, a datganoli pwerau treth incwm, fod y broses mor dryloyw â phosibl, a bod y Pwyllgor Cyllid o dan y Cadeirydd, Simon Thomas, â rhan lawn i'w chwarae yn hynny. Rwyf yn falch fod adroddiad y pwyllgor wedi annog Ysgrifennydd y Cabinet i ddal ati i archwilio pob ffordd o ddefnyddio'r arian sydd ar gael o fewn rheolau Trysorlys y DU.
Pethau rhyfedd yw cyllidebau atodol yn eu hanfod, ac felly y bydd hi byth mae'n debyg. Ond credaf fod yna awgrymiadau da yn yr adroddiad hwn y gellid eu hystyried ar gyfer cyllidebau atodol y dyfodol, ac rwy'n gwybod bod y Pwyllgor Cyllid yn edrych ymlaen at weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar gyllidebau'r dyfodol er mwyn ceisio gwella'r strwythur a'r system o lunio cyllidebau.
Achos pryder yn y gyllideb hon ger ein bron yw rhywbeth sydd wedi cael ei bwysleisio yn y gorffennol, ac ar dudalen 16 yr adroddiad hwn. Mae'r diffygion ariannol y mae'r byrddau iechyd lleol ledled Cymru yn eu dwyn wedi bod yn destun pryder ers peth amser bellach, ac mae'n debyg y byddan nhw'n fater o bryder o hyd. Rydym ni, Geidwadwyr Cymru, yn pryderu y bydd y cyllid ychwanegol ar gyfer y GIG, er bod croeso iddo, os nad ydym yn ofalus, yn mynd tuag at gau'r bylchau ariannol ac nid o reidrwydd yn codi safon gofal iechyd fel yr hoffem ni ei weld. Nid pwynt pleidiol yn unig o'm rhan i yw hwn. Gwn fod Mike Hedges ei hunan wedi mynegi pryderon am allu'r GIG i amsugno arian heb iddo fod yn gwbl dryloyw bob amser lle mae'r holl arian hwnnw yn mynd. Felly, rwy'n gwneud y cafeat hwnnw, er ein bod yn croesawu'r gwariant ychwanegol ar y GIG. Felly, da o beth fyddai inni gael sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet y gwneir yn fawr o'r arian newydd hwn.
Beth bynnag, nodais ar y dechrau mai safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig ar y gyllideb hon yw, er ein bod yn croesawu'r arian ychwanegol heddiw, na fyddwn yn cefnogi'r gyllideb. Byddwn yn atal ein pleidlais, oherwydd yn ein barn ni, er mai cyllideb atodol yw hi, mae'n dilyn y brif gyllideb flaenorol nad oeddem ni yn ei chefnogi.
Rydw i hefyd yn gallu cadarnhau y bydd fy mhlaid i yn dilyn, wrth gwrs, ein patrwm cyson o ran y gyllideb yma ac yn ymatal ar y bleidlais fel rhan o'r cytundeb sydd rhyngom ni.
Mae yna bethau i'w croesawu, wrth gwrs—yn benodol, fel yr oedd yr Ysgrifennydd Cabinet wedi sôn, y £30 miliwn ychwanegol ar gyfer addysg Gymraeg fel rhan o'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth. O'i natur, wrth gwrs, mae cyllideb atodol, fel yr oedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei ddweud, yn dueddol o fod yn dechnegol weinyddol. Er gwaethaf hynny, wrth gwrs, byddwn i'n ategu'n sicr prif fyrdwn y neges a glywsom ni gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: yr angen, a dweud y gwir, inni ddeall yn well y stori tu ôl i'r ffigurau. Hynny yw, mae ffigurau, wrth gwrs, yn greiddiol bwysig i unrhyw gyllideb, ond mae geiriau hefyd, y naratif, yn hynod allweddol hefyd i ni ddeall y broses o ddod at y penderfyniadau ynglŷn â'r dyraniadau a'r trosglwyddiadau ac yn y blaen.
