Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 6 Mawrth 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am amlinellu blaenoriaethau’r Llywodraeth ar gyfer y gyllideb atodol. Mae’r Pwyllgor Cyllid, wrth gwrs, wedi cyfarfod i graffu ar y gyllideb gyda’r Ysgrifennydd Cabinet, ac roedd y pwyllgor yn gymharol fodlon wrth ystyried y gyllideb atodol hon, ac nid ydym wedi gwneud unrhyw argymhellion y tro yma, ond rydym wedi dod i bedwar casgliad.
Yn gyntaf, daethom i'r casgliad nad oes digon o fanylion, er bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi sôn amdanyn nhw. Nid oes digon o fanylion yn y gyllideb atodol ynghylch blaenoriaethau a sut mae blaenoriaethu yn cael ei wneud gan y Llywodraeth yn wyneb rhaglenni megis 'Ffyniant i Bawb', y rhaglen lywodraethu ei hun ac, wrth gwrs, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hon yn thema sy’n codi'n gyson wrth i ni graffu ar y gyllideb, a byddem yn annog y Llywodraeth i ddarparu cymaint o dystiolaeth ag sy’n bosib o sut mae’r dyraniadau'n bodloni amcanion y rhaglenni hyn. At hynny, credwn y byddai’n ddefnyddiol ac yn fwy tryloyw pe bai manylion penodol ar gael i esbonio sut y caiff yr ymrwymiadau eu hariannu. Er enghraifft, a ydyw cyllid yn dod o gronfeydd wrth gefn, neu o danwariant mewn meysydd eraill?
Mae ein trydydd casgliad ni yn ymwneud â chyfalaf trafodion ariannol. Yn ystod y gwaith craffu, soniodd Ysgrifennydd y Cabinet am y problemau sy'n gysylltiedig â'r ffrwd ariannu hon—mae e newydd sôn am un ateb i’r broblem yma, wrth gwrs—ac fe roddodd y wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am ei drafodaethau â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Fe wnaeth y Pwyllgor Cyllid ystyried cyfalaf trafodion ariannol wrth graffu ar y gyllideb ddrafft gwreiddiol ar gyfer 2018-19, a gwnaethom gydnabod cyfyngiadau'r ffrwd ariannol hon bryd hynny, gan ddod i'r casgliadau ein bod ni, wrth ddyfynnu:
'yn pryderu am y problemau sy’n gysylltiedig â’r cyfalaf trafodion ariannol y mae’n rhaid ei ad-dalu, a’r modd y gallai cyfyngiadau o ran defnyddio’r arian hwn gyfyngu ar Lywodraeth Cymru wrth iddi geisio cael y gwerth gorau am arian yn y modd y mae’n dyrannu’r arian hwn.'
Yn y gwaith craffu hwn, gwnaethom gydnabod unwaith eto gyfyngiadau'r ffrwd ariannu, ond byddem yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i barhau i ystyried pob ffordd bosibl o ddefnyddio'r cyllid sydd ar gael.
Mae ein casgliad olaf yn ymwneud â'r cyllidebau atodol a gyflwynwyd gan y cyrff a ariennir yn uniongyrchol gan y Cynulliad, sef Comisiwn y Cynulliad, Swyddfa Archwilio Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Ac i Aelodau sydd ddim wedi sylweddoli, nid dim ond cyllideb atodol y Llywodraeth sydd gyda chi ger eich bron heddiw, ond cyllideb atodol ar gyfer y tri chorff yma hefyd. Fel pwyllgor, cawsom olwg ar y cyllidebau atodol hyn, ar gyfer pob un corff, cyn bod cynnig y gyllideb wedi ei gyhoeddi, ac roedd y dull hwnnw o gael rhagflas a rhagolwg ar y gyllideb atodol, yn ein barn ni, yn werthfawr, a byddem ni’n annog y ffordd yma o weithredu yn y dyfodol. Diolch yn fawr.