Yn benodol, wrth gwrs, mae hwn yn codi o ran sut y mae egwyddorion ac amcanion Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol wedi cael eu gweithredu. Mae'n rhywbeth yr oedd adroddiad y pwyllgor yn cyfeirio ato fe yn benodol, fe ddaeth lan yn nhystiolaeth yr Ysgrifennydd Cabinet, ac mi oedd e'n gallu rhoi rhai enghreifftiau lle yr oedd yr egwyddorion wedi cael eu gweithredu. Ond rydw i yn rhyw feddwl bod angen dynesiad sydd yn fwy systemataidd, hynny yw, rhywbeth ar hyd y llinellau lle byddai efallai yn y memorandwm esboniadol neu mewn adroddiad cyfatebol—bod yna ddadansoddiad ynglŷn â sut mae'r Llywodraeth wedi mynd ati i weithredu'r egwyddorion wrth ddod i'w hargymhellion o ran y gyllideb.
Jest ar gwpwl o bethau penodol—. Roedd Simon Thomas wedi cyfeirio at y trafodiadau ariannol. Rwy'n deall bod yna gyfyngiadau ynglŷn â sut y mae modd defnyddio nhw, wrth gwrs, ond pan fo yna gyfyngiadau, wrth gwrs, mae'n rhaid wedyn bod yn greadigol. Rydw i'n sylwi yn yr Alban, er enghraifft, fod Llywodraeth yr Alban wedi defnyddio trafodiadau ariannol ar gyfer benthyciadau i fusnesau bychain, er enghraifft, ar gyfer ariannu buddsoddiadau o ran carbon isel, y diwydiant carbon isel. Nawr, maen nhw wedi cyhoeddi'r bwriad i greu banc buddsoddi cenedlaethol i'r Alban gyda chyfalaf o £2 biliwn—£2 biliwn—felly tipyn yn fwy o ran sgôp na'r banc datblygu sydd gyda ni ar hyn o bryd, a thrafodiadau ariannol maen nhw'n mynd i'w defnyddio er mwyn cyrraedd y nod uchelgeisiol hwnnw. Felly tybed a oes yna sgôp i'r Llywodraeth gael trafodaeth gydag arweinwyr y banc datblygu i weld a ydym ni'n gallu efelychu'r Alban yn hynny o beth.
Cyfeiriais at yr arian ychwanegol ar gyfer addysg Gymraeg—mae hwnnw i'w groesawu. Mae'r ychydig o arian hefyd ar gyfer prosiect datblygu gyda'r Mudiad Ysgolion Meithrin hefyd i'w groesawu. Jest cwestiwn technegol—os nad yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu ateb nawr, gall ysgrifennu ataf i—mae yna drosglwyddiad yn y cynnig o £2.3 miliwn, o Gymraeg mewn addysg i hyrwyddo'r Gymraeg. Mae yna gyllideb eisoes yn bodoli wrth gwrs, drwy'r cytundeb rhyngom ni, ond mae yna £300 miliwn ar gyfer prosiectau eraill sydd yn ymwneud â hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym ni'n sôn am arian ychwanegol ar ben y £2 filiwn ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg a wnaethom ni negodi fel rhan o'r cytundeb, rydw i'n cymryd. Byddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu cadarnhau hynny i ni.
Un peth negyddol rydw i'n becso ychydig bach amdano yn y gyllideb ydy dau drosglwyddiad: o'r gronfa wyddoniaeth neu o'r llinell gwariant gwyddoniaeth i eiddo yn gyffredinol, ac £1.7 miliwn yn cael ei drosglwyddo o arloesedd i wybodaeth i fusnes yn gyffredinol. Mae hynny ar adeg, wrth gwrs, lle mae'r Llywodraeth yn y gyllideb nesaf yn mynd i dorri'r arian sydd ar gael ar gyfer arloesedd o 78 y cant. Rwy'n poeni i weld rhagor o arian yn cael ei drosglwyddo o'r cronfeydd ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd pan, a dweud y gwir, ddylem ni fod—ar adeg Brexit ar y gorwel ac yn y blaen, oni ddylem ni fod yn buddsoddi yn fwy yn ein sylfaen gwyddonol ac arloesol?
Erbyn y cam hwn yn y cylch ariannol, teimlaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn debyg i'r dyn sydd yn dilyn sioe yr Arglwydd Faer gyda rhaw er mwyn tacluso'r strydoedd ar ôl y prif ddigwyddiad. Felly, er inni bleidleisio yn erbyn y brif gyllideb, fel Nick Ramsay gallaf ddweud ar ran fy mhlaid i na fyddwn yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb atodol hon. Er ei bod yn gwneud rhai newidiadau sylweddol, tacluso'n unig yw llawer ohoni.
Rydym yn sicr yn cefnogi'r £30 miliwn ychwanegol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg i ddarparu ffrwd cyllid cyfalaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i'r blynyddoedd sydd i ddod, sef rhan hanfodol o wireddu amcan y Llywodraeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rwy'n sicr yn cefnogi popeth a dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid hefyd, ac, yn wir, Adam Price, o ran deall y fethodoleg o ran y newidiadau i flaenoriaethau, er eu bod ar ymylon y cyllidebau dan sylw, mewn perthynas â'r amcanion a nodwyd yn gyffredinol gan y Llywodraeth mewn dogfennau fel 'Ffyniant i Bawb'.
Hoffwn ganmol Ysgrifennydd y Cabinet hefyd am y dystiolaeth a roddodd i'r pwyllgor yn y cyswllt hwn a'i barodrwydd amlwg i weithio gyda'r pwyllgor yn hynny o beth. Yn sicr, y prif beth a ddaeth yn sgil ystyried y gyllideb yn y pwyllgor yn fy marn i oedd y dystiolaeth a gawsom am y gorwariant yn y gwasanaeth iechyd gwladol a'r byrddau iechyd lleol. Mae hon yn amlwg yn broblem gynhenid, a roeddwn yn cydymdeimlo ag Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd a'r anawsterau y mae hynny'n ei achosi iddo pan fyddwn yn gweld y diffygion ariannol annisgwyl hyn, sydd, gan hynny, yn cyfyngu ar y Llywodraeth mewn meysydd eraill hefyd. O ystyried pwysigrwydd iechyd yng ngolwg y cyhoedd, a maint y gwariant ar iechyd fel cyfran o gyllideb Llywodraeth Cymru, bydd gan unrhyw orwariant sylweddol gan awdurdodau iechyd lleol o reidrwydd sgil-effeithiau ar rannau eraill o'r gyllideb.
Yn anffodus, mae'n ymddangos mai gwaethygu y mae pethau yn hytrach na gwella, oherwydd, ym mharagraffau 25 a 26 o adroddiad y pwyllgor, fel y dywedwn ni:
'Roedd y sefyllfa gyfanredol ar gyfer yr holl Fyrddau Iechyd Lleol am y cyfnod o dair blynedd hyd at 2016-17 yn orwariant net o £253 miliwn', ac, ar gyfer y cyfnod hyd at fis Rhagfyr 2017, y diffyg oedd £135 miliwn, gydag
'amcangyfrif ar gyfer blwyddyn lawn 2017-18 dros £170 miliwn’, sy'n cymharu â diffyg gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn flaenorol o ddim ond £147.8 miliwn. Felly, mae hyn yn amlwg yn rhywbeth y mae angen ymdrin ag ef ar sail mwy hirdymor na dim ond mewn cyllideb atodol, ac rwy'n gobeithio y bydd yna rywfaint o gydnabyddiaeth o hyn yn y gyllideb lawn nesaf y flwyddyn nesaf—yn amlwg, ni ellir ymdrin â hynny yn y gyllideb atodol hon.
Gan hynny, mae fy nhair munud wedi dod i ben, Dirprwy Lywydd, a byddaf yn dangos esiampl nad yw eraill wedi ei gwneud efallai wrth imi gadw at eich awgrym. Felly, byddwn ni'n ymatal ar y bleidlais hon.
Diolch. 'Does gen i'r un seren aur i'w rhoi i neb heddiw, felly mae'n ddrwg gennyf am hynny. Mike Hedges.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siarad o blaid yr ail gyllideb atodol ac adroddiad y Pwyllgor Cyllid. Cytunaf yn llwyr ag argymhellion y Pwyllgor Cyllid, a byddwn yn croesawu mwy o fanylion am sut y mae dyraniadau arwyddocaol newydd wedi cael eu blaenoriaethu. Byddwn, er hynny, yn mynd ymhellach ac yn gofyn: beth fydd canlyniadau amcanol y gwariant hwn? Oherwydd rydym yn sôn llawer am yr arian yn mynd i mewn, ond nid ydym yn sôn llawer iawn am yr hyn yr ydym mewn gwirionedd yn mynd i'w gyflawni o'i herwydd.
Rydym yn cytuno y dylid cael arian ychwanegol ar gyfer iechyd—£146 miliwn mewn refeniw, £41 miliwn o arian cyfalaf. Rwy'n credu ein bod ni wedi cyrraedd y cam lle mae arian ychwanegol ar gyfer iechyd yn y gyllideb atodol flynyddol yn rhywbeth y gallwn ei ddisgwyl. Mae Neil Hamilton newydd fynd â ni drwy'r diffygion, felly nid wyf i am fynd dros hynny eto. Rwy'n troi at Betsi Cadwaladr, diffyg a ragwelwyd o £75.9 miliwn, a Hywel Dda, diffyg a ragwelwyd o £88.3 miliwn. Gofynnaf y cwestiwn hwn: a ydyn nhw'n cael eu tangyllido? Ai dyna'r broblem? A ydyn nhw'n cael eu rheoli'n wael? Neu a oes rhywbeth o'i le ar y strwythur bwrdd iechyd yn ei hanfod? Neu ai cyfuniad o'r tri pheth sydd yma? Os na all Ysgrifennydd y Cabinet roi rheswm arall i mi, ni allaf weld dim byd y tu hwnt i'r tri rheswm hyn am y problemau hynny, a phroblemau gweddol fawr ydyn nhw.
Rwy'n cytuno â'r Pwyllgor Cyllid pan mae'n cydnabod y cyfyngiadau o ran cyllid trafodiadau ariannol, a chytunaf ein bod yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i barhau i archwilio pob ffordd o ddefnyddio'r arian sydd ar gael, a chredaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i wneud hynny.
A gaf i ddyfynnu dogfen o Westminster? Yn 2012-13, cyflwynodd Llywodraeth y DU ddull ychwanegol o gyllido cyfalaf er mwyn rhoi hwb i fuddsoddi, sef y cyfalaf trafodiadau ariannol fel y'i gelwir. Nid yw cyfalaf trafodiadau ariannol yn ychwanegu gwariant cyfalaf fel y cyfryw, ac nid yw Trysorlys ei Mawrhydi yn eu hystyried yn drafodiadau gwariant. Y nodwedd sy'n gwahaniaethu cyfalaf trafodiadau ariannol yw na all y cronfeydd ond cael eu defnyddio gan y sector cyhoeddus yn fenthyciad i, neu'n fuddsoddiad ecwiti mewn, endid sector preifat. Caiff 'sector preifat' ei ddiffinio gan ganllawiau dosbarthu'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a chaiff ei bennu gan bwy sy'n rheoli, yn hytrach na pherchnogaeth neu a yw'r endid yn derbyn arian cyhoeddus neu beidio.
Ni all cyfalaf trafodiadau gael eu defnyddio i adeiladu ysgolion newydd, ni ellir eu defnyddio ar gyfer adeiladu ysbytai newydd ac, o dan ddosbarthiad cyfredol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ni ellir ei roi i gymdeithasau tai i adeiladu tai. Mae hon yn rheol a osodwyd gan y Trysorlys ei hun sy'n caniatáu gwariant, ond nid ychwanegu at gyfanswm gwariant cyfalaf y Llywodraeth. Nid yw ei drin fel benthyciad yn gwneud synnwyr o gwbl ond mae'n cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru a ninnau fel Cynulliad i wario arian ar y pethau a ddymunwn.
Yn olaf, ar fenthyciadau i fyfyrwyr, nododd y pwyllgor fod y cynnydd mewn refeniw nad yw'n arian parod sy'n ymwneud â chyfrifyddu adnoddau myfyriwr a chyllidebu ffioedd o ran benthyciadau i fyfyrwyr wedi cynyddu oddeutu £300 miliwn yn y gyllideb atodol. A gaf i ddarogan? Bydd £300 miliwn arall y flwyddyn nesaf. Mae'r dyraniad ychwanegol hwn nad yw'n arian parod gan Drysorlys ei Mawrhydi yno i dalu dyled benthyciadau myfyrwyr ac nid yw'n arian y gellid ei wario mewn gwirionedd ar unrhyw beth arall. Felly byddwn yn gobeithio bod pawb yn rhannu fy mhryder y bydd y canran o'r benthyciad i fyfyriwr y rhagwelir na chaiff ei dalu'n ei ôl, ac a gaiff ei ddileu, yn cynyddu bob blwyddyn. Mae hon yn broblem na fydd yn diflannu. Camgymeriad enfawr oedd ffioedd dysgu, ond trychineb oedd eu codi i £9,000.
Diolch. Jane Hutt.
Yn eich ail gyllideb atodol, Ysgrifennydd y Cabinet, roeddech chi'n gallu rhyddhau rhywfaint o arian o ganlyniad i'ch gwaith paratoi gofalus ar gyfer cyllideb mis Tachwedd 2017 y Canghellor a ffactorau cyllidol eraill. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn canlyniadau cadarnhaol i addysg a thai mewn perthynas â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. A wnewch chi egluro'r hyn yr oeddech yn gallu ei gyflawni drwy gyfalaf a/neu refeniw i gefnogi'r blaenoriaethau hyn?
A gaf i achub ar y cyfle, Dirprwy Lywydd, i roi sylwadau ar gyd-destun heriol yr ail gyllideb atodol, yr wyf yn ei llwyr gefnogi ac, yn wir, yn llwyr gefnogi adroddiad y Pwyllgor Cyllid hefyd? Nodaf fod y Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi cydnabod bod y diffyg cyffredinol yng nghyllideb y DU wedi ei ddileu. A gytunwch chi nad yw hynny'n gamp, fel y datganodd George Osborne, pan fo effaith mantoli'r gyllideb wedi bod yn bennaf ar fenywod a grwpiau incwm isel? Ac a ydych chi'n cytuno â'r economegydd Ann Pettifor fod y cyflawniad hwn, fel y'i gelwir, yn dinistrio ein gwasanaethau cyhoeddus, ac o dan oruchwyliaeth George Osborne torrwyd £14 biliwn ar gyfanswm y gwariant a reolir mewn termau real, ac aeth buddsoddiad y sector cyhoeddus o £60 biliwn yn 2010 i £35 biliwn yn 2016? Dyma'r cyd-destun y bu'n rhaid i chi weithio oddi mewn iddo, ac a ydych yn cytuno bod angen i Lywodraeth y DU gydnabod anghenion gwirioneddol ein gwasanaethau cyhoeddus ac iechyd, addysg a thai, a newid trywydd ar ôl naw mlynedd o galedi?
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n galw nawr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i ymateb i'r ddadl—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Simon Thomas am beth ddywedodd e? Rydw i'n edrych ymlaen i ystyried y casgliadau yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid. Rydw i'n siŵr fod pethau yna i ni eu dysgu, ac rydw i'n edrych ymlaen i ymateb i'r adroddiad.
Fe glywais i beth ddywedodd Cadeirydd y pwyllgor am gyfalaf, a financial transaction capital, yn enwedig. Rŷm ni yn trio gweithio yn greadigol i ddefnyddio yr arian sydd wedi dod atom ni yn y ffordd yna. Rydw i'n gallu dweud wrth Adam Price ein bod ni yn gweithio gyda Gweinidogion yn yr Alban. Cwrddais i gyda Derek Mackay cyn y Nadolig jest i rannu syniadau. Maen nhw'n wynebu yr un problemau â ni wrth drial defnyddio'r arian sy'n dod yn y ffordd yna, fel esboniodd Mike Hedges pan oedd e'n rhoi mas i ni gyd y rheoliadau sy'n dod gyda'r cyfalaf yn y ffordd yna.
Byddaf yn hapus iawn, wrth gwrs, i ysgrifennu at Adam Price ar y pwyntiau penodol a gododd ef.FootnoteLink Credaf fy mod yn iawn i ddweud bod y newidiadau o fewn y prif grŵp gwariant addysg wedi eu cynllunio i gefnogi'r cytundeb yr ydym wedi dod iddo gyda Phlaid Cymru, a dyna pam yr ydych yn gweld arian yn cael ei symud o gwmpas. Mae hynny o ganlyniad i'n cytundeb i wneud yn siŵr y gallwn gyflawni hynny, yn hytrach nag unrhyw beth arall.
Ar rai o'r pwyntiau eraill a godwyd gan Adam, credaf y byddwn yn canfod—ond byddaf yn gwirio'r manylion—fod y newidiadau hynny yn sgil ein gallu i gyflwyno rhywfaint o gyllid Ewropeaidd. Felly, nid gostyngiad mewn gwariant yw hyn, ond defnyddio arian arall, tra y gallwn ni, at y dibenion hynny fel y gallwn ryddhau arian i wneud pethau eraill hefyd.
Cyn iddo symud ymlaen at faterion eraill a thra bod cyfalaf trafodiadau ariannol ar ein meddyliau ni o hyd, mae'r Pwyllgor Cyllid yn gobeithio gwneud ychydig o waith ychwanegol ar hyn o ran y mecanwaith ariannu tu ôl i hyn. A yw'n gallu rhannu mwy o wybodaeth a gafodd gan y Trysorlys gyda ni am y disgwyliad o dalu hwn yn ôl, ac ar ba gyfradd neu ganran y disgwylir ei fod yn ei ad-dalu? Mae'n amlwg fod rhywfaint o risg ynglŷn â rhai o'r prosiectau y mae ef wedi cyfeirio atyn nhw hyd yma a chredaf fod risg gyda rhai o'r prosiectau y soniwyd amdanynt yn yr Alban hefyd.
Bydd, Dirprwy Lywydd, yn union felly. Nodais yn fy llythyr i Mike Hedges, yr wyf wedi ei roi yn y llyfrgell, y rheolau sy'n gysylltiedig â chyfalaf trafodiadau ariannol, gan gynnwys y ffaith bod yn rhaid i 80 y cant ohono gael ei dalu'n ôl, nid y swm llawn. Dyna ychydig o gydnabyddiaeth gan Lywodraeth y DU y ceir risg ac na chaiff holl gyfalaf trafodiadau ariannol ei ad-dalu. Ceir cyfraddau llog amrywiol y gallwch eu defnyddio yn dibynnu ar y risg sy'n ymwneud â defnyddio'r arian ac yn y blaen. Gobeithio y bydd unrhyw Aelod sydd â diddordeb yn rhai o'r manylion astrus ynglŷn a chyfalaf trafodiadau ariannol yn cael cyfle i edrych ar y llythyr yr achosodd Mike Hedges i mi ei ysgrifennu. [Torri ar draws.] Roeddwn yn falch o'i ysgrifennu.
Wrth ateb Nick Ramsay, mae ef yn iawn i ddweud ein bod yn dechrau gweld blaenffrwyth y fframwaith cyllid, ac rwy'n hapus i gydnabod mai gwaith ar y cyd oedd hwnnw. Cyfeiriodd Neil Hamilton at yr ail gyllideb atodol fel carthu ar ôl y ceffyl, ond mae'r bobl sydd yn gwneud peth felly o fudd i gymdeithas a chan hynny rwy'n derbyn ei sylw yn gymeradwyaeth o'r gwaith a wnawn wrth gyflwyno'r gyllideb hon gerbron y Cynulliad.
Mae nifer o'r Aelodau wedi cyfeirio at y GIG. Ni wnaf i byth ymddiheuro ar ran Llywodraeth Lafur am fuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd a gwneud yn siŵr, yn y rhannau hynny o Gymru lle mae'r frwydr galetaf i fyw o fewn y gyllideb sydd ar gael, nad yw canlyniadau'r frwydr yn cael eu teimlo ym mywydau'r cleifion sy'n dibynnu ar y gwasanaeth hwnnw. Dyna pam yr ydym wedi gweithio mor galed i ddod o hyd i'r arian ychwanegol hwnnw sy'n angenrheidiol a pham mae fy nghydweithiwr Vaughan Gething yn gweithio mor galed i geisio gwneud yn siŵr ein bod yn cael y gwerth gorau un am y buddsoddiad a wnawn.
Gofynnodd Jane Hutt i mi am ragor o fanylion o ran buddsoddiadau tai ac addysg ac roedd Mike Hedges yn cyfeirio at rai o'r un materion. Ynglŷn â thai yn arbennig, fy mhrif flaenoriaeth i o ran cyfalaf yw cefnogi penderfyniad Llywodraeth y Cynulliad hwn i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Mae tai yn un o brif gonglfeini bywydau ein cyd-ddinasyddion, ac rydym yn benderfynol o ddod o hyd i'r arian i fuddsoddi yn hynny. Mae bron £50 miliwn yn symud yn y gyllideb atodol i gefnogi hynny. O ran addysg, fel y clywsoch, ceir amrywiaeth o wahanol fuddsoddiadau yn y gyllideb atodol, ond bydd £30 miliwn i'w fuddsoddi mewn cyfalaf, mewn addysg cyfrwng Cymraeg, yn caniatáu i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddwyn buddsoddiadau ymlaen i'r flwyddyn ariannol hon ac yna i greu llif o fuddsoddiad mewn addysg cyfrwng Cymraeg i'r dyfodol. Mae ganddi hi gynlluniau uchelgeisiol i wneud yn siŵr ein bod yn gallu llunio'r genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg, yr ydym wedi ymrwymo i hynny ledled y Siambr hon, ac mae'r buddsoddiad hwnnw i'w gael yno i wneud hynny.
Gadewch i mi orffen, Dirprwy Lywydd, drwy adleisio'r hyn a ddywedodd Jane Hutt yn ei chyfraniad olaf: y bwgan sydd yn gwmwl dros yr holl gyllideb atodol hon, fel y mae dros bopeth a wnawn, yw'r oes o galedi. Pam ddylid disgwyl i ni godi ar ein traed a churo dwylo ar ôl wyth mlynedd o galedi oherwydd bod y Torïaid yn gallu dweud o'r diwedd eu bod wedi cyrraedd rhyw nod o arian dros ben yn y gyllideb—. Fe wnaethon nhw hynny drwy'r ffordd y maen nhw wedi torri a llosgi eu ffordd drwy'r gwasanaethau cyhoeddus. Pe bai'r twf mewn cyllidebau, a gafodd pob Llywodraeth arall ers 1945, wedi bod ar gael i'r Cynulliad hwn—mewn geiriau eraill fod y buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yn adlewyrchu yn syml y twf yn yr economi yn ei chyfanrwydd—byddai gennym ni £4.5 biliwn yn fwy i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol na'r hyn oedd ar gael i ni yn y gyllideb a bennwyd gennym cyn y Nadolig. Mae hwnnw'n ffigwr arwyddocaol dros ben: £4.5 biliwn nad yw ar gael ar gyfer ein gwasanaeth iechyd, ein gwasanaethau cymdeithasol, i fuddsoddi yn ein gwasanaethau addysg a phopeth arall y mae angen inni ei wneud. Roedd Jane Hutt yn gwbl gywir i dynnu sylw at y ffaith, o dan yr holl fanylion yr ydym wedi eu trafod y prynhawn yma, fod y ffaith sylfaenol honno yn aros. Mae llawer mwy y gallem ni ei wneud pe byddem wedi cael buddsoddiad teg yn y gwasanaethau yr ydym ni oll yn dibynnu arnyn nhw.
Diolch. Y cynnig yw cytuno â’r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